Mater - penderfyniadau

Becoming a 'Dementia Friendly Council'

15/07/2019 - Becoming a 'Dementia Friendly Council'

                        Cyflwynodd y Cynghorydd Jones adroddiad Bod yn Gyngor Cyfeillgar i Ddementia ac eglurodd fod rhaglen Cymunedau/ Sefydliadau Cyfeillgar i Ddementia y Gymdeithas Alzheimer's yn ceisio annog pawb i rannu cyfrifoldeb i sicrhau bod pobl gyda dementia yn teimlo eu bod yn cael eu deall, eu gwerthfawrogi ac yn gallu cyfrannu at eu cymunedau.

 

                        Roedd yn canolbwyntio ar wella cynhwysiant ac ansawdd bywyd drwy hyfforddiant a chodi ymwybyddiaeth mewn cymunedau a sefydliadau fel eu bod yn gallu ymateb yn well i anghenion y rhai hynny sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr.

 

                        Dywedodd yr Uwch Reolwr – Gwasanaethau Integredig ac Arweinydd Oedolion bod dementia yn flaenoriaeth mewn cynlluniau corfforaethol nifer o Gynghorau eraill ond er mwyn selio ymrwymiad y Cyngor, roedd y Cyngor yn dymuno symud ymlaen i fod yn Gyngor Cyfeillgar i Ddementia a fyddai ymhlith y rhai cyntaf yng Ngogledd Cymru.

 

                        Roedd ymwybyddiaeth wedi bod yn cael ei godi dros nifer o flynyddoedd am ddementia a sut roedd yn effeithio ar bobl mewn cymunedau gyda’r nodi o gynyddu sgiliau staff i wella ymarfer y Cyngor, gyda nifer o ganlyniadau positif yn cael eu cyflawni.  Hyd yma mae gan Sir y Fflint saith cymuned Cyfeillgar i Ddementia a thri sefydliad sy’n Gyfeillgar i Ddementia.

 

                        Wrth ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Thomas, dywedodd yr Uwch Reolwr yn byddai’n canfod manylion am y broses a llwybrau mewn perthynas â’r gronfa ddata a gedwir gan yr Heddlu, a sut yr ychwanegwyd pobl gyda dementia at y gronfa ddata hono, ac ymateb yn uniongyrchol i’r Cynghorydd Thomas. Byddai hefyd yn anfon at Aelodau Cabinet am y ‘Protocol Herbert’ a oedd yn rhan o’r hyfforddiant ar ddementia.

 

            PENDERFYNWYD:

 

            Cytuno fod Cyngor Sir y Fflint yn symud tuag at fod yn Sefydliad Cyfeillgar i Ddementia.