Mater - penderfyniadau

Council Fund Budget 2019/20

09/08/2019 - Council Fund Budget 2019/20

 

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad ar Gyllideb Cronfa’r Cyngor                     2019/20 er mwyn derbyn argymhellion gan y Cabinet i’r Cyngor i gau’r gyllideb flynyddol ar gyfer 2019/20 yn dilyn trafodaeth y Cyngor ar 29 Ionawr a’r gwaith adolygu pellach ar ddewisiadau cyllid corfforaethol a’r risgiau a gymerwyd yn yr interim. Roedd adroddiad y Cyngor o’r 29 Ionawr 2019, a oedd yn cynnwys adroddiad y Cabinet o 22 Ionawr 2019 wedi eu hatodi i’r adroddiad.

 

Darparodd y Prif Weithredwr wybodaeth gefndirol a chyfeiriodd at y ddirprwyaeth i’r Senedd a gynhaliwyd ar 5 Chwefror, i geisio gwelliant i’r Setliad llywodraeth leol ar gyfer 2019/20, ynghyd â’r cais a wnaed gan Aelodau yng nghyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 29 Ionawr i swyddogion adolygu meysydd penodol o gyllid corfforaethol a dod yn ôl gyda rhagor o gyngor technegol a barn broffesiynol. Dywedodd mai’r meysydd penodol oedd:

 

  • ymrwymiadau Polisi’r Isafswm Darpariaeth Refeniw (MRP) a’r posibiliadau o ran lleihau’r cyfraniad refeniw blynyddol drwy ddefnyddio derbyniadau cyfalaf i leihau cyfanswm y ddyled y gellir ei chyllido.
  • y sail resymegol fanwl ar gyfer argymell cadw’r cronfeydd wrth gefn fel y’u rhestrir yn y tabl yn yr adroddiad ac yn sleidiau’r cyflwyniad; a’r
  • cyfiawnhad ar gyfer cadw’r cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd y rhagamcenir y byddant yn aros ar lefel sefydlog dros y flwyddyn nesaf.

 

Gofynnwyd am eglurhad pellach hefyd o’r posibiliadau o ran gohirio dyledion o dan Strategaeth Rheoli’r Trysorlys.

 

Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at weithdy briffio’r gyllideb ar gyfer yr holl Aelodau a gynhaliwyd ar 14 Ionawr, er mwyn cael trafodaeth fanwl am gyllid corfforaethol. Dywedodd bod rhagor o gyngor technegol a barn broffesiynol yn cael eu darparu mewn cyfres o nodiadau cyngor technegol a restrwyd fel papurau cefndir i’r adroddiad, ac roeddynt ar gael ar gais.             

 

Cyflwynodd y Prif Weithredwr, y Prif Swyddog (Llywodraethu), y Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’r Rheolwr Refeniw, gyflwyniad a oedd yn cynnwys y meysydd allweddol a ganlyn:

 

  • gosod cyllideb gyfreithlon a chytbwys
  • crynodeb o sefyllfa’r gyllideb ar gyfer 2019/20
  • cyngor (technegol) proffesiynol       
  • Isafswm Darpariaeth Refeniw (MRP) – defnydd o dderbyniadau cyfalaf  
  • lefel ddarbodus o gronfeydd wrth gefn
  • cronfeydd wrth gefn nad oeddynt wedi eu clustnodi
  • cronfeydd wrth gefn oedd wedi eu clustnodi
  • gohirio dyledion a rheoli llif arian           
  • barnau proffesiynol  
  • senarios cyllideb
  • camau nesaf ac amserlenni       

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) mai dyletswydd y Cyngor ar y cyd yw gosod cyllideb gyfreithlon a chytbwys. Cyfeiriodd at bwysigrwydd cadw at ddyddiadau cau ac eglurodd, o ran preswylwyr a oedd yn talu eu Treth Gyngor drwy ddebyd uniongyrchol, eu bod yn gorfod cael rhybudd o bythefnos ymlaen llaw o gynnydd mewn taliadau, ac felly byddai angen cymeradwyo cyllideb y Cyngor cyn diwedd mis Chwefror er mwyn gallu cynnig y cyfleuster talu hwn mewn da bryd. Cyfeiriodd at y broses o osod y gyllideb a’r cyngor technegol a phroffesiynol a ddarparwyd i arwain Aelodau.

 

Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton bod y Cabinet, mewn cyfarfod a gynhaliwyd yn union cyn y Cyngor Sir, wedi argymell penderfyniad i’r Cyngor Sir ac wedi gofyn am gael dosbarthu manylion y penderfyniad i’r Aelodau eu hystyried yn y cyfarfod. Diolchodd y Cynghorydd Shotton i’r Prif Weithredwr a’r Swyddogion am ymateb i’r ceisiadau penodol a godwyd gan Aelodau yng nghyfarfod blaenorol y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 29 Ionawr, er mwyn adolygu a chyfiawnhau ymhellach y cronfeydd wrth gefn sydd wedi a heb eu clustnodi. Cyfeiriodd at yr argymhelliad gan y Cabinet y dylai’r Cyngor ddefnyddio cyfuniad pellach o gronfeydd wrth gefn sydd wedi a heb eu clustnodi ynghyd â balansau o £321k i leihau’r bwlch sydd ar ôl yn y gyllideb. Aeth ymlaen i ddweud y byddai gofyniad sy’n weddill o ran y gyllideb o £2.781m yn cael ei gyflawni drwy’r Dreth Gyngor fyddai angen - ar gyfer praesept gwasanaethau’r Cyngor – cynnydd o 8.17%. Eglurodd y Cynghorydd Shotton, o’i gyfuno â’r praeseptau ar gyfer Cynghorau Tref a Chymuned a Chomisiynydd yr Heddlu a Throsedd, byddai’r codiad blynyddol yn 8.38% ar gyfartaledd ar gyfer eiddo Band B.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Shotton sylwadau ar her barhaus cyni ar lefel leol a chenedlaethol, a oedd yn ganlyniad uniongyrchol i dangyllido gwasanaethau llywodraeth leol am dros ddegawd gan y llywodraeth genedlaethol. Cyfeiriodd at y gwasanaethau hanfodol niferus a ddarperir gan awdurdodau lleol a gwnaeth sylwadau ar effaith drychinebus y polisi cyni ar y gwasanaethau a ddarperir gan lywodraethau lleol ar draws y Deyrnas Unedig a Chymru. Dywedodd ei fod yn falch bod cyllideb yr awdurdod yn amddiffyn ac yn cadw gwasanaethau ar gyfer preswylwyr Sir y Fflint nad oeddynt yn bodoli mwyach mewn sawl awdurdod lleol arall, a gwnaeth sylwadau ar yr ychwanegedd a ddarperir mewn gofal cymdeithasol a darpariaeth addysg er mwyn cyflawni gofynion cynyddol. Cyfeiriodd at y newid o drethiant cenedlaethol i drethiant cynghorau lleol a dywedodd bod rhaid osgoi hyn ar gyfer y dyfodol. Siaradodd am yr angen i nodi’r cyngor proffesiynol a ddarperir gan swyddogion ac archwilwyr allanol, ynghyd â’r angen i gynnal y cydbwysedd iawn rhwng tynnu rhagor o arian o’r cronfeydd wrth gefn a fyddai’n arwain at gynnydd yn y Dreth Gyngor ac yn lleihau gwasanaethau yn y dyfodol. Gofynnodd i Aelodau gefnogi’r cynigion a gwnaeth y cynnig.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Chris Dolphin at bolisïau llywodraethau Cenedlaethol a Chymru a oedd wedi methu, a siaradodd am annhegwch y Fformiwla y dywedodd bod ganddynt anfanteision, ac nad oeddynt yn diwallu anghenion o ran gwariant cyhoeddus. Dywedodd nad oedd yn gallu cefnogi codiad yn y Dreth Gyngor i 8.75% gan nad oedd yn dderbyniol i breswylwyr Sir y Fflint. Roedd y Cynghorydd Dolphin yn cefnogi’r cynnig i ffurfio gweithgor trawsbleidiol ac i gyfarfod â’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Thai i wneud cynigion ar gyfer system gyllid fwy cynaliadwy a theg ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru.

 

Roedd y Cynghorydd Mike Peers yn cytuno gyda’r barnau a fynegwyd gan y Cynghorydd Chris Dolphin a dywedodd na allai gefnogi cynnydd o 8.75% yn y Dreth Gyngor. Aeth ymlaen i ddweud, er ei fod yn un o’r Cynghorau sy’n cael y lefel isaf o gyllid yng Nghymru, ynghyd â’r ddirprwyaeth i’r Senedd i geisio gwelliant yn y Setliad, ni fu unrhyw arwydd gan Lywodraeth Cymru (LlC) o unrhyw fwriad i newid y Setliad ar gyfer 2019/20 ac roedd y bwlch diwygiedig yn y gyllideb yn parhau i fod yn £3.102m.  Dywedodd bod baich treth yn cael ei symud i’r Dreth Gyngor leol. Roedd yn cydnabod bod y Cabinet wedi cytuno ar welliant o ran y defnydd o gronfeydd wrth gefn i fynd i’r afael â’r mater. Siaradodd am y baich cynyddol a’r duedd sy’n peri gofid o godiadau yn y dreth gyngor a’r effaith ar y rheiny sy’n talu’r dreth gyngor drwy symud y cyfrifoldeb o LlC i breswylwyr lleol. Cyfeiriodd y Cynghorydd Peers at y codiadau yn y Dreth Gyngor ers 2016, a siaradodd am yr angen i fynd i’r afael â hyn ac i gau’r bwlch, a chynigiodd y diwygiad a ganlyn i’r cynigion a argymhellwyd i’r Cyngor gan y Cabinet:-

 

