Mater - penderfyniadau
Council Fund Budget 2019/20 – Third and Closing Stage
18/03/2019 - Council Fund Budget 2019/20 – Third and Closing Stage
Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad ar Gyllideb Cronfa'r Cyngor 2019/20 – y Trydydd Cam a'r Olaf gydag adroddiad y Cabinet 22 Ionawr 2019 wedi ei atodi i’r adroddiad. Roedd gwybodaeth ychwanegol wedi ei gylchredeg i Aelodau’r diwrnod blaenorol, yn dilyn cais yn y Cabinet, ar y gwasanaethau nad ydynt yn orfodol a allai fod mewn perygl os nad oedd unrhyw gyllid ychwanegol ar y ffordd gan Lywodraeth Cymru a Threth y Cyngor sy'n gyfatebol i'r gwasanaethau hynny.
Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) ei bod yn ddyletswydd ar y Cyngor i osod cyllideb gyfreithlon a chytbwys.Eglurodd y pwysigrwydd o beidio â gorlwytho’r gyllideb gyda risgiau ac y byddai’n rhaid i unrhyw gynigion a gâi eu cyflwyno fod ag amserlenni realistig a bod modd eu gweithredu gyda chyllid digonol wedi ei roi naill ochr ar gyfer y prif risgiau. Gorffennodd drwy sôn am yr angen i Aelodau wrando ar gyngor rolau statudol y Swyddog Adran 151 a'r Prif Weithredwr wrth iddynt gynghori'r Cyngor.
Rhoddodd y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol gyflwyniad oedd yn ymdrin â’r meysydd canlynol:
· Gosod cyllideb gyfreithlon a chytbwys;
· Rhagolwg wedi ei ddiweddaru ar gyfer 2019/20;
· Cam 1 – Datrysiadau Cyllideb Corfforaethol;
· Cam 2 - Cynigion Portffolio Cynllun Busnes;
· Setliad Terfynol;
· Newidiadau eraill i ragolygon 2019/20;
· Effaith cyhoeddiadau grant;
· Crynodeb o’r rhagolygon diwygiedig;
· Yr opsiynau a’r posibiliadau sydd ar ôl;
· Cronfeydd wrth gefn a Balansau;
· Mathau o gronfeydd wrth gefn;
· Rheoli’r flwyddyn 2019/20;
· Lefel ddarbodus o gronfeydd wrth gefn ar gyfer 2019/20;
· Treth y Cyngor;
· Cynnydd posib mewn Treth y Cyngor yng Nghymru 2019/20;
· Cymaryddion Treth y Cyngor (Band D) 2018/19;
· Cymaryddion dangosol Treth y Cyngor 2019/20;
· Cymaryddion dangosol Treth y Cyngor Cymru 2019/20;
· Cyllidebau Ysgolion a Gofal Cymdeithasol;
· Cyllid ysgolion 2019/20;
· Cyllid Gofal Cymdeithasol 2019/20;
· Safbwyntiau proffesiynol;
· Rhagolygon y dyfodol;
· Rhagolygon y tymor canolig;
· #cefnogigalw;
· Y diweddaraf o gyfarfod yr ACau a’r ASau;
· Senarios cyllideb; a’r
· Camau nesaf ac amserlenni.
Dywedodd y Prif Weithredwr fod yr opsiynau sydd ar ôl i sicrhau cyllideb gyfreithlon a chytbwys wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad Cabinet.Roedd y posibilrwydd am ostyngiadau pellach o ran gwasanaethau ar gyfer y flwyddyn ariannol hon ar unrhyw raddfa yn hesb ac roedd y datganiadau gwytnwch portffolio a oedd yn dangos y risgiau i gapasiti gwasanaethau a pherfformio unrhyw ostyngiadau pellach i'r gyllideb wedi eu derbyn gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu a'r Cabinet. Roedd nifer o weithdai i Aelodau hefyd wedi eu cynnal.Gwnaeth sylwadau ar oblygiadau'r awgrymiadau posib yn y cyfnod hwyr hwn gan gynnwys y berthynas rhwng y gweithlu ac undebau llafur.Byddai unrhyw benderfyniadau newydd yn cymryd amser i’w gweithredu ac ni fyddent yn gallu arwain at arbedion ar unwaith na rhai digonol ar gyfer blwyddyn gyllideb 2019/20 i’w hystyried o ran cydbwyso'r gyllideb.
Cafwyd manylion am sefyllfa ceisiadau arbennig a wnaed i Lywodraeth Cymru (LlC) ar gyfer cymorth ariannol yn yr adroddiad.Y tu hwnt i ymyrraeth ariannol gan LlC yr unig opsiynau oedd ar ôl o ran y gyllideb i gydbwyso'r gyllideb oedd incwm Treth y Cyngor a chronfeydd wrth gefn a balansau, gyda'r posibiliadau ar gyfer yr olaf yn gyfyngedig.Rhoddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol eglurhad yngl?n â lefel ddarbodus arfaethedig y cronfeydd wrth gefn yr oedd yn argymell eu dal i leddfu effaith y ffactorau a amlinellwyd yn yr adroddiad.Wedi ei seilio ar y dadansoddiad yn yr adroddiad, dim ond swm cymharol fach o'r cronfeydd wrth gefn o £0.189m oedd ar gael i wneud cyfraniad pellach i'r gyllideb ar gyfer 2019/20.
Ar y cynnydd posib mewn Treth y Cyngor, darparodd y Prif Weithredwr wybodaeth ar ffigyrau dangosol ar yr amrediad cynnydd ac i faint o gynghorau roedd hynny’n weithredol - roedd yna dri o gynghorau ar hyn o bryd y gwyddom eu bod yn ystyried gosod cynnydd o 9%+ yn Nhreth y Cyngor. Pwysleisiodd nad oedd swyddogion yn argymell 8.5%, ond dyma’r ffigwr a fyddai’n pontio’r bwlch yn y gyllideb ac roedd yn ofyniad fel y saif yr amcangyfrifon.Yn ychwanegol at y cynnydd byddai angen cynnwys Treth Tân ac Achub Gogledd Cymru, gan ddod â chyfanswm y cynnydd i 8.9%.
Eglurodd y Rheolwr Refeniw y byddai hyn, wedi ei seilio ar y cynnydd hwnnw o 8.9%, yn gyfystyr â chynnydd blynyddol o £104.81 ar gyfer aelwyd gyffredin Band ‘D’, a oedd yn £8.73 y mis.Roedd yr wybodaeth ddiweddaraf yn dangos y byddai cynnydd o 8.9% yn golygu y byddai Sir y Fflint yn gosod ffi Treth y Cyngor a fyddai yn £34 yn is na'r cyfartaledd ar gyfer Cymru yn 2019/20.
Cadarnhaodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’r Prif Weithredwr fod eu safbwyntiau proffesiynol fel y nodwyd yn yr adroddiad i'r Cabinet.Gwnaeth y Prif Weithredwr sylwadau ar y risgiau i’r gweithlu gyda nifer o dimau eisoes o dan bwysau o ganlyniad i (a) ofynion gwasanaeth a (b) gostyngiadau cynyddol yn eu capasiti. Mae rhagolygon ariannol dyrys wedi digwydd ac roedd y ffigyrau a ddarparwyd i Aelodau yn gadarn.
Senarios y gyllideb oedd:
Senario 1: fod y Cyngor yn gosod cyllideb o fewn ei adnoddau hysbys a heb unrhyw gymorth cenedlaethol.Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai hyn yn anodd, ond y gellid cyflawni hynny.
Senario 2: fod llywodraeth leol yn derbyn gwell Setliad ac y gall y Cyngor osod cyllideb gyda mwy o adnoddau.Dywedodd y Prif Weithredwr mai ychydig o siawns oedd yna y byddai hyn yn digwydd.
Senario 3: fod Sir y Fflint yn derbyn gwell Setliad gyda chyllid atodol ac y gall y Cyngor osod cyllideb gyda mwy o adnoddau.Dywedodd y Prif Weithredwr nad oedd hyn erioed wedi digwydd o’r blaen ac felly teimlai fod y tebygolrwydd yn isel iawn.
Senario 4: na all y Cyngor osod cyllideb gyfreithlon a chytbwys a’i fod yn gorfod mynd yn ôl at y gweithdrefnau statudol a wynebu'r perygl o ymyrraeth genedlaethol.Dywedodd y Prif Weithredwr mai dyma’r sefyllfa ddiffygiol a’i bod yn sefyllfa na fyddai neb am ganfod eu hunain ynddi. Byddai angen i’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol gyhoeddi Rhybudd Adran 114 lle byddai angen cytuno ar gynllun gweithredu o fewn 21 diwrnod i'r Cyngor allu adfer ei gyllid yn ystod y flwyddyn ac ni fyddai ond yn cael gwario ar wariant wedi ei glustnodi - byddai rhaid i unrhyw beth dewisol gael ei atal a gallai'r sefyllfa fynd tu hwnt i reolaeth.Nid yw’r un Cyngor yng Nghymru erioed wedi gorfod cyhoeddi Rhybudd 114.
