Mater - penderfyniadau

Development of 2019/20 - 2021/22 Capital Programme

29/05/2019 - Development of 2019/20 - 2021/22 Capital Programme

            Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) adroddiad ar yr uchod er cymeradwyaeth ac i'w argymell i'r Cyngor yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw.

 

            Roedd yr adroddiad yn rhannu Rhaglen Gyfalaf Cronfa’r Cyngor yn dair rhan:

 

1.    Statudol / Rheoleiddiol – dyraniadau ar gyfer gwaith rheoleiddio a statudol

2.    Asedau Argadwedig – dyraniadau i ariannu gwaith isadeiledd sy’n angenrheidiol i sicrhau parhad gwasanaethau a busnes; a

3.    Buddsoddiad - dyraniadau i ariannu’r gwaith sy’n angenrheidiol i ailfodelu gwasanaethau er mwyn darparu’r arbedion effeithlonrwydd sydd wedi’u hamlinellu mewn cynlluniau busnes Portffolio a buddsoddi mewn gwasanaethau fel y’u hamlinellir yng Nghynllun y Cyngor.

 

Rhoddwyd manylion am y gefnogaeth sydd wedi'i chynllunio ar gyfer darpariaeth cwricwlwm yr ysgolion yn ddigidol i baratoi ar gyfer y newidiadau sy’n cael eu cyflwyno mewn asesu llythrennedd a rhifedd ar-lein, a’r angen i ddiweddaru'r isadeiledd TG ar draws ysgolion. Gallai peidio buddsoddi yn y cynllun arwain at ddysgwyr nad ydynt yn datblygu’r sgiliau angenrheidiol i ymgysylltu â’r byd digidol. Byddai datblygu cysylltedd mewn ysgolion yn costio £0.276m yn 2019, gyda £0.130m arall yn cael ei gynnwys yn rhaglen 2018/19 wedi’i noddi o’r gyllideb ychwanegol wrth gefn. Byddai’r gwariant yn cynnwys £0.120m gan Lywodraeth Cymru sydd wedi cytuno i gynyddu capasiti o ran cysylltedd. Byddai cynyddu capasiti di-wifr ysgolion yn costio £0.250m yn 2019/20.

 

Amlinellwyd hefyd y cynllun amnewid gliniaduron/cyfrifiaduron personol am rai newydd.   Mae angen cael gwared ar liniaduron sy’n rhy hen i ddarparu’r lefel angenrheidiol o wasanaeth a/neu gefnogaeth ar gyfer y systemau gweithredu a’r feddalwedd ddiweddaraf.  Os nad ydynt yn cael eu disodli mae posibilrwydd y bydd diogelwch seibr yn cael ei dorri, y bydd achrediad y rhwydwaith sector cyhoeddus o dan fygythiad, ac y byddai darpariaeth gwasanaeth yn dioddef oherwydd na all swyddogion wneud defnydd effeithiol o systemau. Ni fydd Windows 7 yn cael ei gefnogi ar ol Ionawr 2020. Y swm i'w gynnwys yn y rhaglen yw £0.106m.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Thomas, cadarhaodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) o ran gofyniad cyllido’r Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd a nodir yn yr adroddiad o dan ‘gynlluniau posibl ar gyfer y dyfodol’ , y byddai hyn yn cael ei gadw o fewn y rhaglen gyfalaf fel rhan o’r ystyriaethau parhaus ar gyfer y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y dyraniadau a’r cynlluniau yn Nhabl 4 o adrannau Statudol/Rheoleiddio ac Asedau Argadwedig Rhaglen Gyfalaf Cronfa'r Cyngor 2019/20 – 2021/22 yn cael eu cymeradwyo.

 

(b)       Bod y cynlluniau yn Nhabl 5 o Adran Buddsoddiad Rhaglen Gyfalaf Cronfa'r Cyngor 2019/20 – 2021/22 yn cael eu cymeradwyo.

 

(c)        Nodi bod y diffyg o ran cyllid i ariannu cynlluniau yn 2019/20 a 2020/21 yn Nhabl 6, ar y pwynt hwn yn y broses gymeradwyo, yn hyblyg. Bydd opsiynau sy’n cynnwys cyfuniad o dderbyniadau cyfalaf y dyfodol, grantiau amgen (os ar gael) benthyca darbodus neu aildrefnu cynlluniau yn cael eu hystyried yn ystod 2019/20  ac yn cael eu cynnwys mewn adroddiadau ar y rhaglen gyfalaf yn y dyfodol, ac

 

(d)       Y dylid cymeradwyo’r cynlluniau sydd wedi’u cynnwys yn Nhabl 7 ar gyfer adran benodol noddedig Rhaglen Gyfalaf Cronfa’r Cyngor a fydd yn cael ei ariannu’n rhannol drwy Fenthyca Darbodus.