Mater - penderfyniadau

Withdrawal of Managed Lettings and Over 55’s Schemes by North East Wales (NEW) Homes

30/01/2019 - Withdrawal of Managed Lettings and Over 55’s Schemes by North East Wales Homes

            Cyflwynodd y Cynghorydd Attridge adroddiad North East Wales (NEW) Homes yn Tynnu Eiddo Gosod a Reolir a Chynlluniau i Bobl Dros 55 Oed Yn Ôl 

 

Roedd yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth i NEW Homes ddechrau’r broses a gynlluniwyd o dynnu ‘eiddo gosod a reolir’ ac eiddo i bobl dros 55 oed yn ôl a thynnu’r amcan corfforaethol “Darparu cynnig cystadleuol i landlordiaid i annog twf y sector rhentu preifat” o Gynllun Busnes NEW Homes.

 

Mae hefyd wedi’i nodi yn yr adroddiad sut roedd y Cyngor yn ceisio datblygu’r cynnig drwy system ddarparu amgen. 

 

Roedd y Cyngor yn cynnal trafodaethau cynnar gyda Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig i weld a fyddent yn fodlon cymryd eiddo gosod a reolir NEW Homes ar yr un telerau a lle roedd y landlord yn cymeradwyo.  O ran y ddau eiddo i bobl dros 55 oed, oherwydd natur ddiamddiffyn y tenantiaid, cynigiwyd eu bod yn cael eu cadw o fewn y Cyngor a’u rheoli drwy’r tîm Dewisiadau Tai fel rhan o’r gwasanaeth llety dros dro.

 

Dywedodd y Cynghorydd Attridge ei fod wedi’i siomi gyda’r newyddiaduraeth ddiweddar ar hyn.  Eglurodd y Prif Weithredwr y byddai cywiriad yn cael ei gyhoeddi gan yr awdur a byddai datganiad gan y Cyngor yn cael ei gyhoeddi hefyd.

 

            PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo NEW Homes i dynnu’n ôl o’r cynlluniau hyn a chymeradwyo tynnu’r amcan corfforaethol a ganlyn “Darparu cynnig cystadleuol i landlordiaid i annog twf y sector rhentu preifat” o’r cynllun busnes; a

 

(b)       Cymeradwyo archwilio systemau darparu amgen ar gyfer yr eiddo gosod a reolir fel rhan o ddatblygiad ehangach y ddarpariaeth Sector Rhentu Preifat.