Roedd yna ddigwyddiad olaf wedi ei gynllunio gyda LlC a oedd wedi ei drefnu gan y Cynghorydd Kevin Hughes a fyddai'n golygu fod dirprwyaeth o Aelodau'n mynychu'r Senedd ddydd Mawrth 5 Chwefror gan obeithio cwrdd ag Aelodau Cynulliad - byddai manylion llawn ar gael yn nes at yr amser.Yn dilyn hynny roedd yna gyfarfod Cyngor Sir ar 19 Chwefror cyn gosod Treth y Cyngor yn derfynol ar 28 Chwefror.
Diolchodd y Cynghorydd Aaron Shotton i'r holl swyddogion oedd wedi ymgymryd â gwaith ar y gyllideb hyd yma a gwnaeth sylw ar y nifer o gyfarfodydd Cyngor Sir, Cabinet, y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a gweithdai oedd wedi eu cynnal lle'r oedd y gyllideb wedi ei thrafod cyn heddiw.Roedd pob cyfarfod Aelod wedi cydnabod a derbyn nad oedd dim arbedion effeithlonrwydd pellach i’w canfod o fewn gwasanaethau heb roi'r gwasanaethau hynny mewn perygl.
Roedd y Cyngor wedi bod drwy ddeng mlynedd o galedi ac roedd ymagwedd drawsbleidiol bragmataidd wedi ei mabwysiadu oedd wedi gweld gwasanaethau’n cael eu hamddiffyn a newid mewn modelau cyflawni. Sir y Fflint oedd un o’r cynghorau mwyaf cost effeithiol yng Nghymru a gellid dangos hynny drwy'r arbedion effeithlonrwydd oedd wedi eu canfod tra’n parhau i ddarparu’r lefel o wasanaethau y mae’n eu darparu.Ond roedd y Cyngor nawr wedi cyrraedd y pen ac nid oedd unrhyw arbedion effeithlonrwydd pellach i’w canfod.Mynegodd eto’r sefyllfa pe na bai unrhyw ymyrraeth bellach yn cael ei derbyn gan LlC, yna'r unig opsiynau i bontio'r bwlch cyllido oedd Treth y Cyngor a'r defnydd o'r cronfeydd wrth gefn a'r balansau, a oedd yn gyfyngedig.Symudodd ohirio’r eitem hyd nes y byddai’r ddirprwyaeth drawsbleidiol wedi bod at LlC ar 5 Chwefror oherwydd, pe bai cyllid ychwanegol ar gael, fe allai'r cynnydd yn Nhreth y Cyngor gael ei atal. Diolchodd i’r Cynghorydd Kevin Hughes am drefnu'r ddirprwyaeth i gyfarfod LlC a meithrin yr ymagwedd drawsbleidiol.
Ceisir cydnabyddiaeth a chefnogaeth gan LlC i anghenion trigolion a busnesau Sir y Fflint – roedd LlC yn disgwyl i’r cynnydd cyfartalog yn Nhreth y Cyngor i fod yn 6.5% ac roedd Sir y Fflint yn edrych ar 8.5% a oedd yn gam rhy bell ac roedd angen cymorth.Roedd cyngor wedi ei dderbyn ar y goblygiadau i’r Cyngor pe na bai cyllideb gyfreithlon a chytbwys yn cael ei gosod - roedd angen derbyn ar draws y Siambr nad oedd arbedion effeithlonrwydd pellach ar gael.Pe na bai cyllideb gyfreithlon a chytbwys yn cael ei gosod yna byddai gwasanaethau nad oeddent yn rhai gorfodol yn wynebu perygl a nododd enghreifftiau fel y gwasanaeth cerdd, Theatr Clwyd, gwasanaethau ieuenctid, cynlluniau chwarae, gwasanaethau cefn gwlad a bysiau oedd yn cael cymhorthdal.Eiliodd y Cynghorydd Attridge y cynnig i ohirio’r eitem.
Dywedodd y Cynghorydd Peers ei bod yn briodol i ohirio’r eitem, yn benodol yn seiliedig ar benderfyniad (2) gan y Cabinet ar 22 Ionawr “fod y Cabinet yn cynghori'r Cyngor yn absenoldeb gwelliant yn y Setliad Llywodraeth Leol gan Lywodraeth Cymru y byddai'n rhaid i’r Cyngor ddibynnu ar gynnydd o tua 8.5% yn Nhreth y Cyngor i gwrdd â’i ofynion gwariant ei hun ar gyfer 2019/20 (heb gynnwys y cynnydd yn Nhreth Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru)".Gwnaeth sylw ar sylwadau’r Cynghorydd Aaron Shotton yng nghyfarfod y Cyngor Sir ar 11 Rhagfyr lle dywedodd fod y cyllid gan LlC yn annigonol ac nad oedd yn dymuno gweld cynnydd yn Nhreth y Cyngor a fyddai’n gynnydd o tua 9%; pwysleisiodd y Cynghorydd Peers hyn eto yn y cyfarfod a gynhaliwyd gydag ACau ar 11 Ionawr lle dywedodd y Cynghorydd Shotton ei bod yn annhebygol y byddai unrhyw Aelod eisiau cefnogi cynnydd o'r fath yn Nhreth y Cyngor.Nododd adroddiad y Cabinet ar 22 Ionawr fod y Setliad yn parhau yn annigonol i gwrdd â gofynion cyllido Sir y Fflint.
Ar y cynnydd posib o 8.5% yn Nhreth y Cyngor, dywedodd y Cynghorydd Peers y dylai’r bwlch gael ei ariannu gan LlC, ac nid trethdalwyr lleol, a gofynnodd beth oedd yr Arweinyddiaeth yn ei gynnig os nad oedd gwelliant o ran cyllid gan LlC?Gwnaeth sylw ar y cynigion Cam 1 y cytunwyd arnynt yn flaenorol lle'r oedd cynnydd o 4.5% yn Nhreth y Cyngor wedi ei gymeradwyo yn ogystal ag ad-daliad TAW £1.9m wedi ei gymryd o'r cronfeydd wrth gefn. Ar y bwrdd per capita roedd Sir y Fflint yn 19 allan o’r 22 o awdurdodau lleol a £134 y person yn is na’r cyfartaledd Cymreig - rhoddodd fanylion am y chwe Chyngor ar y brig yn y Setliad blynyddol a'r cynnydd yr oeddent wedi ei dderbyn ar y Setliad Dros Dro.
Ym Mawrth 2018 roedd y cronfeydd wrth gefn, fel y rhestrwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru yn £49m - roedd angen ystyried cronfeydd wrth gefn pellach.Roedd £1.4m wedi ei adfer o’r newid mewn polisi cyfrifo ar gyfer y Ddarpariaeth Isafswm Refeniw ac roedd ar gael i’w ddefnyddio o gronfeydd.Trosglwyddodd y Cabinet hwn i'r gronfa arian at raid ym Medi 2018. Ar yr un pryd, cafodd ad-daliad TAW o £1.9m hefyd ei drosglwyddo, wedi ei fwriadu i gael ei ddefnyddio ar gyfer y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig ond roedd nawr yn cael ei ddefnyddio i gefnogi Cam 1 o'r gyllideb.
Roedd cyflwyniad ar Reoli'r Trysorlys wedi ei roi i Aelodau y bore hwnnw a £22.6m o gyllid y Cyngor wedi ei fuddsoddi a gellid cael mynediad ato o rhwng 15 a 35 diwrnod. Yn y cyflwyniad hwnnw hysbyswyd Aelodau hefyd fod y ddyled nawr yn £290m a holodd a ellid edrych ar gadarnhau’r dyledion hynny. Byddai angen ail-asesu gwariant y Cyngor ar gyfer 2019/20 i osgoi unrhyw gynnydd annerbyniol yn Nhreth y Cyngor o 8.5%.
Dywedodd y Cynghorydd Richard Jones fod yna gonsensws yng nghyfarfod diwethaf y Cyngor Sir nad oedd Aelodau eisiau gweld cynnydd o dros 5% yn Nhreth y Cyngor.Wedi ei seilio ar gynnydd yn Nhreth y Cyngor yn cael ei osod ar y lefel hwnnw, dywedodd fod yna ddau beth ar ôl i’w hystyried er mwyn osgoi gostyngiad yn y gwasanaethau a gaiff eu darparu gan y Cyngor ac mae’r ddau beth hwnnw oedd arian wrth gefn a balansau ac opsiynau cyllido corfforaethol. Roedd llythyr wedi ei dderbyn gan Julie James AC a Rebecca Evans AC, fel Gweinidogion y Cabinet, a oedd yn nodi nad oedd unrhyw dystiolaeth fod Sir y Fflint dan anfantais o ganlyniad i fformiwla’r Setliad. O ganlyniad i hynny, nid oedd yn teimlo fod yna lawer o siawns y byddai Sir y Fflint yn cael cyllid ychwanegol yn dilyn eu hymweliad â LlC ar 5 Chwefror.
Yn dilyn cais ganddo yng nghyfarfod y gyllideb y flwyddyn flaenorol, sefydlodd swyddogion pa ran o'r cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd y gellid eu defnyddio i gefnogi ysgolion ac roedd yn dymuno gwneud rhywbeth tebyg eleni. Nodwyd y balans a amcangyfrifwyd fel ar 1 Ebrill 2019 yn y gwaith papur, gyda ffigyrau yn erbyn cronfeydd wrth gefn penodol a glustnodwyd, na fyddai'n symud o fewn y flwyddyn ariannol - teimlai fod hynny yn annerbyniol ac os teimlwyd ar ddechrau’r flwyddyn na fyddai’r balans yn symud, ni ddylai fod wedi ei gynnwys fel cronfa wrth gefn a glustnodwyd ac y dylid ei ddefnyddio: ei gyfanswm oedd £1.318m.
Hefyd awgrymodd y gallai derbyniadau cyfalaf gael eu rhoi i’r cyfrif refeniw trwy dâl yr Isafswm Darpariaeth Refeniw, ac nid i’r cyfrif cyfalaf.Amcangyfrifwyd mai tua £4m oedd y tâl Isafswm Darpariaeth Refeniw a theimlai fod yna gyfle i beth o'r arian cyfalaf gael ei ddefnyddio yn y dull hwnnw.Cyfrifoldeb corfforaethol oedd hyn ac ni fyddai’n effeithio ar wasanaethau.Cynigiodd welliant fod swyddogion yn edrych ar y ddau opsiwn a ddisgrifiwyd ganddo, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Heesom.
Derbyniodd y cynigydd ac eilydd y cynnig gwreiddiol, y Cynghorwyr Aaron Shotton ac Attridge, y gwelliant a daeth hynny wedyn yn gynnig cadarn.
Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol na chaniateid y defnydd o dderbyniadau cyfalaf ar gyfer y gyllideb refeniw fel arfer.Fe gysylltid â Swyddfa Archwilio Cymru a byddai manylion ar y posibilrwydd hwnnw yn cael ei ddarparu i Aelodau cyn cyfarfod nesaf y Cyngor Sir ar 19 Chwefror.
Diolchodd y Cynghorydd Chris Dolphin i’r Cynghorydd Kevin Hughes am drefnu ymweliad y ddirprwyaeth â LlC ar 5 Chwefror a dywedodd fod cynnydd o 8.5% yn Nhreth y Cyngor yn annerbyniol. Cyfeiriodd at y llythyr gan Julie James AC oedd wedi cynnal cyfarfod ar y fformiwla gyllido ac roedd Arweinydd y Cyngor yn bresennol yn y cyfarfod hwnnw.Nid oedd unrhyw fanylion wedi ei gynnwys i ddweud fod unrhyw wrthwynebiad wedi bod i’r fformiwla gan y rhai oedd yn bresennol – holodd a oedd y neges o ran y fformiwla ddiffygiol yn cyrraedd LlC.Gwnaeth sylw ar y gefnogaeth a oedd yn cael ei darparu bob amser gan Gr?p y Democratiaid Rhyddfrydol gan eu bod yn gefnogol, tra'n cydnabod fod angen penderfyniadau anodd i sicrhau nad oedd y cynnydd yn Nhreth y Cyngor yn cyrraedd 8.5%; os oedd angen gwneud toriadau dywedodd fod angen i’r Cabinet wneud y penderfyniadau hynny drwy edrych ar y gwasanaethau nad ydynt yn statudol. Gwnaeth sylw ar y nifer o Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref sy’n agos at ei gilydd a galwodd ar Aelodau’r Cabinet a swyddogion i fod yn greadigol ac edrych ar yr holl feysydd gan gynnwys hyn.
Nid oedd y Cynghorydd Heesom chwaith yn cefnogi cynnydd o 8.5% yn Nhreth y Cyngor a dywedodd fod cyfrifoldeb y gyllideb yn gorwedd gyda’r Arweinydd ac Arweinyddiaeth y Cyngor.Canmolodd ansawdd y dogfennau oedd wedi eu darparu i Aelodau gan swyddogion a oedd yn eglur ac o safon uchel ac roedd yn ddiolchgar iawn am hynny.O ran y cronfeydd wrth gefn a’r balansau dywedodd fod yna gwestiwn yngl?n â pha gronfeydd wrth gefn oedd ar gael mewn gwirionedd.Cyfeiriodd hefyd at yr hyfforddiant Rheoli Trysorlys oedd wedi digwydd y bore hwnnw lle'r oedd trafodaeth wedi bod ar y cronfeydd wrth gefn a dyfynnodd fod £49m ar gael i'r Cyngor.Hefyd roedd mater y derbyniadau cyfalaf oedd yn swm sylweddol ac oedd ar gael i bwrpasau cydbwyso’r gyllideb.
