Mater - penderfyniadau

Environmental Enforcement

25/06/2019 - Environmental Enforcement

                        Cyn ystyried yr adroddiad ar Orfodaeth Amgylcheddol dosbarthodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) nodyn atodol i’r Pwyllgor ar incwm o Rybuddion Cosb Benodedig.

 

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) adroddiad i adolygu Polisi Gorfodaeth y Cyngor ar sbwriel.  Rhoddodd wybodaeth gefndir a dywedodd yn dilyn adolygiad diweddar o Wasanaeth Gorfodi Amgylcheddol y Cyngor, roedd Swyddogion Gorfodi’r Cyngor ei hun yn gyfrifol am orfodi’n ymwneud â throseddau amgylcheddol llai difrifol (gweld rhywun yn taflu sbwriel a ch?n yn baethu er enghraifft).   Aeth ymlaen gan ddweud fod y Cabinet wedi gofyn am adnewyddu’r protocol ar gyfer cyhoeddi Rhybuddion Cosb Benodedig ac yn arbennig y dull dim goddefgarwch a fabwysiadwyd yn flaenorol gan dimau gorfodi’r Cyngor a weithredwyd yn llym ar draws y Sir.    Dywedodd y Prif Swyddog fod yr adroddiad yn rhoi eglurder ar y dull ar gyfer gweithgareddau gorfodi yn y dyfodol a gwahoddodd y Rheolwr Gwasanaeth Rheoleiddio i gyflwyno’r adroddiad. 

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Rheoleiddio am y prif ystyriaethau fel y manylwyd yn yr adroddiad.    Cyfeiriodd at y gweithdrefnau ar gyfer cyflwyno Rhybudd Cosb Benodedig lle roedd gan Swyddogion Gorfodi reswm i gredu bod unigolyn wedi troseddu a bod yna dystiolaeth ddigonol a phriodol i gefnogi erlyniad yn y llys os na fyddai Rhybudd Cosb Benodedig yn cael ei dalu.    Eglurodd na fyddai taflu sbwriel yn ddamweiniol yn derbyn sylw drwy Rybudd Cosb Benodedig.    Gan gyfeirio at reoli c?n, eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio bod rheoli c?n yn parhau mewn ardaloedd cyhoeddus, gan gynnwys ardaloedd oedd yn destun Gorchymyn Man Agored Cyhoeddus, oedd yn cynnwys swyddogion mewn dillad plaen.

 

                        Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Rheoleiddio bod Swyddogion Gorfodi Cyngor Sir Y Fflint yn gyfrifol am batrolio ar draws pob ardal o’r Sir i sicrhau bod pob ward yn derbyn lefel briodol a rhesymol o bresenoldeb gorfodaeth, fodd bynnag, ni ellir gwarantu presenoldeb dyddiol ym mhob ardal.    Aeth ymlaen gan ddweud yn ystod cyfarfod o'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar yr Amgylchedd a gynhaliwyd ar 27 Tachwedd 2018, bod argymhelliad wedi'i wneud y dylid rhoi ystyriaeth i Gynghorau Tref a Chymuned ariannu Swyddogion Gorfodi ychwanegol o fewn eu hardaloedd.    Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Rheoleiddio er mwyn asesu’r lefel o ddiddordeb yn y cynnig y byddai’r Cyngor yn cysylltu â phob Cyngor Tref a Chymuned a chynnig y cyfle i dalu am amser swyddog ychwanegol yn eu hardaloedd ar gyfradd ddyddiol y cytunir arni i gymryd i ystyriaeth  y byddai holl refeniw a gynhyrchwyd drwy’r Rhybuddion Talu Cosb yn cael eu cynnal gan y Cyngor Sir.  Ar ôl cysylltu â Chynghorau Tref a Chymuned byddai ymarfer yn cael ei gynnal i bennu cynaliadwyedd cynllun ac ystyried pa un a ellir gweithredu’r prosiect gyda niferoedd staffio presennol neu a fyddai angen recriwtio Swyddogion ychwanegol.    