Bod y cynnig gwreiddiol i gynyddu’r Dreth Gyngor i 8.5% yn cael ei leihau i 5.95% ar gyfer 2019/20. Dywedodd bod Treth Gyngor o 5.95% yn cyfrannu                   £0.948m at y bwlch ac awgrymodd bod £1.429m yn cael ei neilltuo o gronfeydd wrth gefn sydd heb eu neilltuo. Dywedodd y Cynghorydd Peers y trosglwyddwyd £1.4m o’r refeniw gan y Cabinet ym mis Medi a’i fod yn dal i fod yn y gronfa wrth gefn, ac o’r un gronfa wrth gefn roedd £1.9m wedi’i gymryd ar gyfer Cam 1. Aeth ymlaen i ddweud nad oedd bron dim symudiad ym malansau cronfeydd wrth gefn sydd wedi eu neilltuo o flwyddyn i flwyddyn. Gyda chronfeydd wrth gefn ar lefel o £5.8m, byddai gostyngiad o 12.5% yn darparu £0.725 arall a fyddai’n gadael dros £5m mewn cronfeydd sydd wedi eu neilltuo. Wrth grynhoi, dywedodd bod y symiau cyfunol o £0.948m, £1.429m a £0.725m yn dod i gyfanswm o £3.102m a oedd yn cau’r bwlch ac yn cydbwyso’r gyllideb. Gofynnodd i Aelodau gefnogi’r diwygiad.

 

Eiliodd y Cynghorydd Patrick Heesom y cynnig.              

 

Mewn ymateb i gais gan y Cynghorydd Bernie Attridge, darparodd y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol eglurhad a chyngor mewn perthynas â’r ffigyrau a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Peers. Cyfeiriodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol at yr effaith ar y gronfa wrth gefn a dywedodd y byddai’r cynnig gan y Cynghorydd Peers yn arwain at ostyngiad o £1.4 yn y gronfa wrth gefn, a fyddai’n golygu na fyddai dim ar ôl ar gyfer buddsoddi yn y dyfodol i gyflawni effeithlonrwydd neu risgiau corfforaethol sylweddol, fel costau cyflogau a diswyddo athrawon. Gan gyfeirio at y cronfeydd wrth gefn sydd wedi eu clustnodi, dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol bod angen cadw’r rhain ar gyfer risgiau hysbys ac ymrwymiadau i’r dyfodol, ac eglurodd, o fewn y £5.8m, roedd dau swm sylweddol ar gyfer y gronfa wrth gefn yswiriant ar gyfer atebolrwydd hawliadau posibl yn y dyfodol ac ar gyfer grantiau a chyfraniadau lle’r oedd amodau cyfreithiol ynghlwm iddynt. Gwnaeth y Rheolwr Cyllid Corfforaethol y sylw hefyd ynghylch yr effaith ar 2020/21 a fyddai’n arwain at gynnydd ym mwlch y gyllideb o £2.15m (sy’n cynyddu’r bwlch o £9.4m i £11.5m ar gyfer 20/21).  I grynhoi, roedd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yn cynghori yn erbyn y defnydd o ragor o gronfeydd wrth gefn na hynny a argymhellwyd gan y Cabinet i’r Cyngor.

 

Diolchodd y Prif Weithredwr i’r Cynghorydd Peers am ei waith a’i awgrymiadau ar gyfer gwella’r sefyllfa o ran y Dreth Gyngor drwy’r defnydd o gronfeydd wrth gefn. Gwnaeth sylwadau ar y risgiau i wasanaethau a dywedodd mai ei gyngor ef oedd y byddai’r defnydd pellach o gronfeydd wrth gefn sydd heb eu clustnodi yn gadael cronfeydd annigonol ar gyfer eleni a’r dyfodol. Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at y cronfeydd wrth gefn sydd wedi eu clustnodi a dywedodd y byddai’n gwneud nifer o wasanaethau’n rhy agored i risgiau pe baent yn cael eu lleihau. Eglurodd pam yr oedd eu hangen ar gyfer y tymor hir a dywedodd unwaith eto y byddai’r cynigion a wnaed yn ychwanegu £2.15m arall i’r bwlch cyllido ar gyfer y flwyddyn nesaf ac, yn absenoldeb unrhyw arwydd o’r llywodraeth genedlaethol neu LlC o fwy o gyllid ar gyfer y flwyddyn nesaf, byddai’r £2.15m o gronfeydd ychwanegol wrth gefn ar gyfer y flwyddyn nesaf, heb unrhyw fath arall o incwm, yn cyfateb i 3.2% ychwanegol ar y Dreth Gyngor. Dywedodd y Prif Weithredwr, gan ystyried y rhagolwg ariannol, gallu cyfyngedig yr Awdurdod i ganfod rhagor o arbedion neu godi incwm, ei gyngor oedd na fyddai’r cynigion a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Peers yn benderfyniad cyfrifol i’r Cyngor gytuno arno yn 2019/20 neu 202/21.

 

Siaradodd y Cynghorydd Patrick Heesom mewn perthynas â’r diwygiad. Gwnaeth sylwadau ynghylch yr effaith niweidiol ar fywoliaeth pobl a achosir gan gynnydd yn y Dreth Gyngor, a mynegodd y farn ei bod yn system annheg. Dywedodd bod yr Awdurdod yn defnyddio’r Dreth Gyngor fel cronfa wrth gefn yn y gyllideb a dywedodd bod dyletswydd i ddefnyddio cronfeydd wrth gefn i leihau effaith y Dreth Gyngor ar breswylwyr Sir y Fflint. Anogodd yr Awdurdod i gyfyngu’r effaith ac i leihau’r dreth gyngor i lefel dderbyniol.

