Mater - penderfyniadau

Council Plan 2018/19 – Mid Year Monitoring

13/03/2019 - Council Plan 2018/19 – Mid Year Monitoring

Cyflwynodd y Prif Swyddog adroddiad i ddangos y cynnydd sydd wedi’i fonitro ar ganol blwyddyn 2018/19 o ran blaenoriaeth Cynllun y Cyngor, ‘Cyngor Cefnogol’, sy’n berthnasol i’r Pwyllgor.

 

Dywedodd bod yr adroddiad canol blwyddyn yn dangos bod 88% o’r gweithgareddau yn gwneud cynnydd da a bod 81% yn debygol o gyflawni'r canlyniadau a gynlluniwyd. Roedd 79% o ddangosyddion perfformiad wedi cyrraedd neu ragori ar y targed.Mae risgiau yn cael eu rheoli, gyda 18% yn unig wedi’u hasesu fel rhai mawr.Mae’r adroddiad yn adroddiad am eithriadau ac felly’n canolbwyntio ar y meysydd sy’n tan-berfformio.

 

Cyfeiriodd y Cyng. Dave Mackie at dudalen 176 o’r adroddiad a’r dangosydd perfformiad ar gyfer canran y plant sy'n derbyn gofal sy’n derbyn asesiad iechyd amserol. Roedd yr Uwch-Reolwr – Plant a’r Gweithlu yn cydnabod pryderon y Cyng. Mackie ac eglurodd bod rhywfaint o welliant i’w weld ond bod y mater yn parhau’n fater y mae’r gwasanaeth yn ei godi’n gyson gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

 

Soniodd y Cadeirydd am y risg bod y galw yn trechu’r cyflenwad o argaeledd gwlâu cartrefi preswyl a nyrsio.Gofynnodd y Cyng. McGuill sawl gwely sydd ar gael mewn cartrefi gofal preswyl o gymharu â deng mlynedd yn ôl.Eglurodd yr Uwch-Reolwr bod nifer y gwlâu yn llai heddiw.Gofynnodd y Cadeirydd a fydd modd rhoi gwybod i’r Pwyllgor faint o bobl h?n bregus eu meddwl sy’n aros am wlâu.Soniodd y Cadeirydd am y nifer cyfyngedig o gartrefi gofal yn Sir y Fflint a dywedodd bod y galw yn fwy na'r cyflenwad, a bod disgwyl i'r broblem waethygu oherwydd demograffeg y sir.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi Adroddiad Monitro Hanner Blwyddyn Cynllun y Cyngor 2018/19.