Roedd ceisio cydbwyso’r gyllideb yn fater parhaus a dywedodd fod angen ail ystyried y strategaeth yn y dyfodol ac mae’n bosib y byddai angen ystyried gwasanaethau nad ydynt yn rhai gorfodol ac roedd yn beio'r Arweinyddiaeth am y sefyllfa ac nid LlC.O ran lefel ddarbodus y cronfeydd wrth gefn a amlinellir yn y ddogfen, dywedodd fod angen gwybodaeth bellach yngl?n â sut y daethpwyd i’r symiau hyn, roedd yn teimlo mai symiau symbolaidd oeddent a gofynnodd am y manylion hynny cyn y cyfarfod nesaf. Hefyd dywedodd nad oedd unrhyw graffu erioed wedi digwydd ar y Cyfrif Buddsoddiad a Benthyciadau Canolog a gofynnodd am wybodaeth bellach ar hynny.
Dywedodd y Prif Weithredwr fod yr wybodaeth a’r ffigyrau sydd wedi eu cynnwys o fewn yr adroddiad yn safbwyntiau proffesiynol wedi eu seilio ar ddata manwl oedd ar gael i Aelodau.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Sharps yngl?n ag a oedd yn bosibl i fandiau tai gael eu hailasesu, eglurodd y Rheolwr Refeniw na allai Sir y Fflint ar ei ben ei hun wneud hynny gan y byddai angen newid mewn deddfwriaeth gynradd yng Nghymru.Fe wnaed yr ailasesiad tai diwethaf yng Nghymru yn 2005; a’r un olaf yn Lloegr yn 1993.
Fe wnaeth y Cynghorydd Kevin Hughes sylw ar yr annhegwch fod plant yn Sir y Fflint yn derbyn llai o arian ar gyfer eu haddysg na phlant eraill ar draws Cymru. Dywedodd hefyd nad oedd yn dymuno gweld cynnydd o 8.5% yn Nhreth y Cyngor, ond er hynny fod angen gosod cyllideb.Roedd yn falch fod dirprwyaeth drawsbleidiol yn mynd i LlC ar 5 Chwefror a oedd yn dangos undod gan Gyngor Sir y Fflint a galwodd ar yr holl Aelodau i gydweithio er budd trigolion lleol y Sir.
Dywedodd y Cynghorydd Brown ei bod hefyd wedi mynychu'r hyfforddiant Rheoli Trysorlys y bore hwnnw.Ar y Rhaglen Gyfalaf roedd y côd yn dweud y dylai fod yn fforddiadwy yn nhermau lefelau Treth y Cyngor.Dywedodd fod angen i Aelodau weld y Rhaglen Gyfalaf gyda phob eitem oddi mewn fel y gallai gael ei hailasesu naill ai yn y cyfarfod nesaf ar 19 Chwefror neu ynghynt, gan nad oedd cynnydd arfaethedig o 8.5% yn Nhreth y Cyngor yn dderbyniol ac nid cyfrifoldeb y preswylwyr oedd ariannu'r bwlch.Hefyd gwnaeth sylw ar y cynnydd mewn ôl-ddyledion rhent a’r cynnydd yn y nifer o bobl sy'n dibynnu ar fanciau bwyd.Eglurodd y Prif Weithredwr y byddai adroddiad ar y Rhaglen Gyfalaf yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor ar 19 Chwefror a dywedodd fod y Rhaglen yn cynnwys y cynlluniau hirdymor.Dywedodd fod angen i Aelodau fod yn ystyriol o’r hyn oedd yn y Rhaglen Gyfalaf hirdymor nad oedd yn gofyn am ymrwymiad o’r gyllideb 2019/2020 gan mai rhaglen dreigl ydoedd dros nifer o flynyddoedd – gallai’r adroddiad arferol o bosib gael ei ehangu i gynnwys y cynllun tymor hirach gan gynnwys y pwysau a allai gael ei roi ar refeniw.
Cynigiodd y Cynghorydd Gay y gallai’r £1.4m a adferir o’r newid mewn polisi cyfrifo yn yr Isafswm Darpariaeth Refeniw gael ei ddefnyddio i helpu i bontio'r bwlch. Eglurodd y Prif Weithredwr o ystyried y gwelliant oedd wedi ei gynnig gan y Cynghorydd Richard Jones ac a oedd nawr yn ffurfio rhan o'r cynnig cadarn, byddai angen cyngor swyddogion ar Aelodau wrth ystyried y cronfeydd wrth gefn a’r balansau. Byddai angen cytundeb gan y Cyngor fod yna ddigon yn weddill er mwyn diwallu’r holl risgiau – awgrymodd nad oedd ei chynnig felly yn ddilys gan nad oedd yn cyd-fynd; roedd angen edrych ar y pecyn cyfan o ran cronfeydd wrth gefn a byddai angen i Aelodau wneud penderfyniad, ar 19 Chwefror, wedi ei seilio ar risg. Derbyniwyd hyn gan y Cynghorydd Gay.
Darparodd y Cynghorydd Bithell fanylion praesept Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd oedd wedi ei gytuno yn gynharach yr wythnos honno a dywedodd na ddylai trosglwyddo trethi i’r preswylwyr barhau ac nad oedd yn ddim tebyg i incwm. Roedd y Cynghorwyr Woolley ac Ellis hefyd yn gytûn nad oedd cynnydd o 8.5% yn dderbyniol, yn arbennig ar ôl ychwanegu'r praeseptau ar gyfer Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru, Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd a'r Cyngor Tref a Chymuned.Dywedodd y Prif Weithredwr o ystyried y ceisiadau am fwy o wybodaeth y byddai sesiwn friffio ar gyfer Aelodau yn cael ei threfnu cyn y cyfarfod ar 19 Chwefror.
Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod cyfeiriad wedi ei wneud at gronfeydd wrth gefn o £49m ac eglurodd ei fod yn cynnwys nifer o elfennau fel derbyniadau cyfalaf a chronfeydd wrth gefn, y Cyfrif Refeniw Tai a’r cronfeydd wrth gefn oedd wedi eu clustnodi – y cronfeydd wrth gefn oedd modd eu defnyddio mewn gwirionedd oedd £5.8m fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.Ar Reoli Trysorlys dywedodd ei bod yn bwysig peidio drysu argaeledd arian dros dro gyda chronfeydd wrth gefn, gan gyfeirio at pan fo’r Grant Cynnal Refeniw yn cael ei dderbyn o'i gymharu â phan oedd y system gyflogau yn rhedeg. Hefyd edrychwyd ar aildrefnu dyled yn rheolaidd a chafodd ei graffu gan y Pwyllgor Archwilio.
Dywedodd y Prif Weithredwr nad oedd neb yn cymryd y cynnydd o 8.5% yn Nhreth y Cyngor yn ysgafn, ond mai prif rôl swyddogion oedd cynghori Aelodau i'w helpu i hysbysu safbwynt i allu cymeradwyo cyllideb gytbwys o fewn y cyfyngiadau sydd ar gael. O ran ymweliad y ddirprwyaeth â LlC dywedodd nad oedd unrhyw hanes o unrhyw becyn yn cael ei gynnig i Gynghorau unigol.O ran y fformiwla gyllido dywedodd fod safbwynt swyddogion yn wahanol i safbwynt LlC; roedd y fformiwla wedi ei herio dros y blynyddoedd ond nid oedd erioed wedi bod yn rhan o ymgynghoriad ffurfiol na phleidlais ac nid oedd wedi ei hadolygu ers tua 20 mlynedd. Roedd y Cyngor yn credu fod y cydbwysedd rhwng gwledigrwydd, amddifadedd a phoblogaeth yn anghytbwys.Cyfeiriodd at drafodaeth flaenorol yn y Siambr ar yr wybodaeth gan y Comisiynydd Llywodraeth Leol dros Gyllid yn 2016. Roedd y Comisiwn wedi argymell yn ei adroddiad terfynol fod (1) newidiadau i’r fformiwla gyllido a arweinir gan ddemograffeg yn cael ei rewi (a fyddai wedi golygu na fyddai Sir y Fflint wedi bod ar y cyllid gwaelodol eleni); a (2) bod adolygiad llawn o’r fformiwla gyllido yn digwydd yn ôl ei ddyddiad.
Yn ogystal â gosod cyllideb ar gyfer 2019/20, roedd hefyd yn bwysig edrych y tu hwnt i'r flwyddyn honno ac, fel darlun, os oedd y Cyngor i ddefnyddio £1.3m ychwanegol o'i gronfeydd wrth gefn eleni byddai hynny'n arwain at yr hyn sy'n gyfystyr â 4.5% o ran Treth y Cyngor y flwyddyn ganlynol. Byddai angen hynny dim ond i bontio'r bwlch ar gyfer y cyllid a ddefnyddir o’r cronfeydd wrth gefn yn absenoldeb unrhyw ddatrysiad arall o ran cyllid i gymryd ei le. O ran derbyniadau cyfalaf roedd yna nifer ostyngol ar ôl - roedd y Rhaglen Gyfalaf wedi ei sybsideiddio’n drwm ar gyfer pethau lle'r oedd angen brys.O ran y sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd Dolphin, dywedodd nad oedd dim ar ôl i’w gynnig o ran graddfa gwasanaethau oedd wedi ei dderbyn ymhob un o’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu.Pe byddai swyddi yn cael eu diddymu byddai hynny’n arwain at dynnu gwasanaethau yn ôl neu eu cau.Roedd mater pensiwn athrawon yn risg enfawr i'r Cyngor ac os oedd rhaid i'r Cyngor gymryd hanner y cyfrifoldeb cyllid hwnnw gallai ‘suddo’ cyllideb y Cyngor heb i'r cronfeydd wrth gefn a argymhellir fod mewn grym.
