Mater - penderfyniadau

Planning Enforcement Policy

20/02/2019 - Planning Enforcement Policy

            Cyflwynodd y Cynghorydd Bithell adroddiad y Polisi Gorfodi Cynllunio a oedd yn nodi sut roedd y Cyngor yn bwriadu darparu'r gwasanaeth.  Roedd y polisi’n rhoi eglurder am y meini prawf y byddai’r Cyngor yn eu cymryd i ystyriaeth pan fyddai’n ystyried dan ba amgylchiadau y byddai’n cymryd camau gorfodi.

 

            Roedd hefyd yn rhoi eglurder a thryloywder i'r rhai y gellid gweithredu yn eu herbyn ac roedd yn allweddol i gyflwyno newid gweithredol a diwylliannol ynghlwm â Gorfodi Cynllunio.

 

            Eglurodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) bod yr angen am bolisi diwygiedig wedi dod i'r amlwg yn 2016 a hefyd ar ôl archwiliad ar Orfodi Cynllunio.  Byddai hyfforddiant ar Orfodi Cynllunio’n cael ei ddarparu i'r holl Aelodau.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo cyhoeddi’r Polisi Gorfodi Cynllunio.