Mater - penderfyniadau
Action Tracking
29/07/2019 - Action Tracking
Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad yn nodi cynnydd ar bwyntiau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol. Cyfeiriodd at yr eitem Cylch Cyllid a Chynllunio Busnes ar y rhaglen a dywedodd fod y gweithdy gwybodaeth perfformiad wedi’i aildrefnu ac y byddai’n cael ei gynnal ar 30 Mai.
Yn dilyn trafodaeth yn ystod cyfarfod blaenorol, roedd y Prif Weithredwr wedi awgrymu y dylid cynnal gweithdy i Aelodau ar gyllid pensiwn gweithwyr ac fe gytunwyd y byddai sesiwn fer ar ‘Sut mae'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn gweithio’ yn cael ei chynnal ar unwaith cyn cyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 13 Mehefin.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi'r cynnydd sydd wedi’i wneud.