Mater - penderfyniadau
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
07/08/2019 - Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol gyfredol er ystyriaeth, ac i roi cyfle hefyd i adnabod anghenion hyfforddiant. Ar ben hynny, byddai’r Pwyllgor yn cael sesiynau gwybodaeth cyn cyfarfodydd am ddarnau allweddol o waith megis hyfforddiant ar y Datganiad Cyfrifon (câi’r cyfrifon drafft eu hystyried yn y cyfarfod nesaf).
Dywedodd Sally Ellis y cyflwynid Datganiad Cyfrifon Cronfa Bensiynau Clwyd gyda chyfrifon y Cyngor yn y cyfarfod fis Gorffennaf.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Johnson, cadarnhawyd y byddai’r eitem yngl?n â Rheoli Contractau i’w thrafod fis Medi yn cynnwys rheoli perfformiad contractwyr, gan adlewyrchu’r drafodaeth gynharach yngl?n â’r adroddiad archwilio coch.
PENDERFYNWYD:
(a) Derbyn y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, fel y'i diwygiwyd; ac
(b) Awdurdodi Rheolwr yr adran Archwilio Mewnol, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Waith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.