Mater - penderfyniadau
Housing Revenue Account Budget 2019/20, Housing Revenue Account Business Plan & Capital Programme 2019/20
29/05/2019 - Housing Revenue Account Budget 2019/20, Housing Revenue Account Business Plan & Capital Programme 2019/20
CyflwynoddCynghorydd Attridge adroddiad ar Gyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2019/20, Cynllun Busnes a Rhaglen Gyfalaf y Cyfrif Tefeniw Tai 2019/20 er cymeradwyaeth ac i’w hargymell i’r Cyngor yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw.
Amlinellwydyn yr adroddiad fanylion am y cynnydd arfaethedig o 2.4% mewn rhent (+ hyd at £2), felly hefyd y cynnydd o £1 yr wythnos mewn rhenti garejys a chynnydd o £0.20c yr wythnos mewn rhenti plotiau garej.
Soniodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau ) am y cyfleoedd am brentisiaethau a swyddi a oedd ar gael drwy’r Cyfrif Refeiniw a’r Rhaglen Gyfalaf Tai a'r Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP).
PENDERFYNWYD:
(a) Y dylid cymeradwy cyllideb a Chynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer y flwyddyn ariannol 2019/20 a'i argymell i’r Cyngor;
(b) Y dylid cymeradwyo’r cynnydd arfaethedig mewn rhent o hyd at 2.4% (+ £2);
(c) Bod y Pwyllgor yn cefnogi cynnydd o £1 yr wythnos mewn rhenti garejys a chynnydd o £0.20p yr wythnos mewn rhenti plotiau garej; a
(d) CymeradwyoRhaglen Gyfalaf y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2019/20.