 

Siaradodd y Cynghorydd Derek Butler hefyd ar y diwygiad a diolchodd i’r Cynghorydd Peers am ei gynigion amgen. Siaradodd am yr angen i barhau i ddarparu’r gwasanaethau gorau bosibl i breswylwyr Sir y Fflint yn ystod yr adegau gwaethaf. Dywedodd bod Swyddogion wedi cynghori y byddai’r cynigion amgen a gyflwynwyd yn gohirio problemau am flwyddyn arall ac yn ychwanegu’r posibilrwydd o 3.2% ar y Dreth Gyngor ar gyfer y flwyddyn nesaf. Siaradodd am yr angen i fynd i’r afael â heriau anodd ar unwaith.

 

Siaradodd y Cynghorwyr Tony Sharps ac Ian Roberts mewn perthynas â’r diwygiad. Pwysleisiodd y Cynghorydd Ian Roberts yr angen i gadw cronfeydd wrth gefn a rhoddodd enghreifftiau o sut y defnyddiwyd cronfeydd wrth gefn i ddatrys amgylchiadau difrifol a datblygiadau yn y gorffennol.

 

Roedd y Cynghorydd Neville Phillips yn amau, pe bai’r diwygiad a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Peers yn cael i gytuno gan y Cyngor, p’un a fyddai modd i’r cyllid a gymerwyd o’r cronfeydd wrth gefn yn 2019/20 gael ei ad-dalu mewn blynyddoedd yn y dyfodol, ar y ddealltwriaeth y dylid parhau i lobïo LlC gyda’r disgwyliad y byddai gwelliant yn y Setliad yn y tymor hwy. Yn ei ymateb, dywedodd y Prif Weithredwr nad oedd newid yn Setliad LlC ar gyfer eleni, ac ar yr adeg hon, nid oedd LlC yn gallu rhoi rhagamcan i’r dyfodol o unrhyw fath ar gyfer 2020/21 ymlaen. Roedd rhaid seilio cynigion y gyllideb ar ragolygon a’r hyn sy’n hysbys. Y cyngor a roddwyd i’r Cynghorydd Peers ynghylch y diwygiad arfaethedig oedd y byddai’n gadael yr Awdurdod gyda chronfeydd wrth gefn a balansau annigonol ar gyfer risgiau o fewn y flwyddyn ac yn y tymor canolig. Rhybuddiodd ynghylch y perygl o fantoli gormodol drwy ddefnyddio cronfeydd wrth gefn yn y gyllideb a fyddai’n anghynaliadwy, yn afresymol ac yn anghyfrifol.

 

Rhybuddiodd Chris Bithell hefyd yn erbyn y defnydd pellach o gronfeydd wrth gefn, a chyfeiriodd at eu pwrpas bwriadedig a’r nifer o faterion “anhysbys” nad yw’r Awdurdod wedi mynd i’r afael â hwy eto. Cyfeiriodd at gost lleoliadau y tu allan i’r sir, y cynnydd mewn pensiynau a chyflogau athrawon fel enghreifftiau, a dywedodd y byddai mathau eraill o bwysau ychwanegol yn cael eu rhoi ar yr Awdurdod. Gwnaeth sylwadau hefyd ar yr ansicrwydd ac effaith Brexit ar wasanaethau cenedlaethol a lleol. Soniodd unwaith eto am y cyngor a roddwyd gan Swyddogion nad oedd gwneud defnydd pellach o gronfeydd wrth gefn yn ddichonadwy neu’n gynaliadwy a daeth i’r casgliad mai’r unig ateb oedd cynyddu’r Dreth Gyngor er mwyn pontio’r bwlch mewn cyllid.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Tudor Jones sylwadau ar gymesuredd cronfeydd wrth gefn a balansau mewn perthynas â’r cynigion a gyflwynwyd i’w hystyried gan y Cyngor. Adroddodd y Prif Weithredwr am y defnydd o gronfeydd wrth gefn sydd wedi a heb eu clustnodi a oedd wedi’u defnyddio’n ddiogel i leihau’r bwlch yn y gyllideb. Cadarnhaodd nad oedd unrhyw gronfeydd wrth gefn eraill a oedd wedi neu heb eu clustnodi y gellid eu rhyddhau’n ddiogel, a phe bai’r Cyngor yn penderfynu ychwanegu rhagor o gronfeydd o gronfeydd sydd wedi neu heb eu clustnodi, byddai bwlch anghynaliadwy ac anorchfygol yn cael ei greu yn y gyllideb ar gyfer 2020/21.  

