Mater - penderfyniadau
Webcasting Provision
30/04/2019 - Webcasting Provision
Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad a darparu cefndir i'r Pwyllgor ar gyllid ar gyfer darpariaeth gweddarlledu, gyda cyfarfodydd y Pwyllgor Cynllunio a'r Cyngor Llawn yn cael eu nodi ar gyfer gweddarlledu.
Cyfeiriwyd y pwyllgor at dudalen 15 a oedd yn amlinellu’r ffigyrau gwylio. Roedd yr aelodau’n gallu rhoi cyswllt ar eu blogiau i weddarllediadau y Cyngor Sir neu ‘r Pwyllgor Cynllunio. Yna aeth y Swyddog ymlaen i egluro’r trefniadau cyllid.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Clive Carver at y ffigyrau gwylio a oedd yn galonogol ac at y datganiad ar dudalen 4 gan Swyddfa Archwilio Cymru yn nodi bod gweddarlledu wedi gwella mynediad at fusnes y Cyngor. Roedd archifo’r gweddarllediadau am gyfnod amhenodol yn ddefnyddiol iawn ond gofynnwyd am eglurhad ar y 60 awr o gynnwys wedi'i gynnal. Cefnogodd hyn fel modd o “fuddsoddi i arbed” yn y dyfodol ac awgrymu bod y cyngor yn cytuno i 5 mlynedd. Mewn ymateb eglurodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd bod y 60 awr o gynnwys wedi’i gynnal yn cyfeirio at ddarllediadau o fewn blwyddyn ac nid oeddent yn cyfeirio at gynnal yr archif.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Carver at y cynnig bod cyfarfod cyllideb y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yn cael ei weddarlledu, a gobeithir y byddai hyn yn digwydd. Cadarnhaodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd y byddai'r cyfarfod yn cael ei gynnal yn Siambr y Cyngor. Awgrymodd y Cynghorydd Mike Peers y dylai cyfarfodydd cyllideb pwyllgorau Trosolwg a Chraffu eraill gael eu darlledu hefyd, gan ei fod yn sicr y byddai diddordeb gan y cyhoedd yn hyn. Roedd yn credu pe na bai cyllid Llywodraeth Cymru yn parhau gallai hyn roi pwysau ar y gyllideb a cheisiodd sicrwydd o ran sut byddai’r pwysau’n cael ei ariannu a gofyn a ddylai'r penderfyniad gael ei wneud gan y Cyngor Sir.
Nododd y Cynghorydd Heesom bod peidio â chael cofnod ysgrifenedig gyda Chynllunio yn anodd pan fo ceisiadau’n mynd i apêl. Roedd yn ei gefnogi ond ychwanegodd na ellir hepgor cofnod ysgrifenedig. Mewn ymateb nododd y Prif Swyddog bod ansawdd y cofnodwyr yn rhagorol ond roedd recordio yn well mewn sawl achos gan ei fod yn rhoi mwy o wybodaeth gan na ellir nodi popeth o’r cyfarfod yn y cofnodion.
Gofynnodd y Cynghorydd Glyn Banks a oedd Llywodraeth Cymru yn nodi bod hwn yn wasanaeth gorfodol ac os mai dyma’r achos a fyddai cyllid yn cael ei ddarparu ar gyfer hyn. Cadarnhawyd bod Sir y Fflint yn cydweithio gyda’n pum cymydog i gael yr un gwasanaeth gan yr un darparwr.
Holodd y Cynghorydd Banks a ellir tynnu mwy o sylw at weddarlledu ar y wefan i gynorthwyo’r cyhoedd i’w ganfod ac roedd yn teimlo y byddai'n well cyflawni cytundeb 5 mlynedd. Cadarnhaodd y Prif Swyddog bod y ddolen ar y dudalen flaen o dan Cyngor a Democratiaeth ond y gellir ystyried hyn fel rhan o'r gwaith o fewn y strategaeth ddigidol.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn cefnogi parhad y ddarpariaeth gweddarlledu, gyda hyd contract o 5 mlynedd.