Mater - penderfyniadau
Year-end Council Plan Monitoring Report 2018/19
08/01/2020 - Year-end Council Plan Monitoring Report 2018/19
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) yr adroddiad cynnydd diwedd blwyddyn 2018/19 ar Gynllun y Cyngor ar gyfer 2018/23 gan ddarparu dadansoddiad o’r flaenoriaeth ‘Cyngor sy’n Dysgu’ a oedd yn berthnasol i’r Pwyllgor.
Cynghorodd y Prif Swyddog bod yr adroddiad monitro ar gyfer Cynllun y Cyngor 2018/19 yn adroddiad cadarnhaol gyda 92% o’r gweithgareddau wedi gwneud cynnydd da yn ôl yr asesiad a 89% yn debygol o gyflawni’r canlyniad a ddymunwyd. Roedd dangosyddion perfformiad yn dangos cynnydd da gyda 70% ar y trywydd cywir, roedd 20% yn cael eu monitro a 10% wedi gwyro oddi ar y trywydd cywir. Roedd y risgiau hefyd yn cael eu rheoli'n llwyddiannus gyda'r mwyafrif yn cael eu hasesu’n risgiau cymedrol (64%), mân risgiau (14%) neu’n risgiau ansylweddol (11%).
Tynnodd y Cynghorydd Dave Mackie sylw at dudalennau 98 a 99 yr adroddiad, IP 3.1.1.6 ac IP 3.1.1.7, a dywedodd nad oedd unrhyw ddata wedi’i ddarparu ar gyfer y flwyddyn wirioneddol. Cyfeiriodd hefyd at dudalen 103, IP 3.1.6.1, a dywedodd nad oedd data ar gyfer y flwyddyn flaenorol. Darparodd y swyddogion eglurhad ynghylch y dadansoddiad a gyflwynwyd.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r adroddiad.