Mater - penderfyniadau

Armed Forces Covenant Annual Report April 2017 - December 2018

18/03/2019 - Armed Forces Covenant Annual Report April 2017 - December 2018

            Cyflwynodd y Prif Weithredwr Adroddiad Blynyddol Cyfamod y Lluoedd Arfog Ebrill 2017 – Rhagfyr 2018, sef ail adroddiad blynyddol Cyfamod Lluoedd Arfog Sir y Fflint.

 

            Eglurodd y Swyddog Busnes Corfforaethol a Chyfathrebu fod Cyfamod y Lluoedd Arfog wedi ei anelu at gydnabod yr aberth a wnaed gan gymuned y Lluoedd Arfog o fewn y Sir gan helpu i ddarparu cefnogaeth ar eu cyfer a’u teuluoedd i sicrhau nad oeddent yn wynebu anfantais o ganlyniad i wasanaeth milwrol.

 

            Fel Pencampwr Lluoedd Arfog y Cyngor a Chadeirydd y gr?p llywio aml asiantaeth talodd y Cynghorydd Dunbobbin deyrnged i waith pawb fu'n rhan o hyn a chynnig yr adroddiad.

 

            Diolchodd y Cynghorydd Peers i’r Cynghorydd Dunbobbin a'r gr?p llywio am gyflwyno cerrig coffa i gofio am ddau unigolyn o Sir y Fflint a dderbyniodd Groes Fictoria am eu dewrder yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf – Frederick Birks V.C. o Fwcle a Harry Weale V.C. o Shotton.

 

            Awgrymodd y Prif Weithredwr fod adroddiad yn cael ei gyflwyno i gyfarfod y Cyngor Sir yn y dyfodol pan dderbynnir y Wobr Aur, a chefnogwyd hynny. 

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y cynnydd cadarnhaol a wnaed i fodloni Cyfamod y Lluoedd Arfog yn cael ei nodi a bod yr ymrwymiadau ar gyfer gwelliant pellach yn cael eu cefnogi; a

 

 (b)      Bod Adroddiad Blynyddol Cyfamod y Lluoedd Arfog yn cael ei gymeradwyo cyn ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor.