Mater - penderfyniadau

Internal Audit Annual Report

07/08/2019 - Internal Audit Annual Report

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol yr adroddiad, a oedd yn rhoi crynodeb o’r canlyniadau yn sgil gwaith archwilio a wnaed yn ystod 2018/19, cydymffurfiaeth â’r Safonau a chanlyniadau’r rhaglen sicrhau ansawdd a gwella.  Barn archwilio gyffredinol y Rheolwr Archwilio Mewnol oedd bod gan y Cyngor fframwaith digonol ac effeithiol ar gyfer llywodraethu, rheoli risg a rheolaeth.

 

Roedd y farn honno’n seiliedig ar ystyried y ddau adroddiad sicrwydd ‘coch’ a’r 75% o farnau sicrwydd gwyrdd neu felyn/gwyrdd a gyflwynwyd yn ystod y flwyddyn; roeddent oll yn well na’r llynedd.  Roedd uwch-reolwyr wedi cyfrannu mwy at lunio cynlluniau gweithredu a chyflawnwyd 73% o’r camau gweithredu yn ystod y flwyddyn. Ni chyflawnwyd y gweddill yn bennaf oherwydd ymestyn terfynau amser.  O ran adran 2.9, byddai’r tîm yn canolbwyntio ar ddadansoddi’r themâu a ddeuai i’r amlwg yn sgil ymchwiliadau.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod y farn yn rhoi sicrwydd pendant yngl?n â’r amgylchedd rheoli. Soniodd am yr uwchgyfeirio helaeth oedd yn digwydd gydag adroddiadau sicrwydd ‘coch’ er mwyn sicrhau bod rheolwyr yn cyflawni’r camau gweithredu. Cydnabu werth ac ansawdd y tîm Archwilio Mewnol, yn enwedig felly o ran y gwaith ymgynghorol a oedd wedi cynyddu gyda threigl amser.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghoryd Johnson yngl?n ag effaith lleihau’r gweithlu ar risgiau, tynnwyd sylw’r aelodau at y cynnydd mewn gwaith ymgynghorol a dadansoddi categorïau gweithredu, a oedd a wnelont yn bennaf â pholisïau a materion gweithredol.

 

Tynnodd y Cynghorydd Carver sylw at wall yn rhifau’r tudalennau yn y Mynegai.

 

O ran cwmpas y gwaith archwilio, holodd Sally Ellis a oedd yr archwilio’n ddigonol yn y Gwasanaethau Cymdeithasol, o gymharu â phortffolios eraill. Dywedodd y Rheolwr Archwilio Mewnol ei bod yn fodlon ar lefel yr archwilio, wedi iddi ymgynghori â’r Prif Swyddog, a bod pedwar o archwiliadau wedi’u cwblhau a mwy ohonynt ar y gweill.

 

Cydnabu’r Prif Weithredwr y pryderon, a gan ystyried maint y portffolio a swm y gwaith comisiynu, cytunodd i drafod hyn ymhellach â swyddogion a darparu ymateb ar sail hynny.

 

Mewn ymateb i gwestiwn yngl?n ag adnoddau’r tîm, cyfeiriodd y Rheolwr Archwilio Mewnol at Holiadur Gwerthuso Swydd a luniwyd i gynorthwyo â chynllunio ar gyfer olyniaeth wrth benodi i swyddi gwag.  Byddai’r drefn recriwtio’n cynnwys swydd wag ychwanegol gan y byddai aelod arall o staff yn ymddeol cyn hir.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Dunbobbin yngl?n â gwaith archwilio yn y Gwasanaethau Cymdeithasol, dywedodd y Rheolwr Archwilio Mewnol y bernid yn gytbwys yngl?n â gwerth y gwaith archwilio a wnaed o gymharu ag adroddiadau cyrff rheoleiddio allanol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad a’r farn flynyddol Archwilio Mewnol.