Mater - penderfyniadau
Council Fund Budget 2019/20 - Updated Forecast and Process for Stage 3 of Budget Setting
20/02/2019 - Council Fund Budget 2019/20 - Updated Forecast and Process for Stage 3 of Budget Setting
Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr eitem ar lafar a darparodd gopïau o sleidiau'r cyflwyniad a oedd wedi'i roi yng nghyfarfod y Cyngor Sir yr wythnos gynt.
Ni dderbyniwyd unrhyw wybodaeth arall ers y manylion a ddarparwyd yng nghyfarfod y Cyngor gan y disgwylid y Setliad Terfynol y diwrnod canlynol. Fodd bynnag, roedd rhywfaint o wybodaeth wedi’i derbyn am y sefyllfa o ran rhai grantiau llai.
Byddai papur briffio ar gael erbyn diwedd yr wythnos ac adroddiad i’r Cabinet ar 22 Ionawr ac yna i’r Cyngor Sir ar 29 Ionawr lle byddai cyllideb yn cael ei hargymell i gael ei chymeradwyo. Byddai gwybodaeth hefyd ar gael ynghylch cronfeydd wrth gefn a balansau, a benthyca drwy'r Cyfrif Benthyciadau a Buddsoddi Corfforaethol.
Bu trafodaeth yngl?n â’r gyllideb yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yr wythnos gynt, a gofynnwyd i'r Aelodau a oeddent yn dymuno comisiynu'r Cabinet i wneud rhywfaint mwy o waith cyn mis Ionawr. Bu iddynt ofyn am wybodaeth yngl?n â Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir a Strydwedd fel dau faes o orwariant parhaus flwyddyn ar ôl blwyddyn; byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor fis Ionawr. Dywedodd y Prif Weithredwr ei fod wedi ymateb i'r sylwadau i geisio egluro ei bod yn afresymol gofyn am unrhyw waith manwl ar unrhyw ddewisiadau newydd mor hwyr yn y broses o osod y gyllideb. Derbyniodd aelodau’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol na ellid gwneud dim mwy i ddod o hyd i arbedion effeithlonrwydd eraill oni bai fod arbedion sylweddol i’w cael yn y ddau faes hynny, a chytunodd Aelodau’r Cabinet â hynny. Yr unig ddewisiadau a oedd ar gael i lunio cyllideb gytbwys – ar wahân i well Setliad gan Lywodraeth Cymru – oedd cynyddu Treth y Cyngor, a chyfyngu ar ddefnyddio cronfeydd wrth gefn a balansau.
Roedd y gyllideb ar gyfer Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi’i chymeradwyo y diwrnod cynt, a oedd wedi arwain at gynnydd i'r ardoll o 5.14%.
Eglurodd y Cynghorydd Shotton fod llythyrau wedi cael eu hanfon i Ysgrifenyddion y Cabinet yn Llywodraeth Cymru gan Gadeiryddion Pwyllgorau Craffu Sir y Fflint a diolchodd iddynt am hynny.
Mewn perthynas â sylw ar fenthyca i awdurdodau lleol eraill gan y Cynghorydd Attridge, eglurodd y Prif Weithredwr fod hyn yn digwydd a'i fod yn creu llog ychwanegol ar gyfer y Cyngor. Byddai manylion hyn a meysydd eraill o ddiddordeb yn cael eu rhoi ar wefan y Cyngor ar yr adran oedd â gwybodaeth am y gyllideb.
Mynegodd y Cynghorydd Bithell ei bryder yngl?n ag effaith ehangach cynnydd yn Nhreth y Cyngor oherwydd y Setliadau annerbyniol i gyllidebau awdurdodau lleol.
O ran Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir, eglurodd y Cynghorydd Jones fod gan Sir y Fflint rai lleoliadau drud, fel roedd gan awdurdodau lleol eraill, ac roedd ffyrdd eraill o weithio yn y dyfodol yn cael eu hystyried ar hyn o bryd. Ni fyddai’r gwaith hwn yn effeithio ar y gyllideb a oedd dan sylw.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Thomas ar y sylwadau a wnaed yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yngl?n â chyllideb Strydwedd a Chludiant, dywedodd y Prif Weithredwr ei fod wedi egluro i’r Aelodau yn y cyfarfod bod hon yn gyllideb gymhleth na fyddai, o bosib', yn ddigonol ar gyfer y gwasanaethau pe bai'n cael ei gweithredu i'r safonau sydd wedi'u gosod gan y Cyngor fel polisi. Roedd y Portffolio wedi llwyddo i gyflawni llawer o arbedion effeithlonrwydd dros gyfres o gyllidebau.
PENDERFYNWYD:
Derbyn y diweddariad ar lafar.