Mater - penderfyniadau

Annual Performance Report 2017/18

30/01/2019 - Annual Performance Report 2017/18

            Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2017/18 a oedd yn adolygu cynnydd y Cyngor yn erbyn Blaenoriaethau’r Cyngor fel a amlinellwyd yng Nghynllun y Cyngor 2017/18.

 

            Roedd yr adroddiad yn adlewyrchu’r cynnydd cyffredinol a wnaed yn erbyn y blaenoriaethau a lefel yr hyder oedd gan y Cyngor o ran cyflawni’r canlyniadau dymunol.  Roedd hefyd yn dangos y sefyllfa yn erbyn y 46 risg, gyda phedwar risg wedi cynyddu o ran arwyddocâd yn ystod y flwyddyn, a 10 risg wedi gostwng o ran arwyddocâd erbyn diwedd y flwyddyn.

 

            Eglurodd y Prif Weithredwr y byddai’r adroddiad yn cael ystyriaeth yng nghyfarfod y Cyngor Sir yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw, ac roedd gofyniad statudol i gyhoeddi’r adroddiad erbyn 31 Hydref 2018.  Roedd nifer fach o feysydd perfformiad wedi’u cytuno gan y Cabinet a’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol fel bod angen rhagor o graffu a sicrwydd ar gyfer gwell perfformiad yn 2018/19:

 

·         Cyfranogiad hamdden;

·         Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl (amseroldeb); a

·         Ceisiadau Cynllunio (amseroldeb).

 

Roedd y meysydd gwasanaeth i gyd wedi rhoi ystyriaeth i’r ffigurau blynyddol o ran y ganran a bleidleisiodd a rhoi eglurhad a/neu newidiadau o ran prosesau a gweithdrefnau i wella perfformiad yn ystod y flwyddyn.

 

Dywedodd y Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol fod yr adroddiad yn gadarnhaol a’i fod yn dangos bod y Cyngor yn ceisio sicrhau gwelliant parhaus.  Roedd proffil chwartel y Cyngor dros y blynyddoedd blaenorol wedi’i amlinellu yn yr adroddiad, gan ddangos lefelau gwelliant.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2017/18 i’w gyhoeddi;

 

(b)       Bod y camau gweithredu gwella ar gyfer y meysydd tanberfformio mewn gwasanaethau yn ystod 2017/18 yn cael eu cymeradwyo; a

 

(c)        Bod adroddiad cynnydd canol blwyddyn yn erbyn y camau gweithredu gwella yn cael ei gyflwyno ym mis Tachwedd.