Mater - penderfyniadau
Treasury Management Strategy 2019/20, Treasury Management Policy Statement, Practices and Schedules 2019/20 - 2021/22, Treasury Management Quarter 3 update 2018/19
09/04/2019 - Treasury Management Strategy 2019/20, Treasury Management Policy Statement, Practices and Schedules 2019/20 - 2021/22, Treasury Management Quarter 3 update 2018/19
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Dros Dro - Cyfrifeg Dechnegol y Strategaeth ddrafft ar gyfer Rheoli’r Trysorlys yn 2019/20, y Datganiad Polisi, Arferion a Rhestrau 2019-2022 i’w hadolygu ac argymell bod y Cabinet yn eu mabwysiadu. Roedd pob Aelod wedi cael gwahoddiad i sesiwn hyfforddiant ar 29 Ionawr i baratoi ar gyfer cymeradwyo’r Strategaeth mewn cyfarfod o’r Cyngor llawn fis Chwefror. Hefyd, cyflwynwyd er gwybodaeth y diweddariad chwarterol yngl?n â materion oedd a wnelont â Strategaeth Rheoli’r Trysorlys y Cyngor ar gyfer 2018/19.
Ni fu unrhyw newidiadau o bwys yn y Datganiad Polisi Rheoli’r Trysorlys cyffredinol, ac amlygwyd y rhannau allweddol yngl?n â’r cyd-destun economaidd a lleol, ynghyd â’r strategaethau buddsoddi a benthyca. Esboniwyd rhai o’r newidiadau, gan gynnwys gwahanu’r Strategaeth Gyfalaf a’r Cynllun Rheoli Asedau, a dull y Cyngor o ymdrin â diffiniadau ehangach o wahanol fathau o fuddsoddi, fel y nodwyd yn yr adroddiad.
Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Peers, esboniwyd y gellid rhyddhau cronfeydd wrth gefn defnyddiadwy ar ffurf arian parod i’w buddsoddi. Dywedodd y dylai manylion benthyciadau tymor byr gynnwys y sail resymegol ar eu cyfer, ac y dylai buddsoddiadau gynhyrchu incwm digonol. Gofynnodd nifer o gwestiynau yngl?n â sawl elfen o’r Strategaeth, gan gynnwys yr angen i glirio dyledion yn hytrach na buddsoddi ar gyfraddau llog isel, ac asesu benthyciadau yn ôl eu fforddiadwyedd er mwyn osgoi taliadau cosb wrth ailstrwythuro dyledion. Cododd amheuon yngl?n â buddsoddiad a benthyciad a sefydlwyd ar yr un pryd a oedd yn golygu fod y Cyngor ar ei golled o ran llog.
Esboniodd y Rheolwr Cyllid Dros Dro fod manylion y dangosyddion darbodus a gyflwynwyd yn y Strategaeth Gyfalaf yn dangos costau benthyca fel canran o’r incwm. Cadarnhaodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol y câi’r ganran ei monitro, a’i bod yn llai na chanran llawer o gynghorau eraill yng ngogledd Cymru.
Roedd y sesiwn hyfforddiant diweddar ar Reoli’r Trysorlys wedi ymdrin â’r dull o ad-dalu benthyciadau hirdymor ar yr adegau mwyaf priodol, a’r ffaith bod benthyciadau tymor byr yn ffordd o addasu i amrywiant mewn lefelau llif arian ar unrhyw adeg benodol, ac roedd hynny’n arfer cyffredin. Er y cydnabuwyd fod y sefyllfa o ran benthyciadau hirdymor yn adlewyrchu llawer o benderfyniadau a wnaethpwyd yn y gorffennol, roedd benthyciadau hirdymor wedi’u gosod ar gyfradd is ar sail argymhellion ymgynghorwyr Rheoli Trysorlys y Cyngor. Oherwydd gofynion deddfwriaethol yr Undeb Ewropeaidd yngl?n â chadw arian parod fel buddsoddiadau o dan y Gyfarwyddeb Marchnadoedd mewn Offerynnau Ariannol, roedd mwy o hyblygrwydd yn y farchnad ond roedd hefyd yn golygu y gellid sefydlu buddsoddiadau a benthyciadau ar yr un pryd.
Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod y penderfyniadau a wnaethpwyd yn y gorffennol yngl?n â benthyca yn seiliedig ar yr wybodaeth a’r cyfraddau llog oedd ar gael ar y pryd, ac roedd mwy o graffu ar fenthyca bellach. Wrth amlygu’r risg strategol o gynnal a chadw adeiladau ysgol, siaradodd am yr anhawster o sicrhau cydbwysedd rhwng buddsoddi mewn asedau a chostau benthyciadau.
Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod y rhan helaeth o’r benthyciadau drwy’r cyfrif refeniw wedi’u cefnogi gan gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer yr elfen cyfalaf craidd.
Roedd y Cynghorydd Woolley’n cydnabod yr angen am wariant hanfodol, a mynegodd bryderon yngl?n â’r cyfyngiad ar gostau benthyca wrth i Gronfa’r Cyngor grebachu. Mewn ymateb i gwestiynau, rhoddwyd dadansoddiad o gyfanswm y gyllideb ar gyfer llog ar fenthyciadau, sef £13.9 miliwn, ac roedd oddeutu 40% yn dod o’r Cyfrif Refeniw Tai a 60% o Gronfa’r Cyngor. O ran y terfyn fforddiadwyedd, roedd dangosyddion darbodus yn galluogi’r Cyngor i ystyried benthyca digymorth yng nghyd-destun y Strategaeth Ariannol Tymor Canol. Roedd y Rhaglen Gyfalaf yn cynnwys manylion am y cynlluniau hynny a gynhaliwyd gan fenthyca â chymorth a benthyca darbodus, ynghyd ag enghreifftiau o effeithiau benthyca.
Awgrymodd y Cynghorydd Dunbobbin y gellid bod yn fwy mentrus wrth fuddsoddi gan ystyried yr hinsawdd ariannol oedd ohoni, fel yr oedd rhai awdurdodau yn Lloegr wedi gwneud wrth fuddsoddi mewn gwestai ac adeiladau a fedrai gynhyrchu mwy o elw. Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yr ymchwilid i bob cyfle i gynhyrchu incwm.
Dywedodd y Prif Swyddog fod y Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn Lloegr wedi mynegi pryderon yngl?n â maint buddsoddiadau cyfalaf, a bod y rheiny’n aml y tu hwnt i ardal ddaearyddol yr awdurdod dan sylw, ac wedi’u gwneud at ddibenion masnachol pur yn hytrach nag unrhyw fudd cymdeithasol yn lleol. Hysbyswyd y Cynghorydd Dunbobbin y dylai gyfeirio cais am drafodaeth o’r fath at y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol.
PENDERFYNWYD:
(a) Ar ôl adolygu’r Strategaeth ddrafft ar gyfer Rheoli’r Trysorlys yn 2019/20, y Datganiad Rheoli Trysorlys drafft ar gyfer 2019-2022 a’r drafft o Arferion a Rhestrau Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2019-2022, nad oedd gan y Pwyllgor unrhyw faterion penodol i’r cyfeirio at y Cabinet ar 19 Chwefror 2019; a
(b) Nodi’r diweddariad chwarterol yngl?n â Rheoli’r Trysorlys yn 2018/19.