 

Roedd y Cynghorydd Carol Ellis yn cefnogi’r sylwadau a’r awgrym a wnaed gan y Cynghorydd Neville Phillips. Dywedodd y Prif Weithredwr unwaith eto na ellir ond seilio’r gyllideb ar yr hyn sy’n “hysbys” ar hyn o bryd, yn nhermau incwm a dderbyniwyd, a dywedodd nad oedd unrhyw gyllid ychwanegol wedi’i gadarnhau ar gyfer eleni. Eglurodd y byddai rhaid i LlC wella’r sefyllfa ar gyfer awdurdodau lleol yn  2020/21, a’r rhagolwg gan LlC oedd na fyddai’r sefyllfa’n ddim gwell mewn blynyddoedd yn y dyfodol hyd nes y ceir newid sefyllfa ar lefel y DU.

 

Diolchodd y Cynghorydd Aaron Shotton i’r Cynghorydd Peers am ei waith o ran darparu cynnig amgen. Gwnaeth sylwadau ar y cyngor statudol a roddwyd gan Swyddogion a’r adolygiad pellach a gynhaliwyd o’r lefel o gronfeydd wrth gefn sydd wedi a heb eu clustnodi yn dilyn cais gan Aelodau yng nghyfarfod diwethaf y Cyngor Sir. Roedd o’r farn ei fod yn iawn i ddefnyddio cronfeydd wrth gefn i amddiffyn gwasanaethau ac i sicrhau bod y Dreth Gyngor yn cael ei chadw mor isel â phosibl. Cyfeiriodd at y risgiau wrth fynd ymlaen, a dywedodd nad oedd unrhyw ymrwymiad gan y llywodraeth genedlaethol na LlC mewn perthynas â chynnydd o 7.2% mewn cyfraniadau pensiwn cyflogwr i athrawon, a fyddai’n costio £3.5m mewn un flwyddyn ac nad oedd wedi’i gynnwys o fewn y gyllideb. Pwysleisiodd y lefel o risgiau a’r angen i gynnal cronfeydd wrth gefn, a dywedodd mai’r Awdurdod oedd y defnyddiwr mwyaf o gronfeydd wrth gefn yn y gyllideb yng Ngogledd Cymru eleni. Rhybuddiodd y byddai’r diwygiad a gynigiwyd gan y Cynghorydd Peers yn dyblu’r defnydd o’r cronfeydd wrth gefn a argymhellwyd, ac ni roddodd unrhyw syniad o sut y byddai’r cronfeydd yn cael eu hail-lenwi yng nghyllideb refeniw'r flwyddyn nesaf. Dywedodd y byddai’r cronfeydd wrth gefn yn cael eu defnyddio i gyllido gwasanaethau dydd i ddydd a byddai’n arwain at ragor o doriadau i wasanaethau y flwyddyn nesaf. Wrth grynhoi, dywedodd y byddai’r diwygiad yn creu sefyllfa anghynaliadwy y flwyddyn nesaf a gofynnodd i Aelodau bleidleisio yn ei erbyn.

 

Cafwyd pleidlais a gofnodwyd mewn perthynas â’r diwygiad a gynigiwyd gan y Cynghorydd Mike Peers. Wrth geisio pleidlais a gofnodwyd, cafwyd y nifer ofynnol o 10 aelod yn cefnogi’r cynnig.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) mai’r diwygiad oedd y byddai’r cynnydd yn y Dreth Gyngor yn cael ei osod ar 5.95% a fyddai’n cynhyrchu £948k tuag at y bwlch yn y gyllideb. Byddai £1.429m yn cael ei ddefnyddio o gronfeydd wrth gefn sydd heb eu clustnodi a £725k o gronfeydd wrth gefn sydd wedi eu clustnodi er mwyn cau’r bwlch o £3.182m.

Pleidleisiodd y Cynghorwyr a ganlyn o blaid y diwygiad:

 

Marion Bateman, Mike Allport, Janet Axworthy, Haydn Bateman, Helen Brown, Clive Carver, David Cox, Rob Davies, Chris Dolphin, Rosetta Dolphin, Carol Ellis, Veronica Gay, George Hardcastle, Patrick Heesom, Ray Hughes, Brian Lloyd, Dave Mackie, Mike Peers, Owen Thomas, David Williams, Arnold Woolley.

 

Pleidleisiodd y Cynghorwyr a ganlyn yn erbyn y diwygiad:

Paul Cunningham, Bernie Attridge, Sean Bibby, Chris Bithell, Derek Butler, Geoff Collett, Ron Davies, Ian Dunbar, Andy Dunbobbin, David Evans, David Healey, Gladys Healey, Cindy Hinds, Dave Hughes, Joe Johnson, Paul Johnson, Christine Jones, Richard Lloyd, Mike Lowe, Billy Mullin, Ted Palmer, Michelle Perfect, Vicky Perfect, Mike Reece, Ian Roberts, Tony Sharps, Aaron Shotton, Paul Shotton, Ian Smith, Carolyn Thomas, Martin White, Andy Williams, David Wisinger

Roedd y Cynghorwyr a ganlyn wedi atal eu pleidlais:

Jean Davies, Mared Eastwood, Kevin Hughes, Tudor Jones, Colin Legg, Neville Phillips.

 

Ni chafodd y diwygiad ei dderbyn.

 

Dywedodd y Cynghorydd David Healey air o gefnogaeth i’r cynnig o sylwedd. Diolchodd i’r Prif Weithredwr a’r Swyddogion am y cyngor a ddarparwyd i Aelodau a thalodd deyrnged iddynt am amddiffyn gwasanaethau yn ystod degawd o gyni na welwyd ei debyg o’r blaen ynghyd â lefelau isel o gyllid. Talodd deyrnged hefyd i gymunedau lleol am eu cymorth a’u gwaith yn nhermau trosglwyddo asedau cymunedol. Wrth gefnogi’r argymhellion a gynigiwyd gan y Cabinet dywedodd y Cynghorydd Healey bod y cyfle i gyfarfod â’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Thai i wneud cynigion ar gyfer system gyllido fwy cynaliadwy a theg ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru yn cael ei groesawu, ac y dylid ei dderbyn. Roedd hefyd yn cefnogi gwaith trawsbleidiol a dywedodd y byddai’n rhoi cyfle i godi’r problemau sy’n wynebu cymunedau lleol.

 

Dywedodd y Cynghorwyr Rosetta Dolphin a Paul Shotton na allai awdurdodau lleol barhau i dderbyn toriadau mewn cyllid, flwyddyn ar ôl blwyddyn, a siaradodd am yr effaith ar fywoliaeth pobl a’r angen am system gyllido gynaliadwy a theg.        

 

Pwysleisiodd y Cynghorydd Chris Bithell mai nid yn unig Sir y Fflint a oedd yn wynebu codiadau Treth Gyngor gan fod awdurdodau eraill yn yr un sefyllfa oherwydd y rhaglen gyni a orfodwyd gan y llywodraeth genedlaethol. Aeth ymlaen i ddweud bod LlC hefyd wedi cael toriad o £850m mewn cyllid gan y llywodraeth genedlaethol a oedd wedi’i basio ymlaen i lywodraeth leol, a dywedodd bod y newid o drethiant incwm i drethiant lleol a wnaed mewn modd llechwraidd yn bolisi cenedlaethol a oedd yn anflaengar, yn annheg, ac nad oedd yn ystyried incwm aelwydydd. Dywedodd bod rhaid cynyddu’r cyllid ar gyfer llywodraeth leol er mwyn diwallu anghenion a gofynion pobl.

 

Cafwyd toriad ar y pwynt hwn yn y cyfarfod ar gyfer egwyl fer.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Helen Brown at y diweddariad ar reoli risg a ddarparwyd i gyfarfod diwethaf y Pwyllgor Archwilio. Dywedodd fod 44 o risgiau strategol o fewn Cynllun y Cyngor a thynnodd sylw at y cyngor sy’n cefnogi blaenoriaethau a’r pennawd risg y byddai lefelau dyledion yn codi pa na fyddai tenantiaid yn gallu talu eu rhent neu dreth gyngor. Dywedodd y gwnaed sylwadau yn y Pwyllgor Archwilio bod y risgiau nid yn unig i’r tenantiaid ond i’r boblogaeth ehangach, gan gynnwys perchnogion tai yn y sector preifat. Roedd yr adroddiad yn nodi, yn ystod 2018/19 y bu’r sylw ar ymyrraeth gynnar ac ymyrraeth i atal problemau rhag dwysáu. Aeth ymlaen i ddweud bod casglu’r Dreth Gyngor yn dal i fod o dan bwysau a bod y risg eleni wedi newid o oren i goch. Dywedodd y Cynghorydd Brown na fyddai’r cynnydd arfaethedig o 8.17% ond yn ychwanegu at y pwysau. Gofynnodd y cwestiwn “a wnaeth y statws risg symud o goch i ddu yn seiliedig ar y dystiolaeth a ddarparwyd?”. Dywedodd y Cynghorydd Brown ei bod wedi siarad â llawer o breswylwyr pryderus ledled y sir a oedd yn ofnus o gynnydd pellach yn y dreth gyngor, a dywedodd bod llawer ohonynt eisoes wedi’u llethu’n ariannol. Dywedodd na allai gefnogi cynnydd o 8.75% yn y dreth gyngor a’i fod yn annheg gorfodi hyn ar breswylwyr Sir y Fflint. I grynhoi, holodd unwaith eto a fyddai’r statws risg yn newid o oren i goch i ddu yn seiliedig ar y dystiolaeth a ddarparwyd.

 

Mewn ymateb i’r Cynghorydd Brown, cyfeiriodd y Rheolwr Refeniw at gynllun gostyngiadau’r Dreth Gyngor a oedd yn weithredol yng Nghymru ac y gallai ddarparu rhyddhad o hyd at 100% o’r Dreth Gyngor. Fodd bynnag, dywedodd, y Lloegr, bod gofyn i bob aelwyd wneud cyfraniad i’r dreth gyngor waeth beth fo lefel incwm aelwyd. Aeth ymlaen i ddweud bod y cynllun yng Nghymru’n cael ei ariannu’n bennaf gan LlC gyda swm atodol gan awdurdodau lleol, a dywedodd y byddai 16% o aelwydydd yn Sir y Fflint ar hyn o bryd yn gymwys i gael gostyngiad o 100% yn y Dreth Gyngor, neu ostyngiad rhannol. Gan gyfeirio at y cymorth a ddarperir i breswylwyr, dywedodd bod aelwydydd yn cael eu hannog i gynyddu eu taliadau o 10 i 12 rhandaliad misol i helpu gyda chynllunio eu cyllideb, ac eglurodd bod y dewisiadau o ran talu yn Sir y Fflint yn fwy hyblyg a chefnogol na’r mwyafrif o awdurdodau eraill.

