Mater - penderfyniadau

Year-end Council Plan Monitoring Report 2018/19

27/11/2019 - Year-end Council Plan Monitoring Report 2018/19

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) adroddiad i roi crynodeb o berfformiad am y sefyllfa ar ddiwedd y flwyddyn 2018/19 ar gyfer y blaenoriaethau yng Nghynllun y Cyngor sef ‘Cyngor Cefnogol’ a ‘Chyngor Uchelgeisiol’ a oedd yn berthnasol i’r Pwyllgor.  Roedd yr adroddiad yn adroddiad am eithriadau ac felly’n canolbwyntio ar y meysydd a oedd yn tanberfformio.  

 

Rhoddodd y Rheolwr Budd-Daliadau a’r Rheolwr Gwasanaeth – Rhaglenni Tai'r wybodaeth ddiweddaraf am y dangosyddion perfformiad a ganlyn a oedd yn dangos Statws Coch Melyn Gwyrdd – coch ar gyfer perfformiad cyfredol yn erbyn y targed.

 

·         Y nifer o dai Cyngor ychwanegol sy’n cael eu hadeiladu drwy raglen SHARP;

·         Y nifer cyfartalog o ddiwrnodau a gymerwyd i ddarparu Grant Cyfleusterau i’r Anabl; ac

·         y bydd lefelau dyled yn codi os na fydd tenantiaid yn gallu fforddio talu eu rhent neu dreth y cyngor.

 

            Rhoddodd y Cadeirydd wahoddiad i’r Cynghorydd Patrick Heesom i ofyn cwestiwn, a oedd yn mynychu’r cyfarfod fel arsylwr.  Cyfeiriodd y Cynghorydd Heesom at y dangosydd perfformiad i ddatrys yr amlder cynyddol o wersylloedd Sipsi a Theithwyr anawdurdodedig a gwella safle parhaol y Cyngor, a holodd a oedd modd cael y wybodaeth ddiweddaraf am y grant gan Lywodraeth Cymru i gyflawni hyn.  Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth – Rhaglenni Tai wybod bod cais am Grant Safleoedd Cyfalaf wedi cael ei gyflwyno i LlC i wella edrychiad safle glan yr afon, a bod y Cyngor wedi cael £250,000 o arian cyfalaf ar gyfer adnewyddu.  Gobeithwyd y gellid cwblhau’r gwaith cyn diwedd y flwyddyn ariannol.

 

            Mewn ymateb i’r pryderon a godwyd gan yr Aelodau am y sbwriel ar safle glan yr afon, dywedodd y Prif Swyddog y byddai’r arian yn cynorthwyo gydag adnewyddu’r safle a hefyd rheoli’r safle yn y dyfodol.  Erbyn hyn, cyfrifoldeb y Cyngor fyddai hynny, yn hytrach na’r trefniant drwy asiantaeth oedd yn digwydd cynt ac yn y gorffennol.         

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad.