Mater - penderfyniadau

Local Toilets Strategy

21/03/2019 - Local Toilets Strategy

                        Rhoddodd Rheolwr y Strategaeth Priffyrdd wybodaeth gefndir ac, er mwyn cynhyrchu Strategaeth Toiledau Leol, dywedodd y byddai angen cynnal proses ymgynghori â'r holl randdeiliaid perthnasol er mwyn helpu i ddeall y galw a'r angen lleol am y gwasanaeth. Byddai hynny wedyn yn cael ei ddefnyddio'n sail ar gyfer Strategaeth y Cyngor yn y dyfodol. 

 

            Adroddodd Rheolwr y Rhwydwaith Priffyrdd ar y prif ystyriaethau, fel y'u nodwyd yn yr adroddiad. Esboniodd fod angen i'r ymgynghoriad gadarnhau lleoliad safleoedd presennol, y mynediad atynt, y cyfleusterau a ddarperir, mynychder y defnydd ohonynt a'u hansawdd, ond bod angen iddo hefyd bennu a fyddai cael mwy neu lai o safleoedd yn taro cydbwysedd rhwng y galw a'r angen a sefyllfa lle'r oedd cyllidebau'n gostwng.  Byddai angen i'r Strategaeth a'r cynigion terfynol fod yn gynaliadwy heb gynyddu'r pwysau ariannol ar y Cyngor i raddau sylweddol.  Byddai canlyniad yr ymgynghoriad, ynghyd â'r Strategaeth Toiledau Cyhoeddus a argymhellir yn cael eu cyflwyno i'r Cabinet i'w cymeradwyo ym mis Ebrill 2019 ac i Trosolwg a Chraffu am eu sylwadau ymlaen llaw er mwyn galluogi'r Cyngor i sefydlu'r Strategaeth erbyn mis Mai 2019.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Joe Johnson ynghylch nifer y toiledau cyhoeddus yn Sir y Fflint, esboniodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) fod 4 ohonynt ac, yn dilyn penderfyniad blaenorol, roedd y cyhoedd hefyd yn gallu defnyddio'r cyfleusterau toiled sydd ar gael mewn adeiladau Cyngor yn hytrach nag mewn safleoedd penodol, a chyfeiriodd at lyfrgelloedd a chanolfannau hamdden fel enghreifftiau.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Chris Dolphin at y penderfyniad i gau'r cyfleusterau cyhoeddus yn Nhreffynnon, a gofynnodd a fyddai'r adeilad yn cael ei ddymchwel neu ei werthu, gan ei fod wedi bod ar gau ers tro.  Pan fyddai cyfleusterau cyhoeddus yn cael eu cau ar safle penodol, eglurodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) fod yr adeilad wedi'i gynnwys yn rhan o asedau'r Sir.  Cytunodd i wneud ymholiadau â'r tîm asedau ynghylch hyn, ac adrodd yn ôl wrth y Cynghorydd Dolphin.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Sean Bibby a gynhaliwyd trafodaethau â busnesau lleol ynghylch caniatáu i'r cyhoedd ddefnyddio'r cyfleusterau toiled yn eu hadeiladau, gan gyfeirio at dafarndai a chaffis lleol fel enghreifftiau.  Eglurodd y Prif Swyddog fod yr opsiwn hwn wedi cael ei gyflwyno yn rhai ardaloedd yng Nghymru, ond roedd yr adborth a gafwyd yn awgrymu nad oedd y cyfleusterau hyn bob amser yn addas i'r henoed neu i blant ifanc. 

 

            Dywedodd y Cynghorydd Paul Shotton fod angen i fusnesau lleol gymryd rhan yn llawnach yn y fenter er mwyn cynyddu'r niferoedd sy'n ymweld â chanol trefi lleol.  Awgrymodd y Cynghorydd Carolyn Thomas y dylai'r Aelodau gysylltu â'r busnesau lleol yn eu Wardiau i annog diddordeb yn y cynllun. Cytunodd y Prif Swyddog Strydwedd a Chludiant i ymholi ynghylch statws cyfredol y cynllun a rhannu hynny â'r aelodau.

 

            Pwysleisiodd y Cynghorydd David Evans pa mor bwysig yw cael cyfleusterau toiled ar Lwybr Arfordir Cymru ac ar lwybrau beicio. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi'r ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol sydd ei angen er mwyn cyflawni Strategaeth Toiledau Leol y Cyngor; a

 

(b)       Y dylid cyflwyno adroddiad ar ddiwedd y broses ymgynghori er mwyn rhoi adborth ar y sylwadau a gafwyd ynghyd â drafft o'r Strategaeth Toiledau Leol er mwyn i'r Pwyllgor gael craffu arno ymhellach.