Mater - penderfyniadau
Diversity and Equality Policy 2019
29/05/2019 - Diversity and Equality Policy 2019
Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin adroddiad ar Bolisi Amrywiaeth a Chydraddoldeb 2019 er cymeradwyaeth cyn ei gyhoeddi. Nod cyffredinol y polisi Amrywiaeth a Chydraddoldeb yw:
· Dileugwahaniaethu anghyfreithlon ac aflonyddu;
· Hyrwyddocyfle cyfartal; a
· Meithrinperthnasau da rhwng cymunedau amrywiol
ynnarpariaeth gwasanaethau, nwyddau, gwaith a chyfleusterau, darpariaeth grantiau ac ymgysylltiad a phartneriaid y Cyngor.
Eglurodd y Swyddog Gweithredol Busnes Corfforaethol a Chyfathrebu nad yw’n ofyniad llunio a chyhoeddi polisi, fodd bynnag mae cyhoeddi polisi’n dangos ymrwymiad y Cyngor i gydraddoldeb ac i drin pawb yn deg.
Roeddyr adroddiad hefyd wedi ei gyflwyno i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yr wythnos flaenorol a chafodd ei groesawu.
Soniodd y Cynghorwyr Bithell a Jones am ddigwyddiad yr oeddent wedi cael y fraint o'i fynychu y diwrnod cynt, lle cafwyd cyflwyniad gan ddisgyblion Ysgol Alun yr Wyddgrug fel rhan o fis hanes LGBT yn ymwneud ag annog pobl i fod yn fwy goddefgar ac i dderbyn gwahaniaethau pobl eraill.
PENDERFYNWYD:
(a) Y dylid Cymeradwyo’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth cyn ei gyhoeddi a’i weithredu, a
(b) Nodi'rcamau sy’n cael eu cymryd i gynyddu nifer y gweithwyr sy’n cwblhau'r modiwlau e-ddysgu ar gydraddoldeb.