Mater - penderfyniadau
Flintshire Electoral Review
18/03/2019 - Flintshire Electoral Review
Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad ar Adolygiad Etholiadol Sir y Fflint. Roedd yr atodiad i’r adroddiad yn amlinellu'r cynigion i'w cyflwyno i Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru wedi eu seilio ar y gwaith helaeth a wnaed gydag Aelodau.
Eglurodd y Prif Weithredwr y côd lliw yn yr atodiad, a dywedodd os oedd Aelodau yn cytuno fod y ddogfen yn cyfleu yr awgrymiadau a wnaed ganddynt yna byddai’n cael ei hanfon at y Comisiwn. Y côd lliw oedd:
· Gwyrdd - cynigion lle'r oedd yna gytundeb a’i fod o fewn amrywiant o 25% o’r cyfartaledd arfaethedig ar gyfer y Sir;
· Oren - cynigion lle'r oedd yna beth anghytundeb ond roedd yn opsiwn a gâi ei ‘ffafrio’ ac roedd o fewn amrywiant o 25% o'r cyfartaledd arfaethedig ar gyfer y Sir; a
· Coch – cynigion lle nad oedd yna unrhyw gytundeb neu nad oedd y cynigion yn cydymffurfio gan nad oeddent o fewn yr amrywiad o 25% o gyfartaledd y Sir.
Yn dilyn nifer o sylwadau ac awgrymiadau gan Aelodau, cytunwyd y byddai’r ddogfen yn dangos yn glir pa opsiynau oedd yn ymwneud â pha liw pan gaiff mwy nag un opsiwn ei ddangos.
Teimlai’r Cynghorydd Richard Lloyd y dylai’r ddogfen gynnwys cyfeiriad at wardiau etholiadol unigol Aelodau.
Yn dilyn cwestiwn gan y Cynghorydd Brown dywedodd y Prif Weithredwr y gellid gofyn i’r Comisiwn Ffiniau faint roedd yr adolygiad wedi ei gostio.
Byddai’r Comisiwn nawr yn paratoi Cynigion Drafft ar gyfer y trefniadau etholiadol ar gyfer Sir y Fflint a fyddai’n cael eu cyhoeddi yn Hydref 2019 – byddai cyfnod ymgynghori o 12 wythnos yn dilyn wedyn. Yng Ngham Tri byddai’r Comisiwn yn paratoi Adroddiad Cynigion Terfynol a fyddai’n cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru yn 2020 yn ogystal â’r rhai ar gyfer holl Gynghorau eraill Cymru.
Diolchodd y Cynghorydd Bithell i’r tîm am y gwaith a wnaed gydag Aelodau ar yr adolygiad etholiadol.
PENDERFYNWYD:
(a) Y byddai’r cynigion yn cael eu cyflwyno i Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru gyda’r ddogfen yn dangos yn glir pa liw sy'n cyd-fynd â pha opsiwn; a
(b) Bod y Cyngor yn darparu gwybodaeth gefndir i Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru mewn cefnogaeth i’r cynigion cadarnhaol a gaiff eu cynnwys yn yr atodiad ac, yn achos yr ardaloedd hynny lle na chafodd unrhyw gynnig ei wneud oedd yn cydymffurfio, y set gyflawn o opsiynau i’w hystyried gan Aelodau.