Mater - penderfyniadau

School Transport – Transport Anomalies

30/01/2019 - School Transport – Transport Anomalies

            Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad Cludiant Ysgol – Anghysondebau Cludiant, yn dilyn adroddiad a gyflwynwyd i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd yng Ngorffennaf 2018 i nodi opsiynau ar gyfer rheoli rhai o’r trefniadau cludiant anstatudol. Wedi hynny, roedd y Cabinet wedi cymeradwyo’r dull o ddelio ag anghysondebau yng Ngorffennaf 2018.

 

            O ystyried yr heriau sy’n wynebu’r Cyngor o ran cyllidebau, argymhellwyd nawr y dylid tynnu’r anghysondebau hanesyddol o Orffennaf 2020, gyda rhybudd o 12 mis yn cael ei roi i rieni/gofalwyr ac ysgolion o ran tynnu'n ôl, a fyddai'n caniatáu digon o amser i wneud trefniadau teithio amgen i’r ysgol ac oddi yno.

 

             Dywedodd y Cynghorydd Thomas ei fod yn argymhelliad a oedd yn anodd ei gyflwyno, gan ei bod yn deall effaith y penderfyniad, yn enwedig ar gludiant mewn ardaloedd gwledig.  Fodd bynnag, roedd angen cysondeb, a gafodd sylw yn yr adroddiad.

 

            Yn dilyn cais gan y Cynghorydd Thomas y dylai'r offeryn mesur fod ar gael ar-lein, dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y bydd hyn yn cael sylw.  Eglurodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) bod y tîm Derbyniadau Ysgol yn treulio llawer o amser yn egluro i rieni sut roedd yr offeryn mesur yn gweithio a byddai hynny’n parhau.  Byddai penaethiaid ysgolion cynradd ac uwchradd hefyd yn cael eu hannog i fod yn fwy rhagweithiol wrth roi gwybodaeth am gludiant ysgol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod yr amserlenni ar gyfer cael gwared ar drefniadau cludiant ysgol anstatudol hanesyddol a dod â gwasanaethau bws â chymhorthdal yn cludo dysgwyr nad ydynt yn gymwys i ben, yn cael eu cymeradwyo.