Mater - penderfyniadau
Learning from the School Performance Monitoring Group
08/04/2019 - Learning from the School Performance Monitoring Group
Cyflwynodd y Prif Swyddog adroddiad i ddiweddaru’r Pwyllgor am waith y Gr?p Monitro Perfformiad Ysgolion sy’n fecanwaith ar gyfer cefnogi gwelliant mewn ysgolion.
Mae dull y gr?p hwn yn cynnwys darparu proses adeiladol a chadarn i nodi – gydag ysgolion - unrhyw faes sydd angen cefnogaeth i’w wella. Mae nifer yr ysgolion sy’n rhan o’r broses wedi lleihau’n sylweddol. Mae rhestr o themâu cyffredin wedi amlygu meysydd allweddol y gall gwasanaeth rhanbarthol GwE ymateb iddynt a thargedu cefnogaeth yn briodol; dau ohonynt yw ansawdd arweinyddiaeth ganol ar lefel uwchradd a thracio perfformiad disgyblion.
Bu i’r Cadeirydd longyfarch yr Uwch-Reolwr Gwella Ysgolion am ei phenodiad a chanmol y cynnydd sydd wedi’i wneud.
Mewn ymateb i sylwadau’r Cyng. Heesom ar gyfansoddiad y Gr?p Monitro Perfformiad Ysgol, eglurwyd bod yr aelodaeth wedi bod drwy wahoddiad agored. Croesawir Aelodau sy’n mynegi diddordeb mewn ymuno â'r gr?p, gan gynnwys y Cyng. Heesom sy’n dymuno cynrychioli ei ardal.
Er y cydnabyddir pwysigrwydd gwella ysgolion, dywedodd David Hÿtch y dylid rhoi mwy o bwyslais ar gefnogi yn hytrach na herio, oherwydd y pwysau amrywiol sydd ar ysgolion. Siaradodd y Prif Swyddog am ei chyfrifoldeb statudol dros safonau addysg er lles dysgwyr. Dywedodd fod sawl rheswm pam bod ysgolion yn mynd i drafferthion a bod her a chefnogaeth yn angenrheidiol i ddeall y rhesymau a gweithio’n effeithiol gyda GwE i dargedu cefnogaeth. Mae’r adborth gan ysgolion sy’n mynd drwy’r broses wedi bod yn gadarnhaol ac fe gynhelir cyfarfodydd mewn modd proffesiynol sy’n cynnwys Ymgynghorwyr Gwella Ysgol.
Ar ôl bod yn rhan o’r Gr?p Monitro Perfformiad Ysgol, roedd Rebecca Stark yn teimlo bod y profiad wedi bod yn un cadarnhaol o ran nodi'r gefnogaeth sydd ei hangen.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi gwaith y Gr?p Monitro Perfformiad Ysgol; a
(b) Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r Gr?p Monitro Perfformiad Ysgol wrth iddo barhau i weithio yn yr un modd gyda'r ysgolion sydd wedi’u targedu.