Mater - penderfyniadau
External Regulation Assurance
01/07/2019 - External Regulation Assurance
Cyflwynodd Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol yr adroddiad cryno i roi sicrwydd bod adroddiadau gan reoleiddwyr ac arolygwyr allanol yn 2017/18 wedi cael eu hystyried gan y pwyllgorau perthnasol a bod camau gweithredu wedi’u cymryd mewn ymateb i argymhellion. Roedd hyn yn unol â’r protocol adrodd mewnol cytunedig a oedd yn cael ei rannu.
Ar wahân i un adroddiad lleol heb unrhyw argymhelliad, roedd y gweddill yn adroddiadau cenedlaethol yn dangos ymateb y Cyngor ochr yn ochr ag unrhyw argymhelliad generig.
Siaradodd y Prif Weithredwr am arfer gadarnhaol y Cyngor o ddefnyddio adroddiadau cenedlaethol i ychwanegu gwerth. Dywedodd Mr Gwilym Bury fod trefniadau tebyg ar waith yng Ngogledd Cymru er nid o reidrwydd ar draws Gymru.
Cyfeiriodd Sally Ellis at yr adroddiadau ar ddigartrefedd a Grantiau Cyfleusterau I'r Anabl a gofynnodd a oedd cynnydd ar yr argymhellion yn cyflawni canlyniadau ar gyfer preswylwyr Sir y Fflint. Gofynnodd y Prif Weithredwr fod Sally yn derbyn yr adroddiadau diweddar yn dangos perfformiad da yn y ddau faes.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi sut yr ymdriniwyd ag adroddiadau gan archwilwyr allanol, rheoleiddwyr ac archwilwyr eraill yn ystod 2017/18.