 

Gan gyfeirio at y statws risg yr oedd gan y Cynghorydd Brown amheuon yn ei gylch, eglurodd y Prif Weithredwr bod y risg yn risg coch difrifol.

 

Siaradodd y Cynghorydd Carol Ellis am y gwir galedi a ddioddefwyd gan bobl sydd mewn gwaith a rhai sy’n ddi-waith, a dywedodd bod llawer ohonynt eisoes yn ddibynnol ar fanciau bwyd a banciau dillad. Dywedodd nad dim ond y cynnydd mewn Treth Gyngor flwyddyn ar ôl blwyddyn oedd yn effeithio incymau aelwydydd ond hefyd yr holl gynnydd arall yng nghost treuliau byw blynyddol a oedd yn rhoi straen ariannol ar aelwydydd. Siaradodd am yr angen i sicrhau bod LlC yn deall nad yw preswylwyr yn gallu fforddio’r cynnydd yn y Dreth Gyngor flwyddyn ar ôl blwyddyn er mwyn sybsideiddio cyllid cenedlaethol. Siaradodd hefyd am yr angen i ddal LlC i gyfrif er mwyn darparu cyllid digonol ar gyfer addysg a’r gwasanaethau cymdeithasol er enghraifft. Cyfeiriodd y Cynghorydd Ellis at y cyfrifoldebau a basiwyd o LlC i Lywodraeth Leol heb gyllid i ddarparu gwasanaethau, a chyfeiriodd at y Ddeddf Llesiant fel enghraifft.

 

Dywedodd y Cynghorydd Kevin Hughes bod Sir y Fflint yn llawer is na chyfartaledd Cymru yn nhermau taliadau’r dreth gyngor a chyfeiriodd at y cyfraddau uwch a godwyd mewn awdurdodau lleol cyfagos.

Dywedodd y Cynghorydd Patrick Heesom bod angen ail-werthuso gwerth ardrethol eiddo yn Sir y Fflint. Pwysleisiodd yr angen i beidio â defnyddio’r Dreth Gyngor yn lle defnyddio cronfeydd wrth gefn.            

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Arnold Woolley at y pum argymhelliad a ddarparwyd gan y Cabinet, ac awgrymodd y dylid eu rhannu ac ystyriodd ddau gynnig ar wahân, h.y. mynd i’r afael ag argymhellion 1, 4 a 5 fel cynnig ar wahân i argymhellion 2 a 3. Darparodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) gyngor ac eglurodd bod gan y Cadeirydd yr hawl i gymryd y bleidlais ym mha drefn bynnag, yn ôl ei ddoethineb. Dywedodd y Cadeirydd y byddai’n cymryd un bleidlais ar y cynnig a wnaed gan y Cynghorydd Aaron Shotton.

 

Fel cynigiwr y cynnig, cyfeiriodd y Cynghorydd Aaron Shotton at y gofrestr risg a ystyriwyd yng nghyfarfod diweddar y Pwyllgor Archwilio. Siaradodd am nifer y risgiau sylweddol i’r Cyngor a chyfeiriodd at enghreifftiau, sef y risg o ran cyllid digonol i barhau i ddarparu gwasanaethau bws cymorthdaledig o fewn Sir y Fflint, y risg o fewn gwasanaethau cymdeithasol bod lefel y galw y tu hwnt i’r ddarpariaeth sydd ar gael o ran gofal preswyl neu mewn cartrefi gofal, ynghyd â’r risg y bydd graddfa’r cynnydd yn nifer yr atgyfeiriadau ar gyfer diogelu oedolion y tu hwnt i’r adnoddau sydd ar gael. Dywedodd y Cynghorydd Shotton y byddai tynnu mwy o gyllid o’r cronfeydd wrth gefn yn creu diffyg y byddai’n rhaid ei ad-dalu y flwyddyn nesaf heb newid yn y sefyllfa ariannu genedlaethol a ragwelir yn y dyfodol. Cyfeiriodd y Cynghorydd Shotton at yr enghraifft o gynnydd ychwanegol o £1.98 yr wythnos yn y dreth gyngor ar eiddo Band D (ar gyfer elfen gwasanaethau’r cyngor o’r praesept) a dywedodd y byddai’r cynnydd yn galluogi’r Awdurdod i barhau i ddiwallu anghenion preswylwyr Sir y Fflint yn nhermau addysg, gofal cymdeithasol, a gwasanaethau eraill. Gofynnodd i Aelodau gefnogi’r cynnig.

