Mater - penderfyniadau

Council Tax Collection Rates

31/07/2019 - Council Tax Collection Rates

Cyflwynodd y Rheolwr Refeniw ddiweddariad ar y cyfraddau casglu Treth y Cyngordiwedd-blwyddyn diweddaraf, lefelau ôl-ddyledion a chymariaethau ag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru. Roedd yr adroddiad yn dangos bod  sefyllfa casglu Treth y Cyngor yn gwella fesul blwyddyn yn Sir y Fflint oedd yn cymharu’n ffafriol â chyfraddau casglu cyfartalog drwy Gymru, Lloegr a’r Alban.

 

Mae ystadegau diweddaraf Llywodraeth Cymru (LlC) ar gyfraddau casglu drwy Gymru ar gyfer 2018/19 yn dangos bod Sir y Fflint wedi cofnodi’r gyfradd gasglu uchaf o fewn un flwyddyn, sef 98.2%; roedd hyn yn uwch na chyfartaledd Cymru sef 97.3% (swm ychwanegol o £700K o ran llif ariannol). Er gwaethaf y cynnydd o 6.71% yn Nhreth y Cyngor ar gyfer 2018/19, roedd Sir y Fflint wedi cynnal lefelau casglu cadarn trwy ei ddull o ymgysylltu â thrigolion, cyfeirio eu sylw at ostyngiadau a thargedu cymorth i’r rhai  oedd yn cael trafferth talu. Ers cyhoeddi’r adroddiad, mae balansau ôl-ddyledion Treth y Cyngor ar gyfer 2018/19 wedi gostwng ymhellach i £1.2m.  Roedd nodyn ystadegol ar ‘Berfformiad Cymru Gyfan’ yn dangos a chymharu cyfraddau casglu Treth y Cyngor a Chyfraddau Busnes.

 

Wrth ganmol perfformiad Sir y Fflint, talodd y Cynghorydd Roberts deyrnged i’r Rheolwr Refeniw a’i dîm, a hefyd i drigolion Sir y Fflint am weithio gyda’r Cyngor i dalu eu Treth y Cyngor a chyfrannu at wasanaethau lleol. Hefyd manteisiodd ar y cyfle i ddiolch i’r holl staff oedd ar ddyletswydd yn ystod y cyfnod diweddar o dywydd mawr.

 

Yn ystod yr eitem hon, diolchodd y Cynghorydd Mullin a’r Cynghorydd Banks i’r Rheolwr a’i dîm am sicrhau’r canlyniadau, fel y gwnaeth nifer o Aelodau.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at benderfyniad LlC i gael gwared ar ddefnyddio ‘traddodiad’ fel dull adennill ar gyfer y rhai oedd yn amharod i dalu Treth y Cyngor. Dywedodd y Prif Weithredwr fod y Cyngor wedi gwneud sylwadau yn erbyn y penderfyniad hwn ar sail ei fod yn llwybr priodol i adennill taliad gan leiafrif o bobl oedd yn fwriadol yn osgoi talu Treth y Cyngor ac yn gwrthod cydweithredu. Tynnwyd sylw at effaith penderfyniad LlC ynghylch cyfraddau casglu yn y dyfodol gan nodi ei fod yn risg. Eglurodd y Rheolwr Refeniw fod y broses gwrandawiad traddodi’n wrandawiad teg i ystyried gallu rhywun i dalu.

 

Soniodd Cynghorydd Jones am yr effaith gadarnhaol ar y llif ariannol o ran sicrhau cyfraddau casglu o fewn blwyddyn a’r angen i wneud sylwadau ysgrifenedig i ailgyflwyno’r broses draddodi. Awgrymodd y Prif Weithredwr y dylai hyn fod yn rhan o drafodaeth ehangach ar Dreth y Cyngor fel rhan o’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig, gan ystyried tegwch a chynaliadwyedd Treth y Cyngor, Cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor a’r effaith ar y llif ariannol pe byddai cyfraddau casglu’n gostwng. Roedd dadansoddiad o ôl-ddyledion a ddilëwyd drwy Gymru i’w gweld yn ystadegau LlC.

 

Holodd y Cynghorydd Brown ynghylch ymestyn cytundebau talu i’r rhai oedd yn cael trafferth talu. Dywedodd y Rheolwr Refeniw fod trigolion yn cael eu hannog i dalu o fewn y flwyddyn a bod dulliau adennill yn cael eu haddasu i’r rhai nad oeddent yn gallu gwneud hynny.

 

Mewn ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd Johnson, soniodd y Rheolwr Refeniw am rannu arfer da drwy Gymru.

 

Dywedodd y Cynghorydd Shotton fod pryderon y Cyngor ynghylch cael gwared ar y broses draddodi wedi’i godi drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

 

Cynigiwyd yr argymhellion, a newidiwyd i adlewyrchu’r drafodaeth, gan y Cynghorydd Heesom ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Johnson.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn nodi, eu bodlonrwydd â’r lefelau casglu diweddaraf o ran Treth y Cyngor a’r wybodaeth ategol;

 

(b)       Llongyfarch y staff dan sylw am eu perfformiad;

 

(c)       Cynnwys y mater o golli’r broses draddodi, ystyried sut y gellir cynnal y perfformiad hwn o fewn SATC; a

 

(d)       Chofnodi bod y Pwyllgor yn gwerthfawrogi pobl Sir y Fflint am eu dealltwriaeth o’r angen i gynyddu Treth y Cyngor.