Mater - penderfyniadau

Local Democracy and Boundary Commission for Wales Presentation

07/12/2018 - Local Democracy and Boundary Commission for Wales Presentation

Cyflwynodd y Prif Weithredwr Theo Joloza (Prif Gomisiynydd), Matt Redmond (Dirprwy Brif Weithredwr) a Tom Jenkins (Swyddog Adolygu) o Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru a'u gwahodd nhw i roi cyflwyniad i Adolygiad Etholiadol Sir y Fflint.   Roedd y cyflwyniad yn cynnwys:

 

·         Pwy ydym ni?

·         Diben ein cyflwyniad

·         Deddfwriaeth

·         Cwmpas yr Adolygiad

·         Meini prawf statudol

·         Polisi maint y Cyngor – diffiniedig - cymwysedig

·         Blociau adeiladu ward Etholiadol

·         Aelod sengl/Aml aelod

·         Yr hyn y byddwn yn ei ystyried

·         Meysydd Pryder

·         Yr hyn na fydd yn cael ei ystyried

·         Cynrychiolaethau effeithiol

·         Lle all y Cyngor helpu?

·         Amserlen

 

Newidiadau yn Llywodraeth Cymru (LlC) yn golygu bod dechrau’r rhaglen 10 mlynedd o adolygiadau gan y Comisiwn Ffiniau wedi cael ei ohirio tan Ionawr 2017. Angen adrodd ar yr argymhellion a wneir o’r adolygiad presennol o drefniadau etholiadau i LlC erbyn Gwanwyn 2021 er mwyn caniatáu digon o amser i'r newidiadau wardiau gael eu gweithredu cyn etholiadau Llywodraeth Leol yn 2022.  Dosbarthwyd copïau i’r Aelodau o’r ddogfen Polisi ac Arferion a ailgyhoeddwyd yn adlewyrchu’r rhaglen 5 mlynedd byrrach.

 

Nod yr adolygiad oedd cynnig patrwm o wardiau etholiadol ar gyfer ardal gyfan y cyngor ac nid lle'r oedd lefelau o anghydraddoldeb etholiadol yn unig, er bod rhai ardaloedd o bosib ddim angen unrhyw newidiadau.   Rhoddwyd eglurhad manwl ar y gwahanol elfennau i’r Comisiwn ei ystyried wrth greu'r trefniadau newydd.  O dan Bolisi Maint y Cyngor, mae Cyngor Sir y Fflint wedi cael ei roi yn y trydydd o bedwar categori o gyngor sydd wedi cael ei ddylunio i harmoneiddio’r nifer o boblogaeth fesul Aelod.  Ar ôl gweithredu’r cyfyngiadau hanfodol, adroddwyd bod yr adolygiad o Sir Y Fflint yn anelu am 63 Aelodau, gan nodi fod amrywiant bychan o bosib yn cael ei ystyried os yn cael ei gefnogi gan dystiolaeth.  Er mai dewis y Comisiwn oedd ar gyfer wardiau Aelodau unigol, byddai ystyriaeth yn cael ei roi i gynrychiolaethau ar gyfer hyd at dri wardiau aelodau.  Enghreifftiau o gysylltiadau cymunedol wedi’u rhannu y gellir eu darparu ymysg tystiolaeth gefnogol.

 

Ardaloedd cymunedol a wardiau presennol wedi cael eu defnyddio fel blociau adeiladu ar gyfer pob ward etholiadol.   Mae’r Comisiwn wedi cael pwerau i wneud newidiadau i’r ffiniau hynny o ganlyniad i greu wardiau etholiadol, fodd bynnag byddai hynny ond yn cael ei ystyried yn ystod y cyfnod ymgynghori drafft lle mae cynigion penodol yn cael eu cefnogi gan Aelodau lleol a’r cyngor tref/cymuned perthnasol.

 

Ar yr amserlen ar gyfer yr adolygiad roedd y Cyngor yn cael ei annog i ddefnyddio gwybodaeth leol i gyflwyno cynllun priodol ar gyfnod cynnar o fewn rheolau’r ddeddfwriaeth a pholisïau, i helpu’r Comisiwn i adnabod ateb priodol i drefniadau newydd.

 

Diolchodd y Prif Weithredwr y tîm Comisiwn am y cyflwyniad a fyddai hefyd yn cael ei gyflwyno i’r Fforwm Sirol y noson honno.  Dyma fo'n atgoffa bod adolygiad o ffiniau ward cymunedol wedi cael ei gwblhau yn 2014 a bod yna bosibilrwydd i’w adolygu eto fel rhan o'r adolygiad hwn.   Wrth gydnabod y cymhlethdodau ynghlwm, fe siaradodd am yr angen i ddatblygu’r dull orau o alluogi swyddogion ac Aelodau i gydweithio i ddatblygu cynllun ymarferol yn blaenoriaethu’r ardaloedd hynny o’r map gyda’r amrywiaethau mwyaf o’r cyfartaledd Sir arfaethedig.

 

Mynegodd y Cynghorydd Kevin Hughes ei bryderon bod y golled bosib o saith Aelod yn gallu arwain at ateb anghytbwys.  Dywedwyd wrtho bod y Comisiwn ond yn gallu gweithio o fewn parametrau'r ddeddfwriaeth.

 

Yn ymateb i'r sylwadau gan y Cynghorydd Bithell am ffiniau ‘sydd wedi’u creu gan ddyn’, eglurwyd y byddai’r adolygiad yn cymryd y rhwydwaith ffordd bresennol a bod pob ward yn cael ei ystyried yn ôl teilyngdod ei hun.

 

Gofynnodd y Cynghorydd McGuill os oedd y ffigurau ar gyfer Sir y Fflint yn cymryd i ystyriaeth unrhyw newidiadau yn y dyfodol yn sgíl y Cynllun Datblygu Lleol.  Eglurwyd bod y ddeddfwriaeth yn bennaf angen cydraddoldeb etholiadol ar y nifer presennol o etholwyr fesul Aelod yn yr ardal.  Mae ffactorau eilaidd fel ffigurau amcanestyniad dros bum mlynedd (i’w rhannu gydag Aelodau) yn gallu ffurfio rhan o gynigion y Cyngor ac efallai yn cael eu hystyried o fewn hyblygrwydd rhesymol.

 

Wrth ymateb i’r sylwadau gan Gynghorwyr Palmer a Banks, eglurwyd bod yr amrywiaethau o ran llwyth gwaith Aelodau ac ystadegau twristiaeth ddim yn rhan o’r ystyriaethau.

 

Yn dilyn ymholiad gan y Cynghorydd Paul Johnson, rhoddwyd eglurhad ar y cyfrifiadau a oedd yn penderfynu bod gan Sir y Fflint ormod o gynrychiolaeth  ar hyn o bryd.

 

Gofynnwyd am fwy o eglurhad gan y Cynghorydd Peers ar gywirdeb y ffigurau a sut y byddai amcanestyniadau pum mlynedd yn cael eu defnyddio.   Rhoddwyd enghraifft lle byddai dewis yn cael ei gyflwyno i ail-lunio ffin yn defnyddio tystiolaeth o ddatblygiadau’r dyfodol.  Byddai unrhyw ardaloedd o dwf sylweddol yn y dyfodol yn cael sylw trwy adolygiadau'r dyfodol fel rhan o raglen dreigl.

 

Awgrymodd y Cynghorydd Carver y posibilrwydd o newid ffiniau ward i gyflawni’r wardiau yn rhai aelodau unigol i gyd.  Eglurwyd mai penderfyniad y Cyngor oedd i gyflwyno tystiolaeth neu beidio i gefnogi'r dull hwn.  Gellir hefyd gwneud cynrychiolaethau am y pellteroedd sy'n cael eu teithio gan Aelodau i ymrwymo â'u hetholaeth, fel y mynegir gan y Cynghorydd Ray Hughes.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r cynrychiolwyr am y cyflwyniad manwl ac am ymateb i gwestiynau’r Aelodau.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr bod y gwaith yn dechrau ar ddatblygu proses i alluogi’r ymrwymiad mwyaf ar y cynllun.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r cyflwyniad.