Mater - penderfyniadau
Forward Work Programme (Community & Enterprise)
20/03/2019 - Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol gyfredol i’w hystyried ac fe gytunwyd ar y newidiadau canlynol:
- Bod yr adroddiad ar dai arbenigol yn symud o fis Mawrth i’r cyfarfod ar 1 Mai.
- Bod adroddiad ar y cysyniad a’r opsiynau a oedd ar gael o ran defnyddio cartrefi unedol i gynyddu cyflenwad y Cyngor o eiddo i gael ei gyflwyno i gyfarfod y Pwyllgor yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; a
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor.