Mater - penderfyniadau

Centenary Fields

30/01/2019 - Centenary Fields

            Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin adroddiad Caeau Canmlwyddiant a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i gyflwyno nifer o safleoedd i Feysydd Chwarae Cymru fel Caeau Canmlwyddiant.

 

            Roedd Caeau Canmlwyddiant yn fenter gan Feysydd Chwarae Cymru, mewn partneriaeth â’r Lleng Brydeinig Frenhinol, i ddiogelu a chadw mannau agored gwerthfawr a oedd â rhywfaint o arwyddocâd i’r Rhyfel Byd Cyntaf, i anrhydeddu’r rhai a oedd wedi colli eu bywydau.  Roedd y rhaglen yn un o amrywiaeth o fentrau i goffau canmlwyddiant diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf.

 

            Byddai gweithred gyflwyno gyfreithiol rhwng y Cyngor a Meysydd Chwarae Cymru yn golygu y byddai’r safleoedd sydd wedi’u dynodi fel Caeau Canmlwyddiant yn cael eu diogelu am byth, gan ddarparu etifeddiaeth ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.  Byddai dynodi safleoedd fel Caeau Canmlwyddiant yn atgyfnerthu ymrwymiad y Cyngor i Gyfamod y Lluoedd Arfog a diogelu mannau gwyrdd er budd y gymuned leol.  Roedd y rhestr derfynol o safleoedd wedi’u hatodi i’r adroddiad.

 

            Croesawodd y Cynghorydd Shotton yr adroddiad a fyddai’n gweld cofebau addas yn y safleoedd a restrwyd.  Diolchodd yn benodol i’r Cynghorwyr David a Gladys Healey am eu hangerdd dros fod am ddiogelu Parc Willows yn yr Hob, a fyddai’n cael ei ddiogelu yn dilyn y weithred gyflwyno gyfreithiol.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo bod cais yn cael ei gyflwyno i Feysydd Chwarae Cymru i gyflwyno’r safleoedd a ganlyn fel Caeau Canmlwyddiant:

 

·         Y Grîn gyferbyn ag Ysgol Croes Atti, y Fflint;

·         Gerddi Coffa, Treffynnon;

·         Gardd Goffa Coed-llai; a

·         Pharc Willows, yr Hob.

 

(b)       Llofnodi’r weithred gyflwyno gyda Meysydd Chwarae Cymru ar ran y Cyngor, os yw’r ceisiadau’n llwyddiannus; a

 

(c)        Cytuno ar gyfres o ddigwyddiadau sy’n cael eu cynnal i nodi achlysur y safleoedd yn cael eu dynodi’n Gaeau Canmlwyddiant.