 

Gofynnwyd am bleidlais a gofnodwyd ar yr argymhellion a ganlyn a gynigiwyd gan y Cynghorydd Aaron Shotton:

 

(a)Hysbysir y Cyngor bod y ddyletswydd i osod cyllideb gyfreithiol a chytbwys yn ddyletswydd sylfaenol ac yn un na ellir ei hildio neu beidio â’i chyflawni. Mae angen i’r Cyngor ystyried y gofyniad o ran gwariant ar gyfer 2019/20 a’r tymor canolig wrth osod y gyllideb flynyddol. Yn absenoldeb unrhyw newid yn y sefyllfa o ran y dyraniad cyllid llywodraeth leol ar gyfer 2019/20 gan Lywodraeth Cymru, ac o ystyried y cyngor a’r farn broffesiynol a ddarparwyd gan swyddogion statudol, yr unig opsiynau sy’n dal i fod yn agored i'r Cyngor er mwyn mantoli’r gyllideb yw Treth y Cyngor a’r defnydd cymesur o gronfeydd wrth gefn a balansau;

 

(b)Bod y Cabinet yn argymell i’r Cyngor y defnydd pellach o gyfuniad o gronfeydd wrth gefn sydd wedi eu clustnodi (£132k) a heb eu clustnodi (£189k) a balansau o             £321k i leihau’r bwlch sydd ar ôl yn y gyllideb. Bydd gofyniad o ran y gyllideb o £2.781m ar ôl wedyn i’w gyflawni drwy’r Dreth Gyngor (a fydd yn cynnwys yr ardoll ar gyfer Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru). Argymhellir codiad blynyddol o 8.75% i gyflawni cyfanswm y gofyniad hwn. Ar ôl ei gyfuno â phraeseptau’r Cynghorau Tref a Chymuned a Chomisiynydd yr Heddlu a Throsedd, bydd y codiad blynyddol hwn yn dod i gyfartaledd o 8.38% ar gyfer eiddo Band D, sy’n cyfateb i                  £10.33 ychwanegol y mis;

(c)  Bod y Cyngor yn nodi bod mwy o ddibyniaeth ar y Dreth Gyngor i gyllido gwasanaethau lleol yn anochel o ystyried polisïau cyllido’r Llywodraethau’r DU a Chymru. Mae Llywodraeth y DU wedi gosod polisi o leihau’r Grant Cymorth Refeniw gyda disgwyl i Gynghorau Lloegr fod yn fwy annibynnol o ran dibynnu ar y Dreth Gyngor, Ardrethi Annomestig Cenedlaethol a gedwir ynghyd ag incwm arall i gyllido’r mwyafrif o’u gwariant, ac mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud rhagdybiaeth gweithio y bydd codiad o 6.5% yn y Dreth Gyngor ar gyfartaledd ar draws Cymru yn ei gyfrifiadau ei hun o ran y gyllideb;

 

(d)Bod y Cyngor yn derbyn gwahoddiad y Gweinidog Llywodraeth Leol a Thai i wneud cynigion ar gyfer system gyllido fwy cynaliadwy a theg ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru; a       

 

(e)Bod y Cyngor yn ffurfio gweithgor trawsbleidiol, i’w gefnogi gan gyngor proffesiynol ac arbenigedd allanol, ar gyfer gwneud cynigion i Lywodraeth Cymru a theulu llywodraeth leol yng Nghymru er mwyn dilyn yr uchod (4).                        

 

Wrth geisio pleidlais a gofnodwyd, cafwyd y nifer ofynnol o 10 aelod yn cefnogi’r cynnig.

 

Pleidleisiodd y Cynghorwyr a ganlyn o blaid y cynigion:

 

Paul Cunningham, Bernie Attridge, Sean Bibby, Chris Bithell, Derek Butler, Geoff Collett, David Cox, Ron Davies, Ian Dunbar, Andy Dunbobbin, Mared Eastwood, David Evans, David Healey, Gladys Healey, Cindy Hinds, Dave Hughes, Kevin Hughes, Joe Johnson, Paul Johnson, Christine Jones, Tudor Jones, Richard Lloyd, Mike Lowe, Billy Mullin, Ted Palmer, Michelle Perfect, Vicky Perfect, Neville Phillips, Mike Reece, Ian Roberts, Tony Sharps, Aaron Shotton, Paul Shotton, Ian Smith, Carolyn Thomas, Martin White, Andy Williams, David Wisinger.

 

Pleidleisiodd y Cynghorwyr a ganlyn yn erbyn y cynigion:

 

Marion Bateman, Mike Allport, Janet Axworthy, Haydn Bateman, Helen Brown, Clive Carver, Jean Davies, Rob Davies, Chris Dolphin, Rosetta Dolphin, Carol Ellis, Veronica Gay, George Hardcastle, Patrick Heesom, Dennis Hutchinson, Brian Lloyd, Dave Mackie, Mike Peers, Owen Thomas, ac Arnold Woolley.

 

Roedd y Cynghorydd David Williams wedi atal ei bleidlais.

 

PENDERFYNWYD:

Bod yr argymhellion yn cael eu derbyn.