Mater - penderfyniadau

2019/20 Council Fund Budget Update

08/04/2019 - 2019/20 Council Fund Budget Update

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) adroddiad ar sefyllfa gyllido ddiweddaraf y Gwasanaethau Addysg wrth i ni ddynesu at gamau olaf y broses o bennu’r gyllideb ar gyfer 2019/20. Er bod rhywfaint o welliant o gymharu â’r rhagolwg gwreiddiol, mae Setliad Terfynol y Llywodraeth Leol yn dal yn annigonol i fodloni gofynion cyllido'r Cyngor.

 

Eglurodd y Rheolwr Cyllid fod nifer o wasanaethau addysg yn dibynnu ar gyllid grant, sy’n mynd yn llai pob blwyddyn. Mae adolygiad cynhwysfawr o gyllidebau wedi dangos nad oes lle i wneud rhagor o arbedion na’r rheiny sydd wedi’u nodi yn yr adroddiad heb beryglu cadernid gwasanaethau’r Cyngor a safonau ysgolion. Gyda chyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru tuag at gost gweithredu’r dyfarniad cyflog cenedlaethol ar gyfer 2019/20, mae’r Cyngor wedi gwneud darpariaeth i godi’r sylfaen gyllido i gwrdd â chynnydd o 1%, gyda’r ysgolion yn amsugno’r balans sy’n weddill. Rhagwelir pwysau pellach o ran costau i ysgolion ym mis Medi 2019 pan fydd dyfarniad cyflog arall yn ddyledus. Yn ychwanegol, nid oes gwybodaeth ar hyn o bryd o ran a fydd Llywodraeth Cymru yn derbyn cyllid ategol i gefnogi’r cynnydd ym mhensiynau athrawon, a amcangyfrifir i fod yn risg pellach o dros £2 filiwn.

 

Yn ystod proses y gyllideb, mae’r risg o ran yr effaith ar wasanaethau a safonau wedi’i chodi gyda Gweinidogion. Mae ymgysylltu helaeth wedi’i wneud gydag ysgolion a phartneriaid ar gyfrifoldebau a rennir ac mae’r ddeialog agored hon wedi’i chroesawu.

 

Soniodd y Cyng. Shotton am drafodaeth yng nghyfarfod y Cyngor Sir yn ddiweddarach yr wythnos honno lle amlygwyd effaith y pwysau ariannol hwn ar wasanaethau. Er y croesawir y dyfarniadau cyflog uwch i athrawon a staff ysgol, ni chydnabyddir y pwysau hwn yn llawn gan Lywodraeth Cymru na Llywodraeth y DU. I gynorthwyo ysgolion gyda’r pwysau ariannol canol blwyddyn hyn, argymhellir bod y Cyngor Sir yn codi cyllideb ddirprwyedig ysgolion 2.47%. O ran cynyddu pensiynau athrawon, awgrymodd y Cyng. Shotton y dylai Aelodau ystyried cysylltu â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) i dderbyn sicrwydd drwy Drysorlys y DU bod cyllid ar ddod.

 

Croesawodd y Cyng. Heesom y diweddariad hwn yn barod ar gyfer y drafodaeth yng nghyfarfod y Cyngor Sir ar 19 Chwefror. Dywedodd pa mor bwysig yw cyllid i gefnogi darpariaethau chweched dosbarth yn y sir. Dywedodd y Prif Swyddog a’r Rheolwr Cyllid nad oes gwybodaeth wedi’i derbyn gan Lywodraeth Cymru eto o ran cyllid grant ar gyfer addysg ôl-16 yn 2019/20 a dywedodd y bydd gwasanaeth rhanbarthol GwE yn dyrannu’r cyllid Grant Gwella Addysg. Wrth fynd i gyfarfodydd cenedlaethol a rhanbarthol mae swyddogion yn parhau i bwysleisio pwysigrwydd derbyn gwybodaeth ariannol yn amserol er mwyn galluogi’r Cyngor ac ysgolion i gynllunio’n effeithiol.

 

Dywedodd David Hÿtch nad yw’r dyfarniad cyflog cenedlaethol sydd wedi’i osod gan Lywodraeth y DU yn helpu i recriwtio a chadw staff ysgol, sy’n broblem ar draws y DU. Roedd yn croesawu’r cynnydd ond mynegodd bryderon ynghylch gallu ysgolion i amsugno’r costau ychwanegol, yn enwedig oherwydd nifer yr ysgolion uwchradd sydd eisoes mewn sefyllfa o ddiffyg ariannol. Roedd y swyddogion yn derbyn y pwynt hwn, gan ddweud y byddai'n rhaid i'r Cyngor barhau i weithio gydag ysgolion i dargedu'r gefnogaeth yn briodol.

