Mater - penderfyniadau
Double Click Social Enterprise - Progress Report
30/01/2019 - Double Click Social Enterprise - Progress Report
Cyflwynodd y Cynghorydd Jones Adroddiad Cynnydd Menter Gymdeithasol Double Click, a oedd yn darparu gwybodaeth am Double Click fel Menter Gymdeithasol.
Roedd Double Click wedi datblygu’n fawr fel Menter Gymdeithasol cwbl annibynnol, gan gynnig rhagor o gyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant i’r staff i gyd, gan gynnwys pobl â materion iechyd meddwl.
Roedd cyllid loteri allanol sylweddol wedi’i sicrhau ac o ganlyniad roedd Double Click wedi prynu offer o’r radd flaenaf a oedd yn cefnogi datblygiad y busnes.
Eglurodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) fod Cyngor Sir y Fflint yn cyfrannu £110,000 i Double Click. Gan nad oedd y swm hwnnw wedi cynyddu dros y ddwy flynedd ddiwethaf, roedd yn leihad o ran cost yn ei hanfod, gan ystyried chwyddiant a ffactorau eraill.
PENDERFYNWYD:
(a) Cydnabod y cynnydd a gyflawnwyd ar ôl 2 flynedd; a
(b) Bod y Cabinet yn parhau i gefnogi a hyrwyddo Double Click fel menter gymdeithasol.