Mater - penderfyniadau

Quarter 3 Council Plan 2018/19 Monitoring Report

31/07/2019 - Quarter 3 Council Plan 2018/19 Monitoring Report

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) adroddiad yn darparu crynodeb o’r sefyllfa yn ystod Chwarter 3 2018/19 o ran blaenoriaeth Cynllun y Cyngor, ‘Cyngor Cefnogol’, a oedd berthnasol i’r Pwyllgor. 

 

Roedd hwn yn adroddiad cadarnhaol gydag 92% o’r gweithgareddau yn gwneud cynnydd da ac 85% yn debygol o gyflawni’r canlyniad a ddymunwyd.  Roedd y risgiau hefyd yn cael eu rheoli'n llwyddiannus gyda'r mwyafrif yn cael eu hasesu’n risgiau cymedrol neu’n fân risgiau.  O ran y canran o blant dan ofal gydag asesiad iechyd amserol, er gwaethaf ystod o gamau gweithredu, roedd yr heriau’n parhau a byddent yn cael eu codi eto yn ystod cyfarfod buan gyda phartneriaid Iechyd.

 

Ar yr un mater, siaradodd yr Uwch Reolwr, Plant a’r Gweithlu am bwysigrwydd y gwaith a wnaed gan Julie Sproston, y Nyrs Plant Dan Ofal, a dderbyniodd ganmoliaeth am ei chyflwyniad diweddar ar ei rôl gan y Fforwm Gwasanaethau Plant.

 

Roedd yr unig risg fawr yn ymwneud ag ateb y galw am argaeledd gwlâu gofal mewn cartrefi nyrsio a phreswyl, lle’r oedd swyddogion yn ymchwilio i ddatrysiadau arloesol yn cynnwys modelau cydweithredol, fodd bynnag roedd heriau recriwtio a chadw staff mewn darpariaeth gofal yn parhau i fod yn broblem hirdymor.  

 

Darparodd yr Uwch Reolwr, Diogelu a Chomisiynu wybodaeth am y risg i atgyfeiriadau diogelu oedolion a oedd wedi cael eu huwchraddio i wyrdd yn dilyn ailstrwythuro’r gwasanaeth ac adolygiad gan yr Adain Archwilio Mewnol. Dywedodd y byddai diweddariad Chwarter 4 yn adlewyrchu'r gwelliannau a gyflawnwyd a chawsant eu croesawu yn ystod ymweliad diweddar gan Arolygiaeth Gofal Cymru.

 

Holodd y Cynghorydd Mackie am gywirdeb data ‘cyfnod gwirioneddol’ a ‘blwyddyn i’r dyddiad gwirioneddol’ ar ddangosyddion perfformiad allweddol. Cytunodd yr Uwch Reolwr i atgyfeirio hyn at y Tîm Perfformiad, gan ychwanegu efallai bod rhai wedi’u heffeithio gan y prif weithgareddau a gynhaliwyd yn ystod y chwarter olaf.

 

Yn unol â’r cais gan y Cynghorydd McGuill, darparodd yr Uwch Reolwr, Plant a’r Gweithlu, drosolwg o’r prosiect asiantaeth ar y cyd â Heddlu Gogledd Cymru a oedd yn anelu i ddarparu dull hysbys Profiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod i blismona cymunedol. Ers cwblhau’r hyfforddiant, roedd lleihad bychan wedi bod o ran atgyfeiriadau CID i'r Gwasanaethau Cymdeithasol. Cytunodd yr Uwch Reolwr i ddosbarthu dolen i glip fideo lle'r oedd Swyddogion yr Heddlu yn disgrifio effaith yr hyfforddiant.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod adroddiad monitro Chwarter 3 Cynllun y Cyngor 2018/19 yn cael ei nodi.