 

Dywedodd y Cyng. Roberts bod difrifoldeb y sefyllfa yn dangos pa mor bwysig yw hi i’r Cyngor gynnal lefelau digonol o gyllid wrth gefn. Siaradodd am y cyfathrebu sy’n digwydd gydag ASau lleol yngl?n â’r angen i'r rheiny sy'n gosod y dyfarniad cyflog cenedlaethol ddarparu’r cyllid angenrheidiol i’w weithredu.

 

Pan ofynnodd y Cyng. Dunbobbin am gyllid grant i gefnogi plant y rheiny sy’n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, eglurwyd ein bod yn dal yn aros am wybodaeth yngl?n â dyraniadau grwpiau penodol (fel y nodir yn yr atodiad i’r adroddiad). Tra bod grantiau ychwanegol ar gael yn ddiweddarach yn y broses, mae hynny yn achosi trafferthion wrth gynllunio.

 

Wrth gyfeirio at bwysau eraill a wynebir gan athrawon, dywedodd y Cyng. Kevin Hughes y byddai defnyddio cronfeydd wrth gefn i gydbwyso’r gyllideb ar gyfer 2019/20 yn gwneud pethau’n anoddach fyth ar gyfer y flwyddyn nesaf. Awgrymodd fod y Pwyllgor yn ysgrifennu llythyr yngl?n â chael ateb ariannol i’r cynnydd cenedlaethol. Cafodd hynny ei gydnabod gan y Prif Swyddog ac eglurodd fod llythyr eisoes wedi’i anfon ac y bydd copi yn cael ei rannu gyda’r Pwyllgor ynghyd â’r ymateb cadarnhaol gan David Hanson AS.

 

Atgoffodd y Cyng. Shotton yr Aelodau fod y cais am gyllid tecach yn rhan o ymgyrch #CefnogiGalw y Cyng.

 

Roedd Rebecca Stark yn pryderu ynghylch effaith gweithredu’r ddeddfwriaeth newydd ar Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r galw cynyddol yn sgil atgyfeiriadau cymhleth am leoliadau y tu allan i'r sir. Dywedodd y Prif Swyddog fod y goblygiadau cost sylweddol yn sgil y newidiadau i’r ddeddfwriaeth wedi’i nodi fel risg allweddol gan nad oes modd asesu’r effaith ariannol ar hyn o bryd; bydd sgyrsiau yn parhau gyda Llywodraeth Cymru o ran yr angen am fuddsoddiad ariannol. Fel risg sylweddol a pharhaus, mae’r gwariant ar leoliadau y tu allan i’r sir yn destun gwaith monitro manwl a herio, ac mae cyfleoedd yn cael eu harchwilio i ymestyn y ddarpariaeth leol. Bydd adroddiadau ar y ddau fater yn cael eu cyflwyno yn ystod cyfarfod Trosolwg a Chraffu ar y cyd ym mis Mehefin.

 

Siaradodd y Cyng. White am yr angen i Lywodraeth Cymru ymyrryd i ddarparu’r cyllid angenrheidiol i alluogi ysgolion wella safonau.

 

Yn dilyn sylwadau’r Cyng. Jones yngl?n â’r geiriad a ddefnyddiwyd yn y trydydd argymhelliad, cynigiodd y dylid ei ddiwygio i adlewyrchu’r drafodaeth yn fwy cywir. Yn ystod y drafodaeth, cytunodd y Pwyllgor ar ddiwygiadau pellach.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Pwyllgor yn nodi’r amcangyfrif diweddaraf o’r gyllideb ar gyfer y Cyngor fel sail ar gyfer gosod cyllideb gytbwys a chyfreithlon ar gyfer 2019/20;

 

 (b)      Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd ariannol a gynigir ar gyfer ysgolion yn 2019/20;

 

 (c)      Bod y Pwyllgor yn nodi y bydd y Cyngor, eleni, yn cyllido 1% o’r dyfarniad cyflog i athrawon, a bod disgwyl i'r ysgolion, yn anffodus, amsugno'r balans sy’n weddill;

 

 (d)      Bod y Pwyllgor yn nodi nad yw’r cyllid arfaethedig ar gyfer 2019/20 yn cynnwys unrhyw lwfans ar gyfer y cynnydd yng nghostau pensiwn athrawon na’r dyfarniad cyflog ym mis Medi 2019; a

 

 (e)      Bod y Pwyllgor yn gwrthod y broses genedlaethol o ddyfarnu cyflogau heb dderbyn cyllid digonol gan y llywodraethau.