Mater - penderfyniadau

Town Centre Regeneration

28/06/2019 - Town Centre Regeneration

            Cyflwynodd y Cynghorydd Butler adroddiad Adfywio Canol y Dref a baratowyd mewn ymateb i’r tri ffactor sbarduno allweddol canlynol:

 

1.    Amodau economaidd heriol parhaus y mae canol trefi yn y DU yn eu hwynebu;

2.    Ymrwymiad yng Nghynllun y Cyngor 2018/19 i ddatblygu ymateb; a’r

3.    Pryderon a fynegwyd gan Aelodau Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd ynghylch hyfywedd canol trefi Sir y Fflint a’r angen i’r Cyngor gynnig ymateb rhagweithiol.

 

Roedd yr adroddiad yn crynhoi’r heriau economaidd sy’n wynebu canol trefi ac sy’n effeithio ar eu cynaliadwyedd. Amlinellwyd cyfres o ymatebion cadarnhaol i gynyddu amrywiaeth o ran defnyddiau mewn trefi, i gryfhau rôl grwpiau budd-ddeiliaid lleol a chefnogi busnesau i addasu a chystadlu’n fwy effeithlon.

 

Roedd y Cyngor wedi buddsoddi adnoddau sylweddol i gryfhau arweinyddiaeth gymunedol leol, a dyfynnwyd yr enghreifftiau canlynol:

 

·         Gweithio gyda budd-ddeiliaid Treffynnon ar ddatblygu trefn lywodraethu newydd ar gyfer y ganolfan hamdden ac ar gynllun treialu i ailagor y Stryd Fawr i draffig;

·         Cefnogi Cyngor Tref Bwcle i ddatblygu cynllun gweithredu tymor hir ar gyfer y dref;

·         Dod â budd-ddeiliaid Fflint ynghyd i lywio’r broses o adfywio a gweddnewid y dref a datblygu eu dyheadau ar gyfer yr ardal ger y d?r;

·         Gweithio gyda budd-ddeiliaid Glannau Dyfrdwy i ddatblygu strategaeth uchelgeisiol ar gyfer yr ardal a sicrhau buddsoddiad mawr gan Lywodraeth Cymru (LlC) tuag at ei darparu; a

·         Chefnogi budd-ddeiliaid yn yr Wyddgrug i ddatblygu cynllun tref tymor hir a sefydlu model llywodraethu ar gyfer rheoli man gwyrdd cymunedol.

 

Croesawodd y Cynghorydd Bithell yr adroddiad a’r cynigion sylweddol i helpu’r heriau a wynebir gan ganol trefi. Cyfeiriodd at nifer yr unedau o fewn trefi nad oedd yn eiddo i fusnesau lleol a’r anawsterau a wynebir wrth geisio cysylltu â landlordiaid absennol, a gofynnodd beth ellid ei wneud i’w hannog i gydweithio â’r Cyngor. Cyfeiriodd hefyd at stafelloedd uchaf unedau gwag y gellid eu defnyddio i fynd i’r afael â phrinder tai. Dywedodd y Cynghorydd Bithell fod y Cyngor wedi ceisio cysylltu â nhw droeon yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a hynny’n ofer, ond y byddai’n dal i ymdrechu.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Thomas at ddatblygiad Ardaloedd Gwella Busnes, sef cwmnïau a sefydlwyd gan y gymuned fusnes leol i fuddsoddi yn eu hardal oedd yn gwella amodau masnachu busnesau, yn denu cwsmeriaid ac yn lleihau costau gweithredu. Roedd dros 300 ohonynt yn y DU ac roeddent yn ymchwilio i’r posibilrwydd o ddatblygu Ardal Gwella Busnes yng nghanol tref yr Wyddgrug. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo’r dull arfaethedig o helpu i adfywio canol trefi yn Sir y Fflint; a

 

(b)       Rhoi awdurdod dirprwyedig i Brif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) mewn ymgynghoriad ag Aelod Cabinet Datblygu Economaidd i wneud cais am gyllid allanol fel y daw ar gael i gefnogi’r dulliau o adfywio canol y dref.