Mater - penderfyniadau

Asset Disposal and Capital Receipts Generated 2017/18

18/03/2019 - Asset Disposal and Capital Receipts Generated 2017/18

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) yr adroddiad blynyddol a oedd yn crynhoi gwarediadau tir a derbyniadau cyfalaf a wireddwyd yn ystod 2017/18.  Roedd derbyniadau cyfalaf yn cael eu halinio i gyfrannu tuag at raglen y Cyngor o gynlluniau cyfalaf, sy’n cynnwys rhai ar raddfa fawr ac ar raddfa fechan ar draws pob portffolio. Fe’u hatgoffwyd o’r goblygiadau o ran refeniw o wariant cyfalaf, ynghyd â’r gostyngiad mewn cymorth gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwariant cyfalaf, fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Peers am ddadansoddiad o’r costau o ran y rhestr o warediadau asedau, gan nad ymddengys ei fod yn cynnwys safle penodol. Eglurodd y Prif Swyddog nad oedd y gwarediad dan sylw wedi’i dderbyn yn llawn gan ei fod yn seiliedig ar ei gyflawni fesul cam, a bod y wybodaeth wedi’i chrynhoi am resymau sensitifrwydd masnachol. Ceisiodd y Cynghorydd Peers wybodaeth am werth llawn yr eitem honno ac i ba raddau y byddai’r Cyngor yn manteisio ar yr ymagwedd fesul cam. Dywedodd y Pwyllgor Gwaith y byddai papur briffio preifat yn cael ei rannu gyda’r Pwyllgor.

 

Roedd Sally Ellis yn cofio’r drafodaeth am yr adroddiad yn 2017 o ran yr angen i adolygu’r meini prawf yn rheolaidd ar gyfer nodi derbyniadau cyfalaf posibl, yn enwedig o ystyried pwysigrwydd gwneud y gorau o gymorth ar gyfer cynlluniau cyfalaf. Dywedodd y Prif Swyddog bod canfyddiadau adolygiadau yr ymgymerwyd â hwy ar draws portffolios yn cael eu hystyried ar hyn o bryd er mwyn asesu addasrwydd safleoedd ar gyfer gwaredu neu fuddsoddi, yn dibynnu ar rymoedd y farchnad yn yr ardaloedd hynny. Roedd hyn yn cynnwys adolygiadau o ystadau diwydiannol tra bo ystadau amaethyddol yn destun adolygiad parhaus.

 

Yn dilyn y wybodaeth a rannwyd, cytunwyd nad oedd angen mwyach am yr adroddiad diweddaru ar y meini prawf, oedd i fod i gael ei gyflwyno ym mis Ionawr. 

 

 

Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai’r derbyniadau cyfalaf rhagamcanol sy’n cefnogir Rhaglen Gyfalaf yn ffurfio rhan o ddiweddaru’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig yn fuan yn y Flwyddyn Newydd.

 

Dywedodd y Prif Swyddog y byddai hyn yn cael ei adlewyrchu hefyd yn y Strategaeth Gyfalaf a oedd i fod i gael ei diweddaru.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad.