Mater - penderfyniadau

Housing Revenue Account Budget 2019/20, Housing Revenue Account Business Plan and Housing Revenue Account 30 year Financial Business Plan

09/08/2019 - Housing Revenue Account Budget 2019/20, Housing Revenue Account Business Plan and Housing Revenue Account 30 year Financial Business Plan

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) yr adroddiad ar gyfer cymeradwyo Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai (HRA) ar gyfer 2019/20, Cynllun Busnes HRA a’r grynodeb o Gynllun Busnes 30 mlynedd yr HRA.

 

Adroddodd y Prif Swyddog ar renti, fel y manylwyd yn yr adroddiad, a dywedodd bod y Gweinidog wedi cytuno y byddai’r ymgodiad blynyddol yn cael ei osod ar 2.4%. Eglurodd, yn achos bod rhent wythnosol cyfartalog landlord cymdeithasol yn is na’i Fand Rhent Targed a bod angen iddo fod o fewn y Band Rhent Targed o dan y Polisi Rhent, yna’r uchafswm y gallent godi rhent wythnosol tenant unigol oedd 2.4% a £2. Byddai’r penderfyniad yn berthnasol am flwyddyn yn unig (2019-20) wrth ddisgwyl canlyniad yr adolygiad o’r Cyflenwad Tai Fforddiadwy.     

 

Dywedodd y Prif Swyddog hefyd bod y Cynllun Busnes a’r papurau cysylltiedig wedi cael eu cyflwyno hefyd i’r Ffederasiwn Tenantiaid a fu’n gadarnhaol iawn o ran cefnogi’r rhaglen, ac yn benodol o ran y gwaith cyfalaf a’r cynllun busnes. Aeth ymlaen i ddweud fod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Menter, mewn cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2019 wedi mynegi eu cefnogaeth hefyd i’r Cynllun Busnes a’r gyllideb HRA, y cynnydd arfaethedig mewn rhent o hyd at 2.4% (ynghyd â hyd at £2), cynnydd mewn rhent garej o £1 yr wythnos, ynghyd â chynnydd mewn rhent llain garej o £0.20 yr wythnos, a’r Rhaglen Gyfalaf HRA arfaethedig ar gyfer 2019/20. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo’r gyllideb a Chynllun Busnes HRA ar gyfer blwyddyn ariannol 2019/20, fel y nodwyd yn yr adroddiad;         

 

(b)       Cymeradwyo’r cynnydd arfaethedig mewn rhent o hyd at 2.4% (ynghyd â hyd

at £2);

 

(c)        Cymeradwyo’r cynnydd mewn rhent garej o £1 yr wythnos a chynnydd yn rhent llain garej o £0.20 yr wythnos; a              

 

(d)       Cymeradwyo’r Rhaglen Gyfalaf HRA arfaethedig ar gyfer 2019/20 fel y nodwyd yn atodiad C o’r adroddiad.