Mater - penderfyniadau
Draft Interim Houses in Multiple Occupation (HMO) Developer Advice Note
30/01/2019 - Draft Interim Houses in Multiple Occupation (HMO) Developer Advice Note
Cyflwynodd y Cynghorydd Bithell adroddiad Nodyn Cyngor Datblygwyr Tai Amlfeddiannaeth Interim Drafft, a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer y Nodyn Cyngor.
Roedd Aelodau wedi mynegi pryderon o’r blaen am y diffyg rheolaethau polisi penodol wrth ddelio â phatrwm cynyddol o geisiadau ar gyfer datblygu Tai Amlfeddianaeth a oedd yn cael eu hystyried yn y Pwyllgor Cynllunio.
Cydnabuwyd nad oedd polisi penodol yn y Cynllun Datblygu Unedol a oedd yn ymwneud â’r ystyriaethau gofynnol i asesu addasrwydd cais am D? Amlfeddianaeth.
Eglurodd y Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd a’r Economi) fod y canllawiau a ddarparwyd yn y Nodyn Cyngor yn cynnwys tair rhan allweddol:
1. Safonau a oedd yn ymwneud â gofod ystafelloedd, amwynder cyffredinol, darpariaeth cyfleusterau, a pharcio a oedd yn ymwneud â datblygu T? Amlfeddiannaeth a’r amodau byw a oedd yn ymwneud â meddianwyr yn y dyfodol;
2. Safonau a gofynion ychwanegol i’r rhai yn Rhan 1, sy’n ymwneud â datblygiad fflatiau ar wahân neu lety fflatiau a fflatiau un ystafell cymysg; a
3. Gofynion penodol sy’n ymwneud ag ystyried amodau byw eiddo cyfagos nad ydynt yn Dai Amlfeddiannaeth, gan gynnwys effaith ar gymeriad ardal.
Y camau nesaf fyddai sicrhau bod y Nodyn Cyngor ar gael ar gyfer ymgynghoriad er mwyn rhoi ystyriaeth i unrhyw ymatebion, diwygio fel bo’n briodol/os yw’n ofynnol a mabwysiadu’n ffurfiol fel ystyriaeth gynllunio berthnasol ochr yn ochr â’r CDU.
Croesawodd y Cynghorwyr Butler a Mullin yr adroddiad a fyddai’n cynorthwyo â cheisiadau cynllunio yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo cynnwys y Nodyn Cyngor Datblygwyr Tai Amlfeddiannaeth Interim Drafft, a’i gyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus ar y cyfle cyntaf posibl.