Mater - penderfyniadau

School Modernisation

26/04/2019 - School Modernisation

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) yr adroddiad i ddiweddaru’r Pwyllgor ar y cynnydd a wnaethpwyd gyda’r Rhaglen Moderneiddio Ysgolion, a ffrydiau ariannol Grant Cyfalaf ychwanegol sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru.

 

Adroddodd y Prif Swyddog ar y prif ystyriaethau, fel y manylwyd yn yr adroddiad. Cyfeiriodd at y Rhaglen y 21ain Ganrif (Band A) a dywedodd bod prosiectau yng Nghampws Dysgu Treffynnon a Choleg 6ed Ddosbarth Glannau Dyfrdwy wedi’u cwblhau ar amser ac o fewn y gyllideb. Roedd y prosiectau sydd ar ôl yn Ysgol Uwchradd Cei Connah ac Ysgol Gynradd Penyffordd a fyddai’n dod â rhaglen Band A i ddiwedd. Yn ogystal, soniodd y Prif Swyddog ar adolygiad ardal Brynffordd a Licswm, ac ymgynghoriad ar ffederasiwn rhwng Ysgol Wirfoddol A Gynorthwyir Nercwys ac Ysgol Wirfoddol A Reolir Nannerch. 

 

Gan gyfeirio at Raglen Addysg ac Ysgolion yr 21ain ganrif (Band B) dywedodd bod Gweinidogion Cymru wedi cadarnhau y bydd hwn yn cael ei ariannu gan gyllidebau cyfalaf a refeniw. Dywedodd y Prif Swyddog bod awdurdodau lleol wedi cael newyddion cadarnhaol yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru ynghylch cyfraddau ymyrraeth gwell gan Lywodraeth Cymru ar gyfer rhaglen buddsoddi, fodd bynnag byddai bodloni’r costau cyfraniadau’r Cyngor dal yn heriol. Soniodd y Prif Swyddog hefyd ar ddatblygiadau sydd yn ymwneud â’r prosiect cyfalaf ar gyfer Portffolio Uned Cyfeirio Disgyblion ac ar gyfer Ysgol Gynradd Queensferry, grant Llywodraeth Cymru ar Faint Dosbarth Babanod, Rhaglen a Ariennir gan y Cyngor, Grant Cymraeg Llywodraeth Cymru, a Grant Gofal Plant Llywodraeth Cymru.

 

Mewn ymateb i'r sylwadau a wnaethpwyd gan y Cynghorydd Patrick Heesom ar y dyluniad o’r adeiladau ysgol newydd, dywedodd y Prif Swyddog bod proses ymgynghori manwl yn cael ei gyflawni gyda holl rhanddeiliaid allweddol cyn y cymeradwyir dyluniad adeilad ysgol newydd. Hefyd dywedodd bod safonau gwyddonol a thechnegol a oedd yn gorfod cael eu bodloni gan brosiectau adeiladu newydd. Mewn ymateb i’r sylwadau pellach a wnaethpwyd gan y Cynghorydd Heesom, soniodd y Prif Swyddog ar gynnydd y Cynllun Moderneiddio Ysgolion ac eglurodd bod hwn yn cael ei adolygu'n rheolaidd i fynd i'r afael â'r ddarpariaeth o fewn y Sir.  Cynigiodd y Prif Swyddog i gyfarfod â’r Cynghorydd Heesom i drafod yn fanwl unrhyw faterion penodol yr oedd ganddo ynghylch darpariaeth yn ei Ward.   

 

            Ymholodd y Cynghorydd Dave Mackie am ddyddiad y cyfarfod Cabinet yn adran 1.18 o’r adroddiad. Dywedodd y Prif Swyddog bod y dyddiad hwn yn anghywir a byddai’n dosbarthu copi o adroddiad y Cabinet a oedd yn nodi'r penderfyniad i waith gael ei gyflawni ar yr un pryd gan yr un contractwr/ tîm ar gyfer y prosiect gwella cyfalaf yn Ysgol Uwchradd Cei Connah. Yn ystod y drafodaeth, ymatebodd y swyddogion i’r cwestiynau pellach a godwyd gan y Cynghorydd Mackie ynghylch cyllid cyfalaf a’r Model Buddsoddi Cydfuddiannol a oedd yn fath o Gynllun Ariannu Preifat ac astudiaeth manwl, a gyflawnwyd gan y Swyddfa Archwilio Genedlaethol y Deyrnas Unedig a ddaeth i gasgliad bod y model menter cyllid preifat wedi profi i fod yn fwy drud ac llai effeithlon wrth ddarparu ysbytai, ysgolion a seilwaith cyhoeddus eraill na chyllid cyhoeddus.  Nododd y Cynghorydd Mackie bod ond 10% o wahaniaeth o ran cost i'r Awdurdod o gyllid cyfalaf yn erbyn Model Buddsoddi Cydfuddiannol, ac anogodd na ddylid ystyried y Model hwn.  

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Ian Smith ynghylch benthyciadau a chyfraddau llog y sector breifat, gofynnodd y Prif Swyddog i Gynghorydd Smith i anfon y cwestiwn penodol ar ôl y cyfarfod fel y gallai ddarparu ymateb i’r Pwyllgor.

 

Mewn ymateb i awgrym a wnaethpwyd gan y Cynghorydd Tudor Jones, cytunodd y Pwyllgor i drefnu gweithdy gyda'r holl Aelodau i drafod gwybodaeth ar arolygon cyflwr ar gyfer gwaith atgyweirio a chynnal a chadw i bob ysgol benodol ar draws Sir y Fflint.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)     Nodi cynnydd y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion; ac

 

 (b)     I drefnu gweithdy gyda'r holl Aelodau i drafod gwybodaeth manwl ar          arolygon cyflwr ar gyfer gwaith atgyweirio a chynnal a chadw pob ysgol penodol ar draws Sir y Fflint.