Wrth grynhoi eglurodd y Cynghorydd Aaron Shotton fel yr amlinellir yn y Cyfansoddiad ac fel yr eglurwyd gan y Prif Swyddog (Llywodraethu) nad oedd y gyllideb o’r cychwyn yn gyfrifoldeb yr Arweinydd ond y Cyngor ar y cyd, wedi ei seilio ar argymhelliad gan y Cabinet.Nid oedd yn cynnig cynnydd o 8.5% yn Nhreth y Cyngor.Ond roedd y Cabinet wedi cydnabod, yn dilyn cyngor swyddog, mai’r unig opsiwn i gael cyllideb gyfreithlon a chytbwys oedd drwy osod Treth y Cyngor o 8.5% i bontio’r bwlch os nad oedd unrhyw ymyrraeth gan LlC.
Roedd y Cynghorydd Chris Dolphin wedi awgrymu fod toriadau pellach yn cael eu gwneud i wasanaethau, a dywedodd na fyddai’n cynnig unrhyw doriadau pellach i wasanaethau oedd wedi ei seilio ar y cyngor gan swyddogion proffesiynol a phob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu.O ran y llythyr gan y Gweinidog credai ei fod wedi ei ddefnyddio o fewn datganiad i’r wasg gan Aelod Cynulliad oedd yn anffodus gan ei fod yn cam gynrychioli achos Sir y Fflint.Nid oedd y Cyngor erioed wedi gofyn am adolygiad ar unwaith o’r fformiwla gyllido gan ei fod yn cydnabod y byddai’n cymryd amser ac na fyddai’n ymdrin â’r sefyllfa mae’r Cyngor yn ei hwynebu ar hyn o bryd. Yr hyn y gofynnid amdano oedd cydnabyddiaeth o sut nad oedd y fformiwla gyllido yn diwallu anghenion y Cyngor.Rhoddodd sicrwydd ei fod yn gyson wedi codi’r mater yng nghyfarfodydd CLlLC.Croesawodd y gwelliant gan y Cynghorydd Jones ond gofynnodd i Aelodau gadw mewn cof os yw'n gyfreithlon i ddefnyddio derbyniadau cyfalaf yn lle cyllid refeniw byddai'n arwain at fuddsoddiadau na fyddai o bosib yn cychwyn neu na fyddai’n parhau, fel Ysgol Uwchradd Castell Alun, Ysgol Glan Aber a Chartref Gofal Marleyfield.Ar y defnydd o unrhyw gronfeydd wrth gefn pellach, cymrodd y Cabinet gyngor gan swyddfeydd proffesiynol, a nodir yn yr adroddiad a seiliwyd ar risg.
PENDERFYNWYD:
(a) Fod penderfyniad ar y gyllideb yn cael ei ohirio er mwyn i'r Cyngor ymgysylltu gyda Llywodraeth Cymru - drwy ddirprwyaeth drawsbleidiol - ar gyfer gwell Setliad Llywodraeth Leol er mwyn atal cynnydd yn Nhreth y Cyngor yn Sir y Fflint ac ar draws Cymru, drwy gynyddu cyllid cylchol yn benodol ar gyfer ysgolion a gwasanaethau plant;
(b) Fod swyddogion yn edrych ar y posibilrwydd o ddefnyddio cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd na chawsant eu hamddiffyn yn 2018/19 i’w defnyddio yn 2019/20, sy'n gyfanswm o £1.3m;
(c) Fod swyddogion yn edrych ar y posibilrwydd o ddefnyddio derbyniadau cyfalaf i ariannu cost y Ddarpariaeth Isafswm Refeniw i ryddhau cyllid refeniw; ac
(d) Yr ymdrinnir â cheisiadau am wybodaeth bellach mewn sesiwn briffio ar gyfer Aelodau a fyddai'n cael ei threfnu cyn cyfarfod y Cyngor Sir ar 19 Chwefror.