 

                        Cyfeiriodd y Cynghorydd Andy Dunbobbin at y wybodaeth atodol a ddosbarthwyd i’r Pwyllgor yn y cyfarfod a mynegodd bryderon am y cyfeiriad at darged incwm o £20k y flwyddyn, oedd yn cyfateb i 266 Rhybudd Cosb Benodedig bob blwyddyn.  Roedd yn cydnabod yr angen i orfodi camau yn erbyn troseddau amgylcheddol lefel isel gyda bwriad  ond dywedodd nad oedd cyflwyno Rhybuddion Cosb Benodedig wedi’i fwriadu fel ymarfer creu incwm.      Dywedodd y Prif Swyddog nad oedd yna dargedau misol wedi eu gosod i Swyddogion a byddai’r nifer o Rybuddion Cosb Benodedig a gyflwynwyd yn amrywio bob mis.  Eglurodd bod y ffigyrau a ddarparwyd yn ddangosol yn seiliedig ar y nifer o rybuddion a gyhoeddwyd yn flaenorol.    Dywedodd y Prif Swyddog y byddai’ Cyngor yn dibynnu ar farn broffesiynol ei Swyddogion Gorfodi i gael cydbwysedd rhwng addysg a gorfodi a’r camau a ddefnyddir fyddai’r Cyngor yn cymryd camau priodol yn erbyn pobl oedd yn taflu sbwriel yn fwriadol neu ddim yn gwaredu baw c?n yn briodol.  

 

                        Cyfeiriodd y Cynghorydd Chris Dolphin at y canllawiau yn yr adroddiad os ystyrir bod unigolyn wedi gollwng sbwriel yn fwriadol ac wedi cerdded 5 metr i ffwrdd o’r sbwriel yna cymerir camau gorfodi, ac awgrymwyd y dylid gostwng y peller i 3 metr.  Eglurodd  Rheolwr Gwasanaeth Rheoleiddio bod y pellter a nodwyd yn ganllaw cyffredinol yn unig ac os oedd unigolyn wedi gollwng sbwriel  byddent yn cael cyfle i godi'r gwastraff yn briodol.  Dywedodd bod y pwyslais ar gydbwysedd rhwng addysg a gorfodi.

 

 Dywedodd y Cynghorydd Dolphin am lefel presenoldeb gorfodaeth i reoli parcio a gweithgareddau gorfodaeth amgylcheddol eraill.  Eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth Rheoleiddio bod patrymau sifft ac amseroedd dechrau a gorffen swyddogion wedi newid yn ystod misoedd yr haf a’r gaeaf i gydfynd â newid mewn gweithgareddau dyddiol y cyhoedd a gwybodaeth yn ymwneud â materion cylchol.   

 

Mynegodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson bryderon am faterion baw c?n a dywedodd ei bod yn broblem barhaus yn ei Ward.   Mynegodd bryderon pellach yngl?n â rheoli c?n a dywedodd am risg i ddiogelwch gyda ch?n heb fod ar denyn neu dan reolaeth mewn mannau cyhoeddus.  Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaeth Rheoleiddio bod patrolio rheoli c?n yn parhau mewn mannau cyhoeddus, gan gynnwys ardaloedd oedd yn destun Gorchymyn Man Agored Cyhoeddus, ac roedd swyddogion yn siarad gyda cherddwyr c?n i roi gwybodaeth ar ardaloedd allgau a sut i gael gwared ar faw c?n yn briodol.  Dywedodd fod yna 7 o Swyddogion Gorfodi Amgylcheddol a’u rolau cyfunol yn cynnwys gweithgaredd gorfodi ar gyfer troseddau amgylcheddol.  Roedd trafodaethau’n cael eu cynnal gydag awdurdodau cyfagos i rannu rhai swyddogaethau cefn swyddfa o bosibl a all ryddhau cyllid i gynyddu’r nifer o swyddogion rheng flaen i wneud gweithgaredd gorfodi yn y dyfodol.

 

                        Roedd y Cynghorydd Carolyn Thomas yn cydnabod y pryderon a godwyd gan y Cynghorydd Hutchinson a dywedodd am yr angen i weithio’n agos gyda chymunedau lleol a chydlynwyr ardal i gasglu gwybodaeth ar faterion ailadroddus ac ardaloedd problemus, yn arbennig o ran baw c?n.    

 

                        Awgrymodd y Cynghorydd Joe Johnson bod arwyddion ychwanegol yn cael eu defnyddio mewn ardaloedd lle roedd baw c?n i hysbysu’r cyhoedd bod yr ardal yn cael ei monitro a’r angen i waredu baw c?n yn briodol.  Trafodwyd mesurau posibl eraill gan gynnwys y defnydd o baent chwistrellu, dyfeisiau sain a stensilau i amlygu ardaloedd problemus. 

 

                        Dywedodd y Cynghorydd Sean Bibby am y gost i’r Awdurdod ddarparu gwasanaethau glanhau a gweithgareddau rheoli gorfodi a phwysleisiwyd pwysigrwydd cyfathrebu gwell ac ymgyrchoedd addysgol gyda’r cyhoedd i addysgu a hysbysu'r cyhoedd. 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd David Evans at y cynnig i gysylltu â phob Cyngor Tref a Chymuned i roi’r cyfle i dalu am amser Swyddogion Gorfodi ychwanegol yn eu hardaloedd a mynegwyd pryderon na fyddai gan rai Cynghorau Tref a Chymuned yr adnoddau ariannol i ymuno â’r cynllun.    Dywedodd y Cynghorydd Carolyn Thomas y byddai pob Cyngor Tref a Chymuned yn parhau i dderbyn gwasanaeth ac na fyddai cyllid ar gyfer presenoldeb gorfodi ychwanegol yn effeithio ar y rotau presennol a’r drefn bresennol mewn ardal. 

 

Roedd y Cynghorydd Chris Bithell o'r farn y dylid cymryd camau mwy llym yn erbyn trosedd amgylcheddol ac unigolion oedd yn troseddu'n amgylcheddol yn fwriadol.   Roedd yn ategu sylwadau’r Cynghorydd Sean Bibby yngl?n â’r gost i’r Awdurdod o ddarparu gwasanaeth gorfodi a ‘glanhau’ yn ystod cyni cyllidol a dywedodd y bu dirywiad mewn safonau cyhoeddus y teimlodd fyddai’n parhau oni bai bod mesurau gorfodi effeithiol a chadarn yn cael eu gweithredu.    

 

Dywedodd y Cadeirydd am yr angen i addysgu plant ifanc i atal problemau o’r fath rhag codi yn y dyfodol ac awgrymodd y dylid cysylltu ag ysgolion cynradd yn Sir y Fflint i weld a oedd ganddynt ddiddordeb.    Eglurodd y Rheolwr Rhaglen bod llythyr wedi’i anfon at benaethiaid pob ysgol uwchradd yn Sir y Fflint gyda gwahoddiad i dderbyn cyflwyniad gan y tîm gorfodi ac roedd rhai ysgolion wedi derbyn y gwahoddiad.  Hefyd cyfeiriodd at y wybodaeth a oedd ar gael drwy grwpiau a sefydliadau eraill i godi ymwybyddiaeth mewn ysgolion ac ymhlith y cyhoedd.  

 

Mewn ymateb i’r awgrym gan y Cadeirydd i ymgymryd â gwaith gyda disgyblion mewn ysgolion cynradd cytunodd y Prif Swyddog y gellir gwneud gwaith rhagweithiol rhwng cydlynwyr ardal lleol ac ysgolion cynradd.    Awgrymodd y Prif Swyddog bod adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i gyfarfod o'r Pwyllgor yn y dyfodol i roi diweddariad ar y nifer o Rybuddion Cosb Benodedig a gyflwynwyd. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Paul Shotton bod yr ysgolion cynradd ac uwchradd yn ei ward ef wedi bod yn frwdfrydig yngl?n â chymryd rhan mewn gweithgareddau amgylcheddol a gorfodi.  Dywedodd fod trigolion lleol wedi bod yn gadarnhaol hefyd yn gwirfoddoli i fonitro eu hardal leol.  Cyfeiriodd y Cynghorydd Andy Dunbobbin at y gwaith a wnaed drwy fentrau a chynlluniau cymunedol a chyfeiriodd at y cynllun ‘Ein Iard Gefn' fel enghraifft.   

 

Roedd y Pwyllgor yn cefnogi’r fenter ac yn argymell i’r Cabinet ei fod yn cymeradwyo’r protocol a fanylwyd o fewn yr adroddiad ar gyfer troseddau lefel isel a’r mater Rhybuddion Cosb Benodedig ar gyfer troseddau baw c?n a sbwriel.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r fenter ac yn argymell i’r Cabinet ei fod yn cymeradwyo’r protocol a fanylwyd o fewn yr adroddiad ar gyfer troseddau lefel isel a’r mater Rhybuddion Cosb Benodedig ar gyfer troseddau baw c?n a sbwriel.

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn argymell bod y Cabinet yn cymeradwyo’r cynnig i roi'r    cyfle i Gynghorau Tref a Chymuned gefnogi Swyddogion Gorfodi            ychwanegol yn eu hardaloedd.