Mater - penderfyniadau

Audit Committee Terms of Reference and Charter

18/03/2019 - Audit Committee Terms of Reference and Charter

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol yr adroddiad a oedd yn ceisio cytundeb ar y newidiadau a wnaed i Gylch Gorchwyl y Pwyllgor Archwilio i adlewyrchu’r arferion gweithio presennol a maes cyfrifoldeb newydd. Ceisiwyd barnau hefyd ar y drafft o Siarter y Pwyllgor Archwilio a ddatblygwyd i ddogfennu rôl y Pwyllgor o fewn fframwaith Llywodraethu’r Cyngor, ynghyd â’r cydlynu rhwng y Pwyllgor a Throsolwg a Chraffu. Byddai’r ddwy ddogfen yn cael eu hystyried gan Bwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo’r newidiadau i’r Cylch Gorchwyl; a

 

(b)       Chymeradwyo Siarter y Pwyllgor Archwilio.