Mater - penderfyniadau
Risk Management Update
09/04/2019 - Risk Management Update
Cyflwynodd y Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol y wybodaeth ddiweddaraf yngl?n â’r risgiau strategol yn Chwarter 3 a oedd wedi’u nodi yng Nghynllun y Cyngor ar gyfer 2018/19, ynghyd â gwybodaeth fwy penodol i ddangos sut oedd rheoli risg yn ffitio gyda chylch cynllunio cyllid a busnes y Cyngor.
Rhoddwyd cyflwyniad ar y dull a ddefnyddiwyd ar gyfer y cylch hwnnw, a oedd yn cynnwys tair elfen – cynllunio ariannol, cynllunio busnes mewnol, a dulliau rheoli a’r cyd-destun allanol. O ran yr ail elfen, nodwyd yn 2019 y câi Rhan 1 o Gynllun y Cyngor ei bennu ym mis Mai. Datblygwyd y dull gyda chymorth y Prif Swyddogion, ar gais y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol, ac roedd y Pwyllgor hwnnw wedi’i groesawu. Tynnwyd sylw at fanylion y saith o risgiau coch, ac eraill oedd wedi’u dirwyn i ben yn ystod y flwyddyn.
Gan gyfeirio at risg ST152, roedd y Cynghorydd Peers yn anghytuno â’r categori gwyrdd gan nad oedd y sector preifat yn bodloni’r angen i ddarparu tai fforddiadwy oherwydd ymdrechion gan ddatblygwyr i osgoi eu hymrwymiadau o dan bolisi HSG10. Credai y dylid bwrw golwg o’r newydd ar y risg dan sylw (ar y cyd â swyddogion Cynllunio) yn ogystal â’r risg gynyddol o ran lefelau dyledion mewn perthynas â fforddiadwyedd rhent a Threth y Cyngor.
Ar y pwynt olaf, dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y byddai Cadeiryddion y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu’n cwrdd cyn hir, a byddent yn dyrannu cyfrifoldeb dros fonitro risgiau yn y cyfarfod hwnnw. Soniodd am adroddiad Trosolwg a Chraffu oedd i ddod yngl?n ag ôl-ddyledion rhent a’r newidiadau cenedlaethol arfaethedig a allai gael effaith ar gyfraddau casglu Treth y Cyngor.
Gan amlygu mor bwysig oedd casglu incwm, awgrymodd Sally Ellis y dylid ehangu’r geiriad yngl?n â risg o ran lefelau dyledion er mwyn cynnwys mwy o unigolion a fedrai gael eu heffeithio, er enghraifft yn sgil cynnydd yn Nhreth y Cyngor. Dywedodd y Cynghorydd Johnson nad tenantiaid y Cyngor yn unig a gâi eu heffeithio gan gynnydd yn Nhreth y Cyngor.
Esboniodd y Prif Swyddog fod y geiriad yn adlewyrchu’r ffaith bod y risg yn fwy i bobl yr oedd y Credyd Cynhwysol yn effeithio arnynt. Dywedodd y Swyddog Gweithredol y byddai’n briodol adolygu’r geiriad o dan y thema tlodi wrth ddatblygu Cynllun y Cyngor ar gyfer 2019/20.
Cadarnhaodd y Prif Archwilydd fod y ddau fater wedi’u cynnwys yng Nghynllun Archwilio 2019, yn amodol ar gymeradwyo’r cynllun hwnnw.
PENDERFYNWYD:
Nodi statws y risgiau strategol i flaenoriaethau’r Cyngor yn 2018/19 ar sail y gorolwg cychwynnol.