Mater - penderfyniadau

Council Plan 2018/19 - Mid Year Monitoring

26/02/2019 - Council Plan 2018/19 - Mid Year Monitoring

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) yr adroddiad er mwyn monitro cynnydd ganol blwyddyn 2018/19 ar gyfer blaenoriaeth ‘Cyngor sy’n Cysylltu’ sy’n berthnasol i’r Pwyllgor sydd i’w weld yng Nghynllun y Cyngor.  Dywedodd bod yr adroddiad canol blwyddyn yn dangos bod 88% o weithgareddau'n gwneud cynnydd da a bod 81% yn debygol o gyflawni'r canlyniadau bwriadedig.  Roedd 79% o ddangosyddion perfformiad wedi cyrraedd neu fynd y tu hwnt i’w targed. Roedd risgiau’n cael eu rheoli gyda chyfran fechan o 18% wedi’u hasesu fel rhai mawr.

 

Gofynnodd Patrick Heesom am y dangosydd perfformiad oedd yn ymwneud â chyfyngiadau ar gyllid cyhoeddus er mwyn rhoi cymhorthdal am fodelau amgen. Cyfeiriodd  y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) at yr adborth cadarnhaol o gyfarfodydd adolygu am ffigurau blwyddyn gyntaf o fasnachu ar gyfer modelau darparu amgen, serch hynny, dywedodd bod yr heriau i gyllid cyhoeddus yn parhau a dyma oedd y rheswm am y raddfa risg bresennol.   Dywedodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) bod y cynlluniau busnes ar gyfer modelau darparu amgen yn cael eu hadolygu’n rheolaidd.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Patrick Heesom bod cyfarfod yn cael ei drefnu i drafod y cyllid sydd ar gael i drosglwyddo asedau o fewn y Cynnig Twf.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Monitro Canol Blwyddyn Cynllun y Cyngor 2018/19 er mwyn monitro tan berfformiad a chodi nifer o faterion gyda Swyddogion.