Mater - penderfyniadau

Update on the Integrated Care Fund; its application, governance and impact

13/03/2019 - Integrated Care Fund

                        Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) adroddiad i ddiweddaru’r Pwyllgor ar ddefnydd y Gronfa Gofal Integredig; y ffordd y rheolir ei defnydd ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol a’r gwahaniaeth y mae’r cyllid yn ei wneud i breswylwyr Sir y Fflint. Rhoddodd ychydig o wybodaeth gefndir a chyd-destun, a chyfeiriodd at y prif ystyriaethau wrth ddyrannu'r cyllid, y rhaglen refeniw a’r rhaglen gyfalaf.Yna, gwahoddodd yr Uwch Gydlynydd Clwstwr a’r Arweinydd Partneriaeth i gyflwyno’r adroddiad.

 

                        Soniodd y Cadeirydd am effaith y cyllid a’r gwasanaethau a ddarperir drwy’r Gronfa Gyllid Integredig sy’n arbed arian i’r gwasanaeth iechyd.

 

                        Mewn ymateb i ymholiad y Cyng. Hilary McGuill yngl?n â’r gwasanaeth dychwelyd ac atal, eglurodd yr Uwch-Reolwr – Plant a’r Gweithlu fod hwn yn bartneriaeth rhwng CAMHS, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Cyngor Sir y Fflint a Gweithredu dros Blant, sy’n darparu gwasanaethau cymorth therapiwtig pan fo risg o leoliad yn methu. Yn ystod y drafodaeth ymatebodd yr Uwch-Reolwr – Plant a’r Gweithlu i gwestiynau a sylwadau pellach gan y Cyng. McGuill yngl?n â Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl ac eglurodd sut mae’r gwasanaeth yn hwyluso’r angen i ariannu addasiadau angenrheidiol i eiddo preswyl preifat ac yn diogelu arian cyhoeddus.

 

                        Awgrymodd y Cyng. Andy Dunbobbin y dylid ystyried gwneud cais am gyllid gan Gyfamod y Lluoedd Arfog i gefnogi cyn-filwyr a’u teuluoedd.

           

            PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Pwyllgor yn cefnogi Rhaglen y Gronfa Gofal Integredig; a

 

 (b)      Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r fenter i ddefnyddio ffynonellau ariannu tymor byr i    ddarparu yn erbyn blaenoriaethau strategol a gweithredol y Cyngor a phartneriaid   allweddol.