Mater - penderfyniadau

Budget 2019/20 Stage 2 proposals

14/03/2019 - Budget 2019/20 Stage 2 proposals

                        Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) adroddiad ar gynigion cyllideb cam 2 ar gyfer Portffolio Strydwedd a Chludiant a rhan o’r Portffolio Cynllunio, Amgylchedd ac Economi ar gyfer 2019/20. Darparodd wybodaeth gefndir a chyfeiriodd at weithdy a gynhaliwyd ar 11 Hydref, a roddodd gyfle i Aelodau i ddeall cyllideb portffolio yn fwy manwl a'r risgiau a lefelau gwydnwch meysydd gwasanaeth. Adroddodd y Prif Swyddog ar bwysau portffolio, buddsoddiadau, a chynllunio arbedion effeithlonrwydd busnes Portffolio fel y nodir yn yr adroddiad mewn perthynas â Strydwedd a Chludiant. 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Paul Shotton i leihad mewn incwm o ailgylchu gwastraff. Eglurodd y Prif Swyddog bod yr incwm o wastraff ailgylchu, a phlastig, cerdyn a phapur er enghraifft, wedi gostwng yn sylweddol oherwydd colli marchnadoedd rhyngwladol a chyfeiriwyd at fentrau sydd yn cymryd lle i gynnal y farchnad.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Paul Shotton ynghylch y posibilrwydd o ddefnyddio plastig yn lle Bitumen i atgyweirio arwynebedd ffyrdd a ceudyllau, dywedodd Prif Swyddog Strydwedd a Chludiant bod trafodaethau yn digwydd gyda chwmni lleol mewn perthynas â hyn, a bwriedir bod sampl o ddeunydd yn cael ei ddarparu ar gyfer ei dreialu yn y dyfodol agos. Byddai aelodau yn cael eu gwahodd i ymweld â'r cwmni i edrych ar y cynnyrch a phan fydd gwybodaeth pellach ar gael, bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r pwyllgor craffu ar y canfyddiadau.

 

Cododd y Cynghorydd Mike Peers nifer o ymholiadau. Cyfeiriodd at incwm o waith allanol (Gweithdy Fflyd) a gofnodwyd fel £0.010m yn yr adroddiad, ac ar dudalen 3 y datganiad gwytnwch nodwyd £10.00. Hefyd gofynnodd am gadarnhad a oedd y casgliadau sbwriel bob 3 wythnos yn rhan o’r cynigion ar y pryd.  Cyfeiriodd y Cynghorydd Peers at yr arbedion o £30k yn 2015/16 yn dilyn cau’r ganolfan wybodaeth yng ngorsaf bws yr Wyddgrug, a dywedodd ei fod yn ymddangos bod arian yn cael ei wario ar gyllid grant. Cadarnhaodd y Prif Swyddog bod y grant gorsaf bysiau gan Lywodraeth Cymru a bod y £30k a gyfeiriwyd ato yn arbedion refeniw yn dilyn cau’r ganolfan wybodaeth bychan yng ngorsaf bws yr Wyddgrug. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Carolyn Thomas nad oedd penderfyniad wedi’i wneud eto ynghylch gwasanaeth casglu sbwriel bob 3 wythnos, ond dywedodd oherwydd y setliad cyllideb diweddaraf a’r gostyngiadau pellach mewn cyllid nad oedd yn bosib ei anwybyddu fel dull arbed cyllid posibl ar hyn o bryd.   Dywedodd y byddai newid y gwasanaeth casglu gwastraff bob 3 wythnos yn gallu gwneud arbedion o £800k.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Owen Thomas ynghylch gwastraff ochr, cyfeiriodd y Prif Swyddog at y gweithdrefnau a ddefnyddiwyd i fynd i’r afael â’r broblem o wastraff ochr a oedd yn cael ei adael i’w casglu.  Dywedodd bod 1,400 o lythyrau rhybuddio wedi’u hanfon at breswylwyr a busnesau a dywedodd mai dim ond 30-40 o achosion oedd wedi symud i’r ail gam o roi rhybudd. Dywedodd y Prif Swyddog gan oedd unrhyw Hysbysiadau Cosb Benodedig wedi’u rhoi a dywedodd mai’r nod oedd ymgysylltu ac annog pobl i wella ailgylchu eu gwastraff. Dywedodd bod y gost a gwerth ailwerthu isel o wastraff wedi’i ailgylchu a’r angen i ddod o hyd i ddefnydd cynaliadwy amgen er lles yr amgylchedd.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Mike Peers ynghylch costau mynediad, a godwyd yn y gweithdy cyllideb, cadarnhaodd y Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd ac Economi) bod y ffigurau yn cyfeirio at 20 swydd llawn amser. .  Ychwanegodd y Cynghorydd Carolyn Thomas bod ychydig o’r gwaith yn orfodol. Dywedodd y Prif Swyddog y byddai adroddiad yn cael ei ddarparu yn y cyfarfod o'r Pwyllgor yn y dyfodol gyda manylion pellach am y gwasanaethau gorfodol a ddarperir.

 

Gofynnodd y Cynghorydd David Evans am adroddiad ar fanteision ac anfanteision symud i wasanaeth casglu gwastraff bob 3 neu 4 wythnos, gyda gwybodaeth a oedd wedi'i gynnwys ynghylch profiadau awdurdodau a oedd wedi cyflwyno casgliadau bob 3 neu 4 wythnos. 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Cindy Hinds os oedd gwastraff plastig yn cael ei didoli yng nghanolfannau ailgylchu. Eglurodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) bod plastig cymysg yn cael ei gasglu ac wedyn ei werthu fel plastig cymysg. Roedd gwerth plastig wedi’i wahanu ychydig yn fwy, ond roedd cost i wahanu'r plastig. Dywedodd bod gwaith yn cael ei gyflawni i edrych ar yr achos busnes i wahanu’r plastig, fodd bynnag roedd yn teimlo ei bod hi'n bwysig i beidio a gwneud ailgylchu yn fwy cymhleth i breswylwyr a allai effeithio ar gyfraddau ailgylchu.   Dywedodd y Prif Weithredwr bod yr Awdurdod yn gyson gydag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru o ran gwerthu plastig cymysg. Eglurodd y Cynghorydd Carolyn Thomas bod yr Awdurdod ar hyn o bryd yn derbyn popeth ar wahân i blastig du a ffilm. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Owen Thomas bod cyfaint y deunyddiau gwastraff i’w casglu yn cynyddu a gofynnodd os oedd gan yr Awdurdod gofnodion yn dangos data ar wastraff a gasglwyd dros y pum mlynedd diwethaf.  Cyfeiriodd at y deunyddiau gwastraff a gynhyrchwyd gan archfarchnadoedd a siopau eraill a sefydliadau bwyd, a dywedodd er bod yr Awdurdod yn gweithio i gyflawni arbedion, bod swm y gwastraff a gesglir yn cynyddu.   

 

Eglurodd y Cynghorydd Carolyn Thomas ei bod yn lobïo i Lywodraeth Cymru a’r DU i leihau faint o blastig a gwastraff a gynhyrchir, a dywedodd bod Llywodraeth Cymru yn awyddus i weithio gydag archfarchnadoedd i annog cyfrifoldeb a lleihau’r defnydd o blastig.  Mewn ymateb i gwestiwn pellach gan y Cynghorydd Owen Thomas, atebodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) bod y gwastraff yn un o’r diwydiannau a reoleiddir fwyaf a dywedodd bod y data/ystadegau ar gasgliadau gwastraff ac ailgylchu ar gael ac yn cael ei adrodd yn rheolaidd ar wastraff sbwriel ac ailgylchu.Ychwanegodd bod Llywodraeth Cymru yn adolygu eu targedau gyda’r bwriad i gynyddu targedau ailgylchu o 70% i 80%.

 

 Soniodd y Cadeirydd am y broblem o sbwriel yn cael eu taflu o amgylch sefydliadau bwyd brys a sut mae’n difetha yr ardal cyfagos, a gofynnodd os oedd yr Awdurdod wedi codi’r broblem gyda busnesau lleol. Cadarnhaodd y Prif Swyddog ei fod wedi ysgrifennu at sefydliadau bwyd brys yn Sir y Fflint i amlinellu pryderon y Pwyllgor, a roedd wedi cael ymateb a fydd yn dosbarthu i aelodau’r Pwyllgor. Cytunodd y Cynghorydd Carolyn Thomas i godi’r mater yn ystod ei chyfarfod â’r Gweinidog yr Amgylchedd y diwrnod canlynol.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y pwyllgor yn cefnogi’r pwysau a buddsoddiadau y portffolio; a

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r dewisiadau effeithlonrwydd portffolio.