Mater - penderfyniadau

Social Value Strategy

15/07/2019 - Social Value Strategy

            Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad Strategaeth Gwerth Cymdeithasol a oedd yn arddangos sut roedd gwerth cymdeithasol yn edrych tu hwnt i gost ariannol gwasanaeth a oedd yn ystyried pa fendithion ychwanegol ehangach y gellid eu sicrhau i'r gymuned.

 

Byddai gweithredu’r Strategaeth Gwerth Cymdeithasol yn elfen allweddol ar gyfer gweithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a galluogi'r Cyngor a phartneriaid i greu adnoddau newydd ar gyfer ffrydiau gwaith blaenoriaeth.

 

Eglurodd y Rheolwr Menter ac Adfywio fod adolygiad wedi’i gynnal ar y Strategaeth Gwerth Cymdeithasol ac roedd dull ehangach, a amlinellir yn yr adroddiad, yn cael ei gynnig i greu gwerth cymdeithasol o weithgareddau'r Cyngor a phartneriaid.

 

Roedd y strategaeth ddiwygiedig yn herio partneriaid, gwasanaethau a chyflenwyr i ystyried sut y gallent gynhyrchu gwerth ychwanegol i gymunedau Sir y Fflint a sut y gellid mesur hynny. Byddai’r dull yn arf allweddol wrth helpu’r Cyngor a’i bartneriaid i ddangos sut oedd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn cael ei darparu. Roedd y broses o ystyried sut y gellid gwireddu bendithion ehangach wrth lunio’r gwasanaeth a chynhyrchu gwerth cymdeithasol mesuradwy, yn cynnig sail tystiolaeth cadarn.

 

Byddai’n canolbwyntio i ddechrau ar gynhyrchu gwerth cymdeithasol drwy'r broses gaffael gan mai dyna oedd yn cynnig y cyfleoedd mwyaf a’r rhai mwyaf uniongyrchol i ddarparu gwerth cymdeithasol sylweddol.  Byddai angen adnoddau newydd i ddatblygu dull effeithiol, ac amlinellwyd manylion amdanynt yn yr adroddiad.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Shotton at enghreifftiau lle’r oedd Sir y Fflint eisoes wedi elwa o werth cymdeithasol, gan nodi Ysgolion yr 21ain Ganrif, Gofal Cymdeithasol a’r rhaglen adeiladu tai cyngor.  Roedd y Cyngor hefyd yn dymuno datgloi buddion cymunedol pellach y byddai’r strategaeth hon yn helpu eu darparu.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Thomas at y cyfle posibl i gynnal bysiau cludiant cymunedol drwy’r strategaeth hon.

 

Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at sylw mewn cyfarfod diweddar o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Trefniadol gan y Cadeirydd, y Cynghorydd Mackie, o ran y posibilrwydd o herio gwerth cymdeithasol – byddai hyn yn cael ei drafod gyda’r Prif Swyddog (Llywodraethu) a’r Tîm Caffael.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Butler at gyfleoedd am fentrau cymdeithasol ar Barc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, fel bwytai’n cael eu darparu i gwrdd â’r galw lle mae nifer fawr o weithwyr.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cymeradwywyd y Strategaeth Gwerth Cymdeithasol ddrafft; a

 

 (b)      Cymeradwyo’r penderfyniad i ryddhau cyllid wrth gefn ar gyfer y      Strategaeth Gwerth Cymdeithasol gan cynnwys recriwtio swyddog arweiniol.