Mater - penderfyniadau

Environmental Enforcement

28/06/2019 - Environmental Enforcement

            Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad ar Orfodaeth Amgylcheddol a oedd yn egluro'r dull o gyflawni gweithgarwch gorfodi yn y Sir yn y dyfodol.

 

            Yn dilyn adolygiad diweddar o Wasanaeth Gorfodi Amgylcheddol y Cyngor, roedd Swyddogion Gorfodi y Cyngor ei hun wedi ailysgwyddo'r cyfrifoldeb dros orfodaeth ar gyfer mân droseddau amgylcheddol, fel gollwng sbwriel a rheoli c?n. 

 

Yn ystod yr adolygiad, argymhellodd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu y dylid ystyried y posibilrwydd y gallai Cynghorau Tref a Chymuned ariannu Swyddogion Gorfodi ychwanegol yn eu hardal. Byddai'r Cyngor yn cysylltu â'r holl Gynghorau Tref a Chymuned i gynnig cyfle i ariannu amser ychwanegol gan swyddogion yn eu wardiau.

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) fod Swyddogion Gorfodi yn gyfrifol am rawdiau ym mhob rhan o'r sir, a bod amserlen wedi'i llunio i sicrhau presenoldeb gorfodi rhesymol ym mhob ardal. Dyma'r meysydd gorfodaeth a drafodwyd gan y tîm:

 

·         Sbwriel;

·         Baw ci;

·         Rheoli meysydd parcio;

·         Gorfodaeth yn gysylltiedig â pharcio ar y ffordd;

·         Tipio anghyfreithlon;

·         Gorfodaeth yn gysylltiedig â gwastraff ochr; a

·         Symud ceir wedi'u gadael

 

Mynegodd y Cynghorydd Bithell rai pryderon ynghylch y trefniadau newydd am ei fod yn teimlo bod hynny'n gam yn ôl i weithrediadau gorfodi a oedd wedi'u cyflawni'n fwy diweddar, pan fu cwmni preifat yn gweithredu camau gorfodi. Dywedodd hefyd na fyddai cynghorau cymuned llai mewn sefyllfa i allu ariannu gwasanaethau ychwanegol, ond derbyniodd y gallent dderbyn adroddiad yn ôl i'w adolygu, gan mai cais gan Bwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd oedd hyn.

 

Mewn ymateb i sylw, cadarnhaodd y Prif Swyddog fod hyn yn egluro'r polisi cyfredol, gan gynnwys yr ymagwedd dim goddefgarwch.

 

Dywedodd y Cynghorydd Butler fod angen i drigolion mewn cymunedau gymryd cyfrifoldeb ac ymfalchïo yn eu cynefin.  Ymatebodd y Cynghorydd Thomas drwy ddweud bod angen i drigolion gydweithio â'r Cyngor ac y byddai ymagwedd y Cyngor yn taro cydbwysedd rhwng addysgu a gorfodi.

           

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo'r protocol sydd wedi'i nodi yn yr adroddiad ar gyfer mân droseddau amgylcheddol a chyflwyno Hysbysiadau Cosb Benodedig yn gysylltiedig â gollwng sbwriel a rheoli c?n; a

 

(b)       Cymeradwyo bod Cynghorau Tref a Chymuned yn cael cyfle i ariannu      Swyddogion Gorfodi ychwanegol yn eu hardaloedd eu hunain.