Mater - penderfyniadau
Independent Remuneration Panel for Wales (IRPW) Draft Annual Report for 2019/20
01/04/2019 - Independent Remuneration Panel for Wales (IRPW) Draft Annual Report for 2019/20
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr adroddiad er mwyn galluogi’r Cyngor i ystyried Adroddiad Blynyddol drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer 2019/20. Rhoes wybodaeth yn gefndir i’r adroddiad gan esbonio fod yr atodiad yn nodi penderfyniadau’r Panel ar gyfer 2019/20.
Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at y materion pennaf i’w hystyried fel y nodwyd yn yr adroddiad, gan ddweud “er mwyn osgoi erydiad pellach mewn perthynas ag enillion cyfartalog” fod y Panel wedi penderfynu codi cyflog sylfaenol pob Cynghorydd i £13,868 (cynnydd o 1.97%) a oedd yn gyfwerth â £268. Roedd y Panel hefyd wedi penderfynu “[nad oedd] cyflogau arweinwyr ac aelodau o’r weithrediaeth wedi cynyddu ers sawl blwyddyn (ac eithrio'r cynnydd i'r elfen sylfaenol)” ac o’r farn “bod cyfrifoldeb gweithredol sylweddol ar ysgwyddau deiliaid y swyddi hyn, ac nad ydynt wedi'u talu'n dda iawn o gymharu â nifer o swyddogion sector cyhoeddus eraill”. Roedd y Panel yn argymell codiad o £800 i bob un (gan gynnwys y codiad o £268 yn y cyflog sylfaenol).
Dywedodd y Prif Swyddog fod y Panel hefyd wedi cynnig rhan newidiadau yng nghyfraddau cyflogau penaethiaid dinesig a dirprwyon (sef yr hyn a dalwyd i Gadeirydd y Cyngor a’r Is-gadeirydd). Talwyd y rhain ar gyfradd symudol yn y gorffennol, ond roedd y Panel wedi cael gwared â’r elfen o ‘ddewis’ a phenderfynu y dylai pob pennaeth dinesig bellach gael cyflog dinesig o £22,568 (yr un fath â chadeiryddion Pwyllgorau a £500 yn fwy na’r cyflog presennol, ar ben y cynnydd o £268 yn y cyflog sylfaenol). Byddai’n rhaid i’r dirprwy bennaeth dinesig gael cyflog Band 5 o £17,568 (cynnydd o £1,000). Serch hynny, gallai pob Cyngor ddewis peidio â rhoi cyflog dinesig ar gyfer y naill swydd na’r llall.
Cyfeiriodd y Prif Swyddog ar benderfyniadau 6 a 7 yn adroddiad drafft y Panel, a oedd a wnelont â darparu cymorth digonol, drwy Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd pob awdurdod, fel y gallai aelodau etholedig gyflawni eu dyletswyddau’n effeithiol. Dywedodd fod hynny’n cynnwys darparu ffôn, cyfrif e-bost a mynediad i’r rhyngrwyd ar gyfer gwybodaeth briodol, heb i’r aelodau unigol orfod talu amdanynt. Soniodd y Prif Swyddog am egwyddor y Panel na ddylai ymgeisio am swydd etholedig fod yn ddibynnol ar sefyllfa ariannol yr unigolyn, ac na ddylai Aelodau fod ‘ar eu colled’ o ganlyniad i’r costau angenrheidiol ar gyfer cyflawni dyletswyddau cyhoeddus.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Aaron Shotton at benderfyniadau 1 a 2 yn adroddiad drafft y Panel, a’r codiadau a gynigiwyd yn y cyflog sylfaenol a chyflogau uwch ar gyfer aelodau etholedig. Soniodd am y sefyllfa ariannol genedlaethol a’r cyfnod o lymder oedd yn dal i fynd yn ei flaen, gan ddweud nad oedd o’r farn y gellid cyfiawnhau’r codiadau a gynigiwyd, a’u bod yn amhriodol ar hyn o bryd. Cynigiodd y Cynghorydd Shotton fod y Cyngor yn ymateb i’r Panel gan wrthod y cynigion i godi’r cyflog sylfaenol a’r cyflogau uwch ar gyfer aelodau etholedig a nodwyd ym mhenderfyniadau 1 a 2 yn adroddiad drafft y Panel.
Siaradodd y Cynghorydd Patrick Heesom o blaid cynnig y Cynghorydd Shotton, gan ddweud fod angen manteisio ar bob cyfle i sicrhau arbedion. Soniodd am nifer Aelodau’r Cabinet, gan holi a ellid adolygu’r nifer er mwyn arbed mwy o gostau cyflogau yn y dyfodol. Esboniodd y Prif Swyddog na chaniateid mwy na deg o seddi cabinet mewn unrhyw awdurdod, a bod gan Sir y Fflint wyth ohonynt ar hyn o bryd. Mewn ymateb i gwestiynau a sylwadau eraill gan y Cynghorydd Heesom, eglurodd y Prif Swyddog y costau ar gyfer cyflogau uwch.
Dywedodd y Prif Swyddog fod y Cynghorydd Aaron Shotton wedi cynnig, ar sail yr amgylchiadau ariannol presennol, na ellid cyfiawnhau cynyddu’r cyflog sylfaenol ac uwch gyflogau aelodau etholedig yn 2019/20 fel y cynigiwyd; a bod y Prif Swyddog (Llywodraethu) yn ymateb i’r Panel ar ran y Cyngor, i’w hysbysu o’r penderfyniad yn y cyfarfod. Eiliwyd y cynnig hwnnw, ac fe’i cymeradwywyd yn dilyn pleidlais.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Cyngor o’r farn na ellid cyfiawnhau cynyddu’r cyflog sylfaenol a chyflogau uwch ar gyfer aelodau etholedig yn 2019/20, fel y cynigiai’r Panel, gan ystyried y sefyllfa ariannol oedd ohoni; a
(b) Bod y Prif Swyddog (Llywodraethu) yn ymateb i’r Panel ar ran y Cyngor, i’w hysbysu o’r penderfyniad yn y cyfarfod..