Mater - penderfyniadau

Council Fund Budget 2019/20 – Third and Closing Stage

15/03/2019 - Council Fund Budget 2019/20 – Third and Closing Stage

            Cyflwynodd y Cynghorydd Shotton yr adroddiad ynghylch Cyllideb Cronfa’r Cyngor 2019/20 – y Trydydd Cam a’r Cam Clo. Soniodd am y nifer o weithdai Aelodau a chyfarfodydd Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu a gynhaliwyd ers cyflwyno’r datganiadau cadernid ar gyfer pob portffolio cyn cymeradwyo’r gyllideb yng Ngham 1 ac yna Cam 2.

 

            Roedd y datganiadau cadernid yn amlygu’r risgiau o ran y gallu i gyflawni a pherfformiad gwasanaethau wrth gwtogi ymhellach ar y gyllideb, ac roedd pob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a’r Cabinet wedi’u derbyn.  Roedd pob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a’r Cabinet wedi derbyn hefyd nad oedd unrhyw le i gwtogi mwy ar Gyllid Corfforaethol na Phortffolios Gwasanaethau.

 

            Bu’r Cyngor ar flaen y gad yn yr ymgyrch ledled Cymru i sicrhau gwell Setliad Ariannol i lywodraeth leol, gan bledio’r achos ar y cyd drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a hefyd wedi cynnal ei ymgyrch ei hun yn y wasg ac ar gyfryngau cymdeithasol dan yr hashnod #CefnogiEinCais.

 

Esboniodd y Prif Weithredwr fod ar y Cyngor angen gosod cyllideb gytbwys er mwyn cyflawni ei ddyletswydd gyfreithiol – roedd y Cyngor i gyd yn gyfrifol ar y cyd am hynny. Pwysleisiodd mor bwysig oedd y cyngor y byddai ef a’r Swyddog Adran 151 yn ei roi i’r Aelodau yn rhinwedd eu swyddogaethau fel Swyddogion Statudol.

 

Cyflwynid adroddiad i’r Cyngor Sir ar 29 Ionawr 2019. Cynhelid cyfarfod arall ar 19 Chwefror a gellid cyflwyno adroddiad bryd hynny hefyd, pe byddai angen, heb fynd heibio’r terfyn amser ar gyfer gosod y gyllideb.  

 

Dywedodd eto nad oedd unrhyw le i leihau’r amcangyfrifon o’r costau o ran Cyllid Corfforaethol a Phortffolios Gwasanaethau yn 2019/20 a gytunwyd gan yr Arweinwyr Grwpiau, y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu, y Cabinet a’r Cyngor, a bod yr holl ddewisiadau ar gyfer arbedion o unrhyw faint bellach wedi mynd. Er bod y Setliad i lywodraeth leol a Sir y Fflint yn well na’r hyn a ragwelwyd ar y dechrau, nid oedd yn ddigonol i fodloni’r gofynion ariannol. Hyd oni fyddai Llywodraeth Cymru’n cyfrannu mwy o arian, yr unig ddewisiadau ar gyfer gosod cyllideb gytbwys oedd cynyddu’r incwm o Dreth y Cyngor a defnyddio cronfeydd wrth gefn, ond roedd y rheiny’n mynd yn brin.

 

Y diffyg diweddaraf oedd £3.1 miliwn, ac er mwyn gosod cyllideb gyfreithiol yn unol â’r gyfraith, byddai’n rhaid codi Treth y Cyngor oddeutu 8.5% a defnyddio rhywfaint o’r cronfeydd wrth gefn; y swm a argymhellwyd oedd £0.189 milwn. Gan gynnwys cynyddu Ardoll Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, gallai Treth y Cyngor godi 8.9%.

 

Esboniodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol sut cyfrifwyd y diffyg diweddaraf yn y gyllideb, gan roi manylion yngl?n â grantiau oedd wedi’u cadarnhau ar gyfer 2019/20. Cadarnhaodd mai’r unig ddewisiadau ar gyfer talu’r diffyg oedd defnyddio cronfeydd wrth gefn a chodi Treth y Cyngor, hyd oni cheir unrhyw gyllid pellach gan Lywodraeth Cymru. Pwysleisiodd mai dim ond ychydig o’r cronfeydd wrth gefn y gellid eu defnyddio, gan argymell swm o £0.189 miliwn, a rhoes fanylion yngl?n â’r lefelau darbodus y dylid eu cadw mewn cronfeydd wrth gefn at ddibenion penodol.

 

Lleisiodd y Prif Weithredwr ei farn, a gyflwynwyd hefyd yn yr adroddiad, ynghyd â barn y Swyddog Adran 151.

 

Roedd yr adroddiad yn cyflwyno’r gyllideb derfynol a ragwelwyd, ynghyd â’r dewisiadau prin oedd ar gael i’r Cyngor wrth gyflawni ei ddyletswydd ar y cyd i osod cyllideb gytbwys yn unol â’r gyfraith.  Roedd y cyngor i’w ddefnyddio’n sail ar gyfer penderfyniadau wedi’i gyflwyno’n eglur, ac nid oedd unrhyw gyngor pellach y gellid ei roi i’r Cyngor.

 

Gofynnodd am gefnogaeth yr Aelodau i ddau gais penodol i Lywodraeth Cymru, gan ei fod o’r farn y gallai ddarparu mwy o gyllid ar gyfer gwell safleoedd i ysgolion a lleoliadau Tu Allan i’r Sir.  Pe byddai Llywodraeth Cymru’n darparu mwy o gyllid yn y meysydd hyn gallai’r Cyngor gynnig codi Treth y Cyngor 6.5%, sef y cynnydd yr oedd Llywodraeth Cymru wedi’i ddisgwyl ar gyfartaledd drwy Gymru.  Dymunai Sir y Fflint fedru cynnig codiad o 6.5% neu lai.

 

Roedd gwaith yn mynd rhagddo ac roedd y cyhoedd yn cael yr wybodaeth, ac roedd adran Cwestiynau Cyffredin ar y wefan hefyd. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Shotton ei fod yn ddiolchgar bod y Cyngor wedi cael cyllid ychwanegol yn sgil yr ymgyrch #CefnogiEinCais, ond nad oedd hynny’n ddigon i fodloni gofynion y gwasanaethau heb godiad sylweddol yn Nhreth y Cyngor.  Ni ddymunai drosglwyddo baich y gwasgfeydd i’r trigolion ac roedd yn gyndyn o dderbyn mai dyma’r unig ffordd y gallai’r Cyngor osod cyllideb gytbwys heb lobïo Llywodraeth Cymru ymhellach. Diolchodd i’r Cynghorydd Kevin Hughes am drefnu i garfan o’r Aelodau ymweld â Llywodraeth Cymru ar 5 Chwefror i bledio’r achos dros gyllid ychwanegol, ac roedd hefyd yn croesawu’r gefnogaeth drawsbleidiol i hynny.

 

Pe na fyddai mwy o arian yn dod gan Lywodraeth Cymru, awgrymodd argymhelliad ychwanegol, sef ‘Bod swyddogion yn darparu gwybodaeth am y gwasanaethau anorfodol hynny lle gallai’r Cyngor adolygu ei bolisïau a’i ymrwymiadau ariannol.  Bydd yr wybodaeth yn cynnwys gwerthoedd ariannol (i dalwyr Treth y Cyngor) a’r risgiau sy’n gysylltiedig â newid yr ymrwymiadau presennol mewn unrhyw ffordd’. Cefnogwyd yr awgrym hwnnw.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai’r dewisiadau a gyflwynid yn cynnwys pethau na ellid eu cyflawni erbyn mis Ebrill, a phethau na fedrai ef eu cefnogi o safbwynt proffesiynol oherwydd y risgiau.  Rhoes enghreifftiau o’r ffyrdd y gellid lleihau’r codiad yn Nhreth y Cyngor drwy gwtogi ar wasanaethau, ac ni fyddai’r rheiny’n mynd yn bell iawn o ran gostwng y ganran.  Dywedodd hefyd fod Swyddfa Archwilio Cymru wedi cadarnhau bod Sir y Fflint yn awdurdod oedd wedi’i reoli’n dda yn ariannol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Attridge fod y Cyngor yn wynebu’r sefyllfa hon oherwydd penderfyniad gwleidyddol Llywodraeth Cymru i bleidleisio dros cyllideb nad oedd yn cefnogi llywodraeth leol. Roedd Sir y Fflint wedi pledio’r achos yn bendant drwy’r ymgyrch #CefnogiEinCais ac wedi amlygu’r ffaith mai swm isel o gyllid a ddarparwyd i Gyngor Sir y Fflint. Pe na fyddai’r Cyngor yn gosod cyllideb gytbwys yn unol â’r gyfraith erbyn y terfyn amser, gallai Llywodraeth Cymru benodi Comisiynwyr a fyddai’n ddidrugaredd wrth eu gwaith, a gallai pethau ddigwydd yn y sir fel cartrefi gofal yn cau, sef y gwasanaethau hynny’r oedd y Cyngor yn ceisio’u gwarchod. Roedd o blaid dal ati i lobïo Llywodraeth Cymru, a gofynnodd a fyddai unrhyw gynghorau eraill yn ymuno â Sir y Fflint ar 5 Chwefror. Dywedodd y Cynghorydd Shotton y byddai’n siarad ag arweinwr y cynghorau eraill yng nghyfarfodydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn ddiweddarach yn yr wythnos, ac y byddai’n rhoi gwybod iddynt am gynlluniau Sir y Fflint ar gyfer 5 Chwefror.

 

Dywedodd y Cynghorydd Roberts mor ddifrifol oedd y sefyllfa i’r Cyngor. Serch hynny, soniodd hefyd am y gwaith rhagorol yr oedd y Cyngor wedi’i wneud mewn blynyddoedd diweddar, gan gynnwys datblygu tai cyngor. Roedd yn siomedig â Llywodraeth Cymru am ddal i fethu â rhoi cefnogaeth ddigonol i lywodraeth leol. Roedd ef a holl aelodau’r Cabinet yn falch o’r cyfle i lobïo Llywodraeth Cymru ar 5 Chwefror.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Cabinet yn nodi’r amcangyfrif diweddaraf o’r gyllideb a’i ddefnyddio yn sail ar gyfer gosod cyllideb gytbwys a chyfreithlon ar gyfer 2019/20;

 

 (b)      Bod y Cabinet yn hysbysu’r Cyngor y byddai’n rhaid codi Treth y Cyngor oddeutu 8.5% er mwyn bodloni’r gofynion gwariant ar gyfer 2019/20 (heb gynnwys cynyddu Ardoll Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru) pe na fyddai Llywodraeth Cymru’n gwella’r Setliad i Lywodraeth Leol;

 

 (c)       Bod y Cabinet yn gwahodd y Cyngor i feithrin cyswllt â Llywodraeth Cymru – drwy gynrychiolaeth drawsbleidiol – gan ofyn am well Setliad i Lyowdraeth Leol fel na fyddai’n rhaid codi Treth y Cyngor gymaint yn Sir y Fflint a ledled Cymru, yn benodol drwy gynyddu’r cyllid cylchol ar gyfer ysgolion a gwasanaethau plant; a

 

 (ch)    Bod swyddogion yn darparu gwybodaeth am y gwasanaethau anorfodol hynny lle gallai’r Cyngor adolygu ei bolisïau a’i ymrwymiadau ariannol. Bydd yr wybodaeth yn cynnwys gwerthoedd ariannol (i dalwyr Treth y Cyngor) a’r risgiau sy’n gysylltiedig â newid yr ymrwymiadau presennol mewn unrhyw ffordd.