Mater - penderfyniadau

Draft Interim Houses in Multiple Occupation (HMO) Developer Advice Note

11/04/2019 - Draft Interim Houses in Multiple Occupation (HMO) Developer Advice Note

Dywedodd yr Aelod Cabinet Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd wrth Aelodau bod angen i geisiadau datblygu Tai Amlfeddiannaeth fynd drwy’r Pwyllgor Cynllunio bellach, ar ôl newidiadau i’r canllawiau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae cynnydd sylweddol wedi bod yn y math hwn o eiddo, sydd wedi arwain at gwynion gan drigolion lleol a Chynghorwyr. Yn y gorffennol, mewn trefi prifysgol fyddai eiddo fel hyn i'w canfod ond oherwydd y diffyg mewn tai, mae mwy yn cael eu datblygu erbyn hyn. Amlinellodd beth fyddai’r Nodyn Cyngor Datblygwr yn ei olygu gan nad yw’r polisïau cyfredol yn ddigonol yn hyn o beth. Roedd y Pwyllgor Cynllunio wedi ei chael hi’n anodd delio gyda’r mathau hyn o Geisiadau Cynllunio gan nad oedd polisi penodol yn ymwneud â Thai Amlfeddiannaeth o dan y Cynllun Datblygu Trefol. Roedd y polisi yn cael ei ddatblygu i’w gynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol ac roedd yr Hysbysiad Cyngor Datblygwyr hwn yn rhoi cyngor i ddatblygwyr yn y cyfamser. Roedd angen cymeradwyaeth ar y Nodyn Cyngor cyn iddo gael ei rhyddhau i’w ymgynghori arno a’i fabwysiadu gan y Cabinet a gofynnwyd i'r Pwyllgor hwn am ei sylwadau.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio Amgylchedd a’r Economi) bod y Gr?p Strategol Cynllunio wedi eu hymgynghori ar hyn a bod y Nodyn Cyngor Datblygwyr Interim drafft wedi ei atodi at yr adroddiad fel Atodiad 1. Unwaith byddai’r Pwyllgor yn cymeradwyo'r cynnwys byddai'n cael ei gyhoeddi ar gyfer yr ymgynghoriad cyhoeddus.  Wedi’r ymgynghoriad byddai’n cael ei fabwysiadu gan y Cabinet ac yna byddai Gweithdy i’r holl Aelodau’n cael ei gynnal.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Joe Johnson am eglurder am y diffiniad o D? Amlfeddiannaeth a gofynnodd a yw'n golygu 3 o bobl nad oeddynt yn perthyn i'r un teulu. Cadarnhaodd y Prif Swyddog fod hynny yn wir.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Owen Thomas at y (Cynllun Datblygu Trefol) gan nodi bod modd rhoi polisïau blaenorol yn eu lle cyn ei fabwysiadu, a gofynnodd a fyddai modd ffurfioli’r polisi yn yr un modd.   Wrth ymateb dywedodd y Prif Swyddog bod y Cynllun Datblygu Trefol yn wahanol i'r Cynllun Datblygu Lleol gan fod y cynllun eisoes wedi ei fabwysiadu.

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Mike Peers bod y Gr?p Strategaeth Cynllunio wedi gwneud sylwadau ar hyn.  Roedd yr adroddiad yn nodi bod y Cabinet wedi derbyn yr adroddiad ar 9 Hydref ond ar yr agenda ar gyfer y Cabinet cafodd ei gyflwyno ar 23 Hydref ac roedd am gael eglurder.  Roedd yn teimlo y dylai’r Pwyllgor fod wedi gweld y ddogfen ddrafft cyn iddi gael ei hystyried yn y Cabinet.  Yna cyfeiriodd at bwynt 4.12 Golygfa a Phreifatrwydd “Mae’r ACLl yn ystyried bod golygfa resymol yn golygu isafswm pellter o 12 metr" ac roedd yn teimlo y dylid ei newid i "ceisio am isafswm pellter o 12 metr".   O safbwynt 4.15, awgrymodd y Cynghorydd Peers y dylid cynnwys isafswm pellteroedd wrth gyfeirio at ffenestri islawr.   Ychwanegodd bod y cynlluniau a’r diagramau yn glir ond dywedodd bod pryderon wedi eu mynegi yn y Gr?p Strategaeth Cynllunio ynghylch allanfeydd tân ac awgrymodd gynnwys cyfeiriad at Reoli Adeiladu, a beth maen nhw’n gyfrifol amdano.

 

Mewn ymateb, cadarnhaodd y Prif Swyddog (Cynllunio Amgylchedd a’r Economi) mai dyddiad cyfarfod y Cabinet oedd 23 Hydref. O safbwynt ceisio barn y Pwyllgor dywedodd nad oedd yr ymgynghori ffurfiol wedi cychwyn ac nad hon oedd y ddogfen derfynol.  O safbwynt 4.12 roedd yn fodlon newid hyn y i “ceisio am isafswm pellter o 12 metr”. O safbwynt pryderon y Gr?p Strategaeth Cynllunio am ddiogelwch tân, dywedodd bod llawer o bartneriaid yn ymwneud â hyn, fel y Gwasanaeth Tân, Iechyd Yr Amgylchedd ac ati. Ar ddiwedd y nodyn gellid cynnwys rhestr o wybodaeth gyswllt a chyfrifoldebau a gellid trafod hyn yng Ngweithdy’r Aelodau. Cytunodd y Prif Swyddog i fynd a’r pwyntiau hyn ymlaen.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Sean Bibby at y strydoedd teras o fewn ei ward gan ddweud bod hyn yn bryder gwirioneddol i drigolion ac nad yw rhai Tai Amlfeddiannaeth yn mynd drwy brosesau cynllunio. Roedd gwastraff a thipio anghyfreithlon yn broblem yn ogystal â pharcio ar strydoedd cul lle gallai 4 neu 5 o bobl fod yn byw mewn un t?, a thrigolion o ganlyniad i hynny heb le i barcio. Hefyd roedd problemau gyda datblygwyr yn prynu llawer o’r eiddo yma, sy’n golygu nad yw pobl sy’n prynu am y tro cyntaf yn gallu prynu eiddo. Roedd yn bryderus i’r cymunedau gan mai trigolion byrhoedlog oedd y rhain yn hytrach na theuluoedd. Wrth ymateb cytunodd Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad fod problemau gwastraff yn broblem o safbwynt Tai Amlfeddiannaeth. Roedd cyllid yn dod ar gael gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael ag ardaloedd fel strydoedd teras ac unwaith y byddai’r trefniadau hyn yn eu lle byddai'n adrodd yn ôl wrth y Pwyllgor. Sicrhaodd y Prif Swyddog (Cynllunio Amgylchedd ac Economi) Aelodau fod yr holl faterion hyn yn rhan o Nodyn Cyngor Datblygwyr ond yn anffodus dydy’r Cyngor ddim yn gallu rheoli pwy sydd yn byw yn yr eiddo hyn, na'u hymddygiad.  

 

            Gofynnodd y Cynghorydd David Evans a fyddai angen gwneud cais am Ganiatâd Cynllunio Ôl-weithredol pe darganfyddir bod eiddo yn D? Amlfeddiannaeth anghyfreithiol.  Gofynnodd a yw trigolion yn cael eu hannog i adrodd am unrhyw amheuon ac awgrymodd ychwanegu atodiad arall yn darparu cyngor i drigolion ar sut i adrodd am achosion?    Wrth ymateb cytunodd y Prif Swyddog fod hwn yn bwynt teg a gellid ychwanegu dolen at y Tîm Gorfodi i drigolion oedd am adrodd am eu pryderon.  O safbwynt Caniatâd Cynllunio Ôl-weithredol, dywedodd nad oedd hyn bob amser yn cael ei ddyfarnu ac mewn rhai achosion byddent yn cael eu symud yn syth ymlaen at y Tîm Gorfodi.

 

            Roedd y Cynghorydd Paul Shotton yn falch o weld y Cabinet yn mynd i'r afael â'r pryderon hyn a bod y Gr?p Strategaeth Cynllunio eisoes wedi gwneud sylwadau ar y mater. Ychwanegodd bod yr effaith ar drigolion yn sylweddol a bod y nifer o broblemau a nodwyd yn ardal Cei Connah yn broblem wirioneddol.

 

            Cyfeiriodd yr Aelod Cabinet (Strydwedd a Chludiant) at sylwadau’r Cynghorydd Evans gan ddweud hyd at yn ddiweddar doedd dim rheoliadau yn eu lle a bod rhai o’r eiddo y cyfeirir atynt yn hanesyddol ond r?an roedd yn rhaid dyfarnu Caniatâd Cynllunio.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo penderfyniad y Cabinet i gymeradwyo cynnwys y Nodyn Cyngor Datblygwyr Tai Amlfeddiannaeth Interim Drafft a atodwyd at yr adroddiad hwn, a’i gyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus ar y cyfle cyntaf posibl.