Mater - penderfyniadau
Tender for Collection and Sale of Household Goods Through Social Enterprise
20/02/2019 - Tender for Collection and Sale of Household Goods Through Social Enterprise
Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad ac eglurodd bod Rheoliadau Ariannol yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor dendro’r gwaith i sicrhau y gwerth gorau, hyd yn oed pe bai'r darparwr a ddewisid ar ddiwedd y broses dendro'n sefydliad elusennol neu drydydd sector.
Dywedodd gweithwyr mewn canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref bod eitemau y gellid eu hadfer a'u hailddefnyddio’n cael eu taflu. Cynigiwyd felly y dylai cwmni llwyddiannus y broses dendro weithio'n agosach gydag elusennau lleol unigol ym mhob canolfan ailgylchu i annog ailddefnyddio a darparu budd ar y cyd i sefydliadau elusennol.
Cynnig ydoedd i elusennau penodol fod ynghlwm â’r canolfannau ailgylchu penodol a nodir isod, a byddai pob safle'n cael ei frandio i gyd-fynd â'r elusen a oedd yn cael ei chefnogi ar y safle:
· Maes-glas;
· Rockcliffe, Oakenholt;
· Yr Wyddgrug;
· Bwcle; a
· Sandycroft.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo un tendr cystadleuol i hysbysebu’r gwasanaeth casglu gwastraff swmpus a’r gwasanaeth dadadeiladu. Dylid neilltuo'r broses gaffael ar gyfer yr holl fentrau cymdeithasol addas a’r rhai â’r gallu, i sicrhau gwerth cymdeithasol yn ogystal â gwerth am arian.