Mater - penderfyniadau

Theatr Clwyd - Constitutional Arrangements

30/01/2019 - Theatr Clwyd - Constitutional Arrangements

            Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad Theatr Clwyd – Trefniadau Cyfansoddiadol a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer y trefniadau cyfansoddiadol a llywodraethu ar gyfer y Theatr.

 

            Roedd y Cylch Gorchwyl drafft wedi’i ddiweddaru wedi’i atodi i’r adroddiad.         

 

            Croesawodd y Prif Weithredwr Liam Evans-Ford i’r cyfarfod.  Eglurodd Mr Evans-Ford mai hwn oedd yr ail gam yn yr adolygiad o drefniadau llywodraethu’r Theatr, ac roedd y cam hwn yn cynnig eglurder a sicrwydd.  Roedd hefyd yn amlinellu sut roedd y Theatr yn gweithio gyda’r cwmnïau Cynhyrchu a gwaith y ddau is-bwyllgor.

 

            Cynigiodd y Cynghorydd Attridge ddiwygiad i’r adroddiad, sef y dylai Cadeirydd Bwrdd Theatr Clwyd fod yn Gynghorydd Sir.  Yn dilyn ymatebion a roddwyd gan y Cynghorwyr Butler a Bithell, tynnodd y Cynghorydd Attridge ei ddiwygiad yn ôl.

 

            Rhoddodd y Prif Weithredwr sylwadau am gynhyrchiad llwyddiannus diweddar “The Assassination of Katie Hopkins” a oedd wedi ennill Gwobr Theatrau’r DU am y Sioe Gerdd Newydd Orau.  Byddai hyn yn cael ei gydnabod mewn cyfarfod y Cyngor Sir yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo argymhellion Bwrdd Theatr Clwyd ar gyfer ei drefniadau cyfansoddiadol a llywodraethu.