Mater - penderfyniadau

Review of the Council’s Planning Code of Practice

23/08/2019 - Review of the Council’s Planning Code of Practice

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad ar God Ymarfer Cynllunio’r Cyngor. Eglurodd fel rhan o rôl y Pwyllgor Safonau i adolygu gweithrediad Cod Ymddygiad Aelodau a hybu a chynnal safonau ymddygiad uchel gan Gynghorwyr, fod y Cod Ymarfer Cynllunio (CYC) yn mynd gerbron y Pwyllgor i sicrhau ei fod yn darparu cyngor priodol a chlir i Aelodau am eu hymddygiad mewn perthynas â materion cynllunio ac argymell newidiadau i’r CYC os gellid ei wella. Argymhellodd y Pwyllgor Safonau rai newidiadau i’r CYC fel y manylir yn yr adroddiad ac fel y dangosir yn yr atodiad. Cymeradwywyd y newidiadau gan y Pwyllgor Cyfansoddiadol a argymhellodd fod y CYC, fel y’i diwygiwyd, yn cael ei fabwysiadu gan y Cyngor.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Mike Peers at Lobïo ac adrannau 5.1 o’r CYC a’r geiriad yn y frawddeg olaf “y dylai swyddogion fod yn ymwybodol o unrhyw ohebiaeth lobïo y mae Aelodau yn ei derbyn”. Dywedodd mewn nifer o geisiadau diweddar, a dyfynnodd ardal Penyffordd yn benodol, fod pob Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio wedi derbyn yr un ohebiaeth ac atodiadau, ac o ganlyniad byddai cryn ddyblygu gwybodaeth yn cael ei hanfon at yr adran Gynllunio gyda geiriad adran 5.1. Awgrymodd y byddai o gymorth gweinyddol pan anfonir gohebiaeth at bob aelod o’r Pwyllgor Cynllunio fod Cadeirydd y Pwyllgor yn anfon copi o’r ohebiaeth lobïo yr oedd pob Aelod wedi’i derbyn at y Swyddog Cynllunio.

 

Hefyd cyfeiriodd y Cynghorydd Peers at adran 5.2 o’r CYC a’r cyngor y dylai aelodau’r Pwyllgor Cynllunio osgoi ymgyrchu’n weithgar i gefnogi canlyniad penodol. Dywedodd y gallai pobl ofyn i Aelod fynychu cyfarfod cyhoeddus yn eu Ward a bod y cyfarfod yn cael ei hysbysebu fel un oedd yn gwrthwynebu cais penodol. Trwy fynd i’r cyfarfod gellid rhagdybio bod yr Aelod hefyd yn erbyn y cais er bod yr Aelod yn bresennol fel arfer i helpu i ddeall y materion a godwyd. Awgrymodd, o ran gwybodaeth yn adran 5.3 o’r CYC, byddai’n ddefnyddiol pe bai Aelodau’n gallu gwneud datganiad i swyddogion Cynllunio eu bod wedi mynychu cyfarfod cyhoeddus yn erbyn cais yn eu rôl fel Aelod Ward i geisio deall y gwrthwynebiadau a godwyd. Gan gytuno â’r pwyntiau a godwyd gan y Cynghorydd Peers rhoddodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) gyngor a chytunodd i ddiwygio’r CYC er mwyn sicrhau eglurhad pellach yngl?n ag ymgyrchu a phresenoldeb Aelodau mewn cyfarfodydd cyhoeddus i drafod cais.

 

Soniodd y Cynghorydd Clive Carver fod nifer o anghysonderau yn adran 5 o’r CYC yn nhermau cyfeiriadau a wnaed at Aelodau a hefyd at Aelodau’r Pwyllgor Cynllunio. Awgrymodd y Prif Swyddog gan nad oedd unrhyw aelodau wrth gefn ar y Pwyllgor Cynllunio, y byddai’n fuddiol pe byddai cyfeiriad at ‘Aelodau’r Pwyllgor Cynllunio’ ar ddechrau’r CYC a bod y geiriad yn cael ei newid i ‘Aelodau’ yng ngweddill y ddogfen i awgrymu’n glir bod Aelodau’n golygu Aelodau’r Pwyllgor Cynllunio. 

 

Diolchodd y Cynghorydd Patrick Heesom i’r Prif Swyddog (Llywodraethu) a Swyddogion am eu gwaith i adolygu Cod Ymarfer Cynllunio’r Cyngor

 

Cynigiodd y Cynghorydd David Wisinger yr argymhelliad a chafodd ei eilio

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y CYC yn addas i’r pwrpas ynghylch y cyngor yn ymwneud â Chod Ymddygiad Aelodau, y Protocol ar berthnasoedd Swyddogion/Aelodau, a’r cyngor gweithdrefnol yn ymwneud â materion cynllunio, yn amodol ar welliannau arfaethedig y cyfeirir atynt ym mharagraff 1.05 yr adroddiad, a gwelliannau a ddangosir mewn newidiadau wedi’u marcio yn yr adroddiad, a’r gwelliant pellach y cytunwyd arno gan y Cyngor Sir; a

 

(b)       Bod y CYC diwygiedig (gyda’r gwelliannau y cyfeirir atynt yn argymhelliad (a) uchod) yn cael ei fabwysiadu